Skip page header and navigation

Entrepreneuriaeth ac Arloesedd (MBA)

Llundain
1 Flwyddyn Llawn amser

Mae’r rhaglen hon yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth academaidd o’r dadleuon sy’n bodoli ym maes entrepreneuriaeth ac arloesedd ar hyn o bryd. Bydd hyn yn cynnwys adolygu, datblygu ac adlewyrchu ystod o alluoedd a chymwyseddau entrepreneuraidd lefel uchel sy’n berthnasol i sefyllfaoedd entrepreneuraidd ym mhob math o gyd-destunau sefydliadol.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Byddwch yn datblygu gwybodaeth a sgiliau arwain a rheoli a fydd yn hanfodol yn natblygiad eich gyrfa.
02
Cewch weithio gyda thiwtoriaid cyfeillgar, profiadol ac sy’n dysgu ar sail arfer, a byddan nhw’n eich tywys drwy bob cam o'r broses.
03
Cewch ddysgu gan siaradwyr gwadd o fyd busnes, a chymryd rhan mewn cystadlaethau a gweithgareddau eraill.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen hon ar gael i ymgeiswyr Cartref ac ymgeiswyr Rhyngwladol.

Mae’r MBA hwn wedi’i anelu at fyfyrwyr sy’n awyddus i ddefnyddio dulliau entrepreneuraidd mewn sefydliadau sy’n anelu at wneud elw a rhai sefydliadau dielw, mewn sefydliadau bach a mawr, ac ar lefel byd-eang neu leol. Efallai bydd rhai myfyrwyr yn awyddus i fod yn berchen ar eu menter entrepreneuraidd eu hunain yn y dyfodol.

Bydd myfyrwyr yn datblygu’r sgiliau a’r wybodaeth y byddan nhw eu hangen i gynnal gwaith ymchwil manwl ar amrywiaeth o faterion entrepreneuraidd, a hynny gan ganolbwyntio ar rôl ac effaith entrepreneuriaeth.

Ar ôl cwblhau’r rhaglen hon, mae croeso i fyfyrwyr barhau i astudio gyda ni trwy ymuno â’r rhaglen Doethuriaeth mewn Gweinyddu Busnes.

*Sylwch: Gallai’r Brifysgol ofyn i chi ddewis llwybr arall gyda’r penderfyniad yn seiliedig ar faint y garfan.

Mae’r rhaglen MBA Entrepreneuriaeth ac Arloesedd yn rhoi gwybodaeth gyffredinol ar reoli busnes i’r myfyrwyr, ynghyd â pharatoi sgiliau arbenigol sy’n ymwneud ag entrepreneuriaeth, a hynny er mwyn eich galluogi i ragori yn eich meysydd dewisol.

Compulsory

  • Traethawd Hir, NEU Astudiaeth Achos Integredig, NEU Gynnig Datblygiad Busnes (60 credydau)
Rheolaeth Ariannol

(20 credydau)

Rheoli Marchnata

(20 credydau)

Rheoli Cyfalaf Dynol

(20 credyd)

Compulsory

Rheolaeth Strategol

(20 credydau)

Entrepreneuriaeth yn yr Economi Arloesi

(20 credyd)

Cyllid Rheoli ac Arweiyddiaeth

(20 credyd)

Compulsory

Dewiswch UN o’r modylau isod.

Traethawd Hir

(60 credydau)

Astudiaeth Achos Integredig

(60 credydau)

Cynnig Datblygiad Busnes

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

tysteb

Llety

Llety Birmingham

Mae Birmingham yn cynnig profiad gwych i fyfyrwyr, gan ddenu miloedd o fyfyrwyr y flwyddyn i’r ddinas myfyrwyr ffyniannus hon. Mae amrywiaeth o lety pwrpasol i fyfyrwyr ar gael a bydd ein tîm llety yn gallu cynnig arweiniad i chi. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae’r rhaglen hon ar gael i ymgeiswyr Cartref ac ymgeiswyr Rhyngwladol.

    Ymgeiswyr Cartref:

    Fel arfer, bydd angen o leiaf gradd 2:2 o’r DU, neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol sydd wedi’i gydnabod gan UK ENIC, neu bum mlynedd o brofiad gwaith ar lefel uwch-reolwr yn hytrach na gradd gyntaf.

    Ymgeiswyr rhyngwladol:

    Fel arfer, bydd angen o leiaf gradd 2:2 o’r DU, neu gymhwyster rhyngwladol cyfatebol sydd wedi’i gydnabod gan UK ENIC, neu bum mlynedd o brofiad gwaith ar lefel uwch-reolwr yn hytrach na gradd gyntaf.

    Fel arfer, bydd angen sgôr IELTS cyfartalog o 6.0 neu uwch (neu gyfwerth mewn unrhyw brawf cymeradwy arall), heb unrhyw sgôr is na 5.5 mewn unrhyw gydran o’r prawf.

  • Mae modiwlau’n cael eu hasesu drwy waith cwrs. Mae sawl gwahanol fath o waith cwrs, gan gynnwys prosiectau seiliedig ar waith, prosiectau ymchwil bach, cyflwyniadau, dadansoddiadau o astudiaethau achos a’r prosiect ymchwil / traethawd hir terfynol. Efallai y bydd myfyrwyr sydd ddim mewn cyflogaeth ar hyn o bryd yn gallu seilio eu prosiectau ar astudiaethau achos.

  • Ni fydd unrhyw gostau ychwanegol gorfodol i astudio y tu hwnt i dalu am ffioedd dysgu. Dylai myfyrwyr fod yn barod i ysgwyddo’r costau sylfaenol sy’n gysylltiedig ag astudio, fel cludiant, ac efallai y byddan nhw am brynu coffi, byrbrydau neu eitemau amrywiol eraill ar y campws.

    Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dewis buddsoddi mewn offer fel gliniaduron i’w cynorthwyo gyda’u hastudiaethau, er nad yw hyn yn ofynnol ar gyfer y rhaglen. Bydd unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud ag astudio neu fywyd myfyriwr sy’n dwyn cost y tu hwnt i gost ffioedd dysgu yn ddewisol, a bydd y gost yn cael ei chyfleu’n glir i fyfyrwyr wrth gofrestru.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r MBA hwn wedi’i anelu at fyfyrwyr a allai fod yn awyddus i weithio mewn swyddi fel rheolwr marchnata, rheolwr brand, dadansoddwr ymchwil i’r farchnad, neu reolwr cynnyrch newydd yn y DU neu dramor.

    Gallai’r rhai sydd â sgiliau ariannol cryf fynd am yrfa ym meysydd cynllunio strategol neu gynllunio marchnadoedd, ac mae cyfleoedd hefyd i weithio fel rheolwyr gwerthu, rheolwyr hysbysebu, cyfarwyddwyr cysylltiadau cyhoeddus, a rheolwyr cyfathrebiadau marchnata.

    Yn aml, bydd gan asiantaethau marchnata a hysbysebu gyfleoedd i ddeiliaid MBA Marchnata ym meysydd hysbysebu, marchnata uniongyrchol, a chyfathrebu, ac mae cwmnïau ymgynghori hefyd yn eu cyflogi fel datblygwyr marchnadoedd newydd, strategwyr ac fel arbenigwyr segmentu cwsmeriaid.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau