Skip page header and navigation

Arfer Pobl (Foundation Certificate)

Caerfyrddin
Rhan-amser: blwyddyn

Mae’r cymhwyster lefel mynediad hwn yn berffaith ar gyfer pobl broffesiynol sydd yn eu swydd gyntaf ym maes proffesiwn pobl neu’n chwilio am swydd yn y maes, gan y byddwch yn cael:

  • Sylfaen gadarn mewn Arfer Pobl
  • Y wybodaeth, y sgiliau a’r ymddygiadau ar gyfer cyflawni tasgau sydd o fudd i’ch sefydliad ar lefel weithredol
  • Yr hyder i gefnogi newid cadarnhaol ar gyfer cydweithwyr a’ch sefydliad.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
Rhan-amser: blwyddyn

Ariennir y rhaglen yn llawn ar gyfer ymgeiswyr cymwys

Pam dewis y cwrs hwn

01
Ennill cymhwyster y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD) a sylfaen gadarn ym maes arfer pobl
02
Gweithio gyda thiwtoriaid cyfeillgar, profiadol sy’n arwain drwy ymarfer​
03
 Byddwch yn dod yn rhan o rwydwaith o weithwyr proffesiynol a chael mynediad i ddigwyddiadau ac adnoddau datblygiad proffesiynol ychwanegol trwy ein cysylltiadau cryf â changen leol y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu (CIPD).

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trwy astudio pedair uned graidd mewn Diwylliant Busnes, Ymddygiadau Craidd, Dadansoddeg a Hanfodion Arfer Pobl, byddwch yn datblygu’r arbenigedd i gefnogi newid a chreu argraff yn eich sefydliad.​


Byddwch yn canolbwyntio ar sefyllfaoedd bywyd go iawn, gan gaffael ymddygiadau craidd sy’n deillio o Fap Proffesiwn newydd y CIPD, sy’n seiliedig ar ddealltwriaeth gynyddol miloedd o arbenigwyr.​ Mae cymwysterau CIPD yn gosod y safon ryngwladol ar gyfer gweithwyr pobl proffesiynol.

Byddwch yn magu’r hyder i wthio eich gyrfa yn ei blaen - a gydag aelodaeth CIPD, byddwch yn meddu ar y gydnabyddiaeth sydd ei hangen i gydio yn y rôl rydych chi wedi bod ei heisiau erioed.

Busnes, Diwylliant a Newid mewn Cyd-destun

(5 credydau)

Egwyddorion Dadansoddeg

(4 credydau)

Ymddygiadau Craidd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Pobl

(4 credydau)

Hanfodion Arfer Pobl

(11 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

Carmarthen Accommodation

Llety Caerfyrddin

Mae amrywiaeth o lety yng Nghaerfyrddin ac rydym yn gwarantu llety ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn 1af, gyda llety ar gael i fyfyrwyr yr 2il a’r 3edd flwyddyn hefyd.  Wedi’ch lleoli ar gampws Caerfyrddin byddwch chi reit ynghanol popeth, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr 18 oed ac yn hŷn. Nid oes angen unrhyw gymwysterau blaenorol ar gyfer y cwrs hwn, er bod disgwyl i chi ddangos y gallu i ysgrifennu’n academaidd ar lefel 3.​

  • Does dim arholiadau. Byddwch yn cael eich asesu trwy aseiniadau ysgrifenedig.

  • Mae costau ychwanegol yn cynnwys aelodaeth orfodol CIPD i fyfyrwyr a phrynu gwerslyfrau sy’n ddewisol.

    Mae Aelodaeth Myfyrwyr o’r CIPD yn costio £98 y flwyddyn, yn ogystal â ffi ymuno o £40. (Chwefror 2022).

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsarïau.

  • Pan fyddwch yn cwblhau eich cymhwyster, byddwch yn derbyn Aelodaeth Sylfaenol CIPD, a’r dynodiad “CIPD Sylfaenol” (“Foundation CIPD” ) ar ôl eich enw. Mae hyn yn meithrin eich hygrededd yn y proffesiwn pobl, yn dangos eich bod o ddifrif ynglŷn â’ch datblygiad a bod gennych sylfaen gref o wybodaeth i adeiladu arni.

Mwy o gyrsiau Busnes a Rheoli

Chwiliwch am gyrsiau