Skip page header and navigation

Astudiaethau Celtaidd ac Astudiaethau Canoloesol (Rhan amser) (DipAU)

Dysgu o Bell
6 blynedd rhan-amser

Mae rhai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw’r byd ym maes Astudiaethau Celtaidd ac Astudiaethau Canoloesol wedi dod ynghyd i gynhyrchu rhaglen newydd arloesol. 

Mae’r cwrs DipAU Cydanrhydedd dysgu o bell unigryw hwn yn galluogi myfyrwyr i gyfuno diddordebau yn hanes a llenyddiaeth ganoloesol Prydain ac Ewrop gyda chariad at hanes a diwylliant Celtaidd.​ 

Mae’r addysgu’n cael ei arwain gan ymchwil, wedi’i wreiddio yn niddordebau proffesiynol ac arbenigedd y darlithwyr, gan gyfuno astudiaeth o newid dros amser mewn modiwlau arolwg eang, llawn gwybodaeth ynghyd â modiwlau mwy penodol sy’n canolbwyntio ar bynciau.​

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Hyd y cwrs:
6 blynedd rhan-amser

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r rhaglen yn cael ei haddysgu gan staff sy'n arbenigo ym maes Hanes Canoloesol ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a'r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (CAWCS).
02
Dysgwch ble y gallwch ddod o hyd i'r ffynonellau pwysicaf am y bobloedd Celtaidd a sut i gwestiynu'r fersiynau amrywiol o'r gorffennol sydd wedi'u cyflwyno gan haneswyr, ieithyddwyr, astudwyr llên gwerin ac archeolegwyr.
03
Mae’r rhaglen hon yn cael ei haddysgu trwy ein platfform dysgu o bell unigryw, felly gallwch barhau i weithio a chyflawni eich ymrwymiadau teuluol tra byddwch yn astudio ar gyfer eich gradd BA.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen Gydanrhydedd Astudiaethau Celtaidd ac Astudiaethau Canoloesol yn PCYDDS yn caniatáu i fyfyrwyr archwilio sawl agwedd wahanol ar dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog y rhanbarthau Celtaidd yn ogystal ag ymchwilio i hanes, llenyddiaeth, celf a chrefydd hynod ddiddorol Ynysoedd Prydain a chyfandir Ewrop yn yr Oesoedd Canol.


Mae’r addysgu sy’n cael ei arwain gan ymchwil, wedi’i wreiddio yn niddordebau
proffesiynol ac arbenigedd y darlithwyr. Yn gyffredinol, mae’r rhaglen yn rhoi gwerthfawrogiad i fyfyrwyr o dechnegau a dulliau haneswyr ac ysgolheigion eraill, ynghyd â dealltwriaeth amlochrog, gyfannol o hanes. Mae’r pynciau’n amrywio o Siarlymaen a’r Rhyfel Can Mlynedd neu groesgadau’r Canol Oesoedd i adfywiad Derwyddiaeth yn y ddeunawfed ganrif.​


Bydd myfyrwyr yn datblygu dealltwriaeth o’r nodweddion unigryw a’r cysyniadau ieithyddol sy’n diffinio ‘Celtaidd’ fel teulu ieithyddol a sut mae’r cysyniad hwn wedi ymestyn i feysydd llenyddiaeth, archaeoleg,
celf, cerddoriaeth a hunaniaeth ddiwylliannol.​

Sgiliau Academaidd

(20 credydau)

Cyflwyniad i Lenyddiaeth Geltaidd

(20 credydau)

Croesgadau'r Canol Oesoedd

(20 credydau)

Y Byd Canol Oesol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Gelf Geltaidd

(20 credydau)

Y Celtiaid Cynnar

(20 credydau)

Sgiliau Academaidd

(20 credydau)

Cyflwyniad i Lenyddiaeth Geltaidd

(20 credydau)

Sgiliau Iaith Gymraeg 1

(20 credydau)

Cyflwyniad i Gelf Geltaidd

(20 credydau)

Cyflwyniad i'r Ieithoedd Celtaidd

(20 credydau)

Rhyddiaith Cymru yn y Canol Oesoedd

(20 credydau)

Cerddi Mawl Cymraeg yr Oesoedd Canol

(20 credydau)

Sancteiddrwydd ac Ysbrydolrwydd Celtaidd: Hagiograffeg a Chyltiau'r Saint

(20 credydau)

Hunaniaeth a Myth: Y Normaniaid a'u Byd

(20 credydau)

Meddygaeth a Gwyrthiau: Iechyd, Salwch a Gwellhad

(20 credydau)

O Fythau'r Anialwch i Straeon Defaid: Y Sistersiaid yn yr Oesoedd Canol

(20 credydau)

Y Celtiaid trwy lygaid y Groegiaid a'r Rhufeiniaid

(20 credydau)

Cwestiwn Iwerddon 1886-1998: o Charles Parnell i Gytundeb Dydd Gwener y Groglith

(20 credydau)

Sut mae Llydaw yn cael ei Chynrychioli

(20 credydau)

Enwau Lleoedd Cymraeg a Cheltaidd

(20 credydau)

Sgiliau Iaith Gymraeg 2

(20 credydau)

Cernyw heb y Gernyweg

(20 credydau)

Gwir Frythoniaid

(20 credydau)

Rhyddiaith Cymru yn y Canol Oesoedd

(20 credydau)

Cerddi Mawl Cymraeg yr Oesoedd Canol

(20 credydau)

O Fythau'r Anialwch i Straeon Defaid: Y Sistersiaid yn yr Oesoedd Canol

(20 credydau)

Sancteiddrwydd ac Ysbrydolrwydd Celtaidd: Hagiograffeg a Chyltiau'r Saint

(20 credydau)

Gwlad, gwlad: Agweddau ar Hanes Cymru o 1200 hyd heddiw

(20 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

    I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  • Bydd y rhaglen hon yn cynnwys nifer o’r mathau canlynol o asesu:

    • traethodau 1,000 i 4,000 o eiriau o hyd
    • dadansoddi dogfennau
    • adolygiadau o lyfrau / cyfnodolion
    • adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol
    • dyddlyfrau maes
    • posteri
    • cyflwyniadau grŵp ac unigol
    • traethodau hir 10,000 o eiriau
    • sylwebaethau
  • Gwneir amcangyfrifon gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau.  Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.

    Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.

    Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno dau gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Bydd graddedigion llwyddiannus yn ennill sgiliau a fydd yn arwain at ystod o swyddi posibl yn cynnwys y canlynol:

    • addysgu
    • y diwydiant treftadaeth a thwristiaeth
    • llyfrgelloedd
    • archifau a gwasanaethau gwybodaeth
    • llywodraeth leol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru
    • gwasanaeth sifil
    • gweinyddu
    • prawf ddarllen
    • cyhoeddi
    • newyddiaduraeth
    • ffilm
    • teledu
    • y cyfryngau
    • y celfyddydau creadigol

    Mae llawer o’n myfyrwyr yn symud ymlaen i astudio cyrsiau ôl-raddedig yn PCYDDS: er enghraifft, y cwrs  MA mewn Astudiaethau Celtaidd, y cwrs MA mewn Astudiaethau Canoloesol neu  MPhil ac astudiaeth PhD.

Mwy o gyrsiau Hanes ac Archaeoleg

Chwiliwch am gyrsiau