Skip page header and navigation

Treftadaeth (Rhan amser) (PGCert)

Llambed
2 Flynedd Rhan amser

Mae’r cwrs MRes Treftadaeth yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gael dealltwriaeth fanwl o dreftadaeth o safbwynt gwahanol ddisgyblaethau, gan gynnwys archaeoleg a hanes.


Mae’n galluogi myfyrwyr i feithrin craffter meddwl beirniadol wrth archwilio ystyr treftadaeth fel cysyniad a sut mae cysyniadau o’r fath yn cael eu cymhwyso yn y DU ac yn fyd-eang, gan ddarparu mewnwelediadau gwerthfawr a dealltwriaeth o sector sy’n dod yn fwy arwyddocaol yn y byd sydd ohoni. 


Mae treftadaeth, yn yr ystyr hwn, yn ymwneud â’r gorffennol, wedi’i dychmygu a’i chreu ar gyfer, ac yn, y presennol, ond yn cael ei gwerthfawrogi’n ehangach ar gyfer y dyfodol. Gallai’r gorffennol fel Treftadaeth gynnwys amgylchoedd diriaethol olion y dirwedd, celf, adeiladau ac ysgrifenedig, ochr yn ochr â’r agweddau mwy anniriaethol ar dreftadaeth megis ymdeimlad o le, gofod ac adlais diwylliannol, neu leoliad defod, gwyliau a chof cymdeithasol.


Mae’r cwrs MRes yn ystyried sut mae Treftadaeth yn faes dadleuol: wedi’i osod o fewn fframwaith o anghenion a rhwymedigaethau cymunedol/cymdeithasol, ac yn ymwneud â phroblemau o ran dehongli a chynrychiolaeth. Mae treftadaeth hefyd yn adnodd ac yn gynnyrch economaidd, yn ‘ddiwydiant’ wedi’i blethu i fywyd economaidd cymuned a gwladwriaeth, wedi’i ffurfio gan benderfyniadau cadwraeth a diogelu, ac wedi’i harwain trwy rwydwaith o uchelgeisiau a blaenoriaethau gwleidyddol, cyfreithiol a sefydliadol sy’n gorgyffwrdd.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Rhan amser
  • Ar y campws
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Dull ymarferol ac addysgu trochi arloesol mewn grwpiau bach a thiwtorialau un-i-un
02
Cyfle i gwblhau lleoliad gwaith gyda sefydliad treftadaeth perthnasol, er enghraifft, CADW, Historic England/English Heritage, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, CBHC, ac Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan
03
Cyfleoedd i archwilio technegau blaengar ym maes y dyniaethau digidol

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r radd ymchwil unigryw hon yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddatblygu dealltwriaeth unigryw o’r sector treftadaeth ac yn rhoi cyfleoedd cadarn i fyfyrwyr gael eu cyflogi mewn swyddi sy’n gysylltiedig â threftadaeth. Mae’n cyfuno dau fodiwl gorfodol eang o ran natur gyda modiwlau dewisol unigryw ac arbenigol sy’n caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu’r modd unigryw y maen nhw’n mynd i’r afael â’r materion damcaniaethol, cysyniadol ac ymarferol sy’n ymwneud â threftadaeth.


Mae’r cwrs MRes yn addas ar gyfer myfyrwyr sy’n mwynhau ymchwil annibynnol. Mae’r MRes yn cynnwys dau fodiwl a addysgir sy’n werth 60 credyd, ond mae prif ffocws y radd ar ddarn hirach o ymchwil unigol (30,000 o eiriau). Mae’n ofynnol i ymgeiswyr drafod eu hymchwil arfaethedig gyda’r Ysgol cyn gwneud cais, a rhaid i’r ymchwil arfaethedig ddod o dan un o’r meysydd goruchwylio sy’n cael eu cynnig gan y staff.


Mae’r cwrs Treftadaeth (MRes) yn dechrau gyda modiwl methodoleg ymchwil arbenigol ac yna dewis o un modiwl dewisol (a amlinellir isod).


Y traethawd hir sy’n ffurfio’r rhan fwyaf o’r cwrs Treftadaeth (MRes), gan fod myfyrwyr yn cael y cyfle i lunio ac ymchwilio i bwnc o’u dewis eu hunain sy’n fwy o ran hyd a dyfnder na’r traethawd MA.


Mae hyn yn galluogi’r myfyrwyr hynny sy’n ffafrio ymchwil annibynnol, ac efallai sydd â syniad cliriach ar ddechrau’r rhaglen o’r hyn y maent eisiau ei gynnwys yn sail i’w hymchwil, i fynd i’r afael ag ymchwil manwl o fewn rhaglen astudio strwythuredig. Bydd hefyd yn rhagarweiniad ardderchog i fyfyrwyr ar gyfer ymchwil pellach ar lefel MPhil neu PhD.

Gorfodol

Datod Treftadaeth: Hanes, Theori, Dulliau

(30 credydau)

Dewisol

Lleoliad Gwaith

(20 credydau)

Hanes a Threftadaeth Cymru

(30 credydau)

Treftadaeth a'r Cyfryngau

(15 credydau)

Sgiliau yn yr Amgueddfa

(15 credydau)

Ysgrifennu ar gyfer Treftadaeth

(15 credydau)

Cyflwyniad i'r Dyniaethau Digidol
Sgrinio'r Gorffennol: Ffilm a Hanes - Hynafol, Canoloesol, Modern
Athroniaeth Amgylcheddol
Treftadaeth yn y Byd Gwleidyddol: Cymunedau ac Agweddau Cymharol

(30 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Accommodation

students sitting in Carmarthen student halls

Llety Llambed

Mae ein llety yn Llambed ar y Campws ei hun, sy’n golygu nad ydych chi byth yn bell o’r hyn sy’n digwydd ar y campws.  Mae amrywiaeth o opsiynau gwahanol ar gael i’n myfyrwyr a fydd yn addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar radd gyntaf da (dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch), er hynny mae pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun, felly gellir cynnig lle ar sail cymhwyster proffesiynol a phrofiadau perthnasol.


    Yn draddodiadol mae angen gradd israddedig dosbarth 2.1 neu ddosbarth 1af ar gyfer mynediad i raglen Lefel 7. Mae’r Ysgol yn annog myfyrwyr sydd â chymhwyster proffesiynol cyfatebol a phriodol neu brofiad proffesiynol sylweddol a pherthnasol i ymgeisio’n ogystal. 


    Mae’n ofynnol i ymgeiswyr drafod eu hymchwil arfaethedig gyda Chyfarwyddwr y Rhaglen cyn gwneud cais, a rhaid i’r ymchwil arfaethedig ddod o dan un o’r meysydd goruchwylio a amlinellir uchod.


    Fel arfer, mae hyfedredd ymgeiswyr nad Cymraeg neu Saesneg yw eu hiaith gyntaf yn cael ei brofi gydag isafswm sgôr IELTS (neu gyfwerth) o 6.0 a dim llai na 5.5 ym mhob rhan o’r prawf.

  • Mae’r rhaglen yn defnyddio ystod eang o dechnegau asesu, sy’n anelu at greu haneswyr amryddawn o ran sgiliau a gwybodaeth. Mae modiwlau’n canolbwyntio’n benodol ar ysgrifennu traethodau, ond maent hefyd yn cynnwys yr asesiadau canlynol: adolygiadau o lyfrau; dyddiaduron myfyriol; posteri a sylwebaethau ar ffynonellau.

  • Gall myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau cysylltiedig ychwanegol.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r rhaglen yn rhoi sylfaen eang ar gyfer swyddi ôl-raddedig, trwy osod pwyslais arbennig ar y fethodoleg a’r offer ymchwil sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth annibynnol uwch, a thrwy hynny weithredu fel hyfforddiant i fyfyrwyr sy’n bwriadu ymgymryd ag MPhil neu PhD.

Mwy o gyrsiau Hanes ac Archaeoleg

Chwiliwch am gyrsiau