Skip page header and navigation

Gwrthdaro, Rhyfel a Chymdeithas (Rhan amser) (BA Anrh)

Dysgu o Bell
6 Blynedd Rhan amser
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Mae’r rhaglen hon yn archwilio’r ffyrdd hynod ddiddorol y mae gwrthdaro a rhyfel wedi llunio hanes dynol ac yn parhau i ddylanwadu ar ein byd heddiw. O frwydrau cyfnod yr henfyd i wrthdaro cymhleth yr 21ain Ganrif, mae’r cwrs hwn yn darparu archwiliad cynhwysfawr o’r grymoedd sydd wedi llunio cymdeithasau erioed.

Gan ddefnyddio dull rhyngddisgyblaethol, bydd myfyrwyr yn astudio ystod eang o ddisgyblaethau, gan gynnwys Hanes yr Henfyd, yr Oesoedd Canol a’r Cyfnod Modern, Archaeoleg, Treftadaeth, cysylltiadau rhyngwladol, Gwleidyddiaeth, Athroniaeth ac astudiaethau’r Cyfryngau.
Mae hyn yn sicrhau dealltwriaeth gyflawn o’r agweddau niferus ar wrthdaro. 

Mae’r cwricwlwm yn cynnwys modiwlau ar wrthdaro hanesyddol a rhyfela mawr ac yn ymestyn i themâu ehangach fel moeseg a gweithredaeth gymdeithasol, gyda phob un yn rhoi profiad dysgu cyfoethog ac amrywiol.

Trwy’r rhaglen radd hon byddwch yn mireinio eich sgiliau dadansoddol a meddwl beirniadol, sy’n hanfodol i’r rhai sydd â diddordeb mewn gyrfaoedd sy’n gysylltiedig â diplomyddiaethcydweithredu rhyngwladol neu waith Dyngarol

Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio i fod yn gydweithredol, gan gynnig llawer o gyfleoedd i fyfyrwyr gydweithio â chyfoedion a darlithwyr. Mae ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) yn darparu lle deinamig ar gyfer trafodaethau, tasgau a seminarau, gan feithrin cymuned atyniadol a chefnogol. 

Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sydd â diddordeb yn hanes a gwleidyddiaeth rhyfela, a’r rhai sy’n angerddol am ddeall cymhlethdodau cymdeithasol a moesegol gwrthdaro, ac atebion sy’n ymwneud â rhai o faterion pwysicaf ein hoes.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Côd UCAS:
CWS1
Hyd y cwrs:
6 Blynedd Rhan amser
Gofynion mynediad:
96 - 112 o Bwyntiau UCAS

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae dysgu o bell yn cynnig dull hyblyg o astudio.
02
Addysgir y rhaglen hon i chi drwy ein llwyfan dysgu o bell unigryw, fel y gallwch barhau i weithio a chadw i fyny â'ch ymrwymiadau teuluol tra byddwch yn astudio ar gyfer eich gradd BA.
03
Cyfle ar gyfer seminarau ar-lein.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen BA Gwrthdaro, Rhyfel a Chymdeithas yn cynnig dull integredig o ddysgu, gan gyfuno disgyblaethau academaidd amrywiol i archwilio effaith ddwys gwrthdaro drwy gydol hanes. Rydym yn integreiddio theori ac ymarfer i roi dealltwriaeth gynhwysfawr i fyfyrwyr o ryfel, ei ddimensiynau moesegol, a’i arwyddocâd wrth lunio cymdeithasau ar hyd yr oesau.

Yn y flwyddyn gyntaf, mae myfyrwyr yn meithrin dealltwriaeth sylfaenol o ryfel a gwrthdaro, gan archwilio eu damcaniaethau, eu moeseg a’u harferion. Bydd myfyrwyr yn datblygu sgiliau academaidd allweddol ac yn archwilio themâu pŵer ac anghydraddoldeb, gan osod y sylfaen ar gyfer archwilio pellach yn y blynyddoedd dilynol.

Sgiliau Academaidd

(20 credydau)

Oes yr Eithafion: Byd yn Rhyfela, c. 1914–1991

(20 credydau)

Pŵer ac Anghydraddoldeb

(20 credydau)

Gwrthdaro a Rhyfel: Theori, Moeseg, Arfer

(20 credydau)

‘Llwybrau at Ddrygioni’: Hil-laddiad – Hanes, Theori a Gwadiad

(20 credydau)

Cyflwyniad i Foeseg

Mae’r ail flwyddyn yn ehangu ar gysyniadau sylfaenol, ac yn cynnig ystod eang o fodiwlau i ddewis o’u plith ar draws pynciau gan gynnwys hanes, treftadaeth ac astudiaethau’r cyfryngau.

Moeseg Trais
Treftadaeth ac Archaeoleg Gwrthdaro

(20 credydau)

Byddinoedd a Llynghesoedd: Astudiaethau Rhyfela Hynafol

(20 credydau)

Prydain a'r Rhyfel Mawr

(20 credydau)

Sinema a Rhyfel

(20 credydau)

Anufudd-dod Sifil a'r Wladwriaeth

(20 credydau)

Croesgadau'r Canol Oesoedd

(20 credydau)

Celfyddyd Rhyfel Sun Tzu

(20 credydau)

Moeseg Bywyd a Marwolaeth

(20 credydau)

Cysyniadau o Heddwch: Mudiadau, Syniadau, Arferion
Gelynion Oddi Mewn ac Oddi Allan: Thatcher, Reagan a Diwedd y Consensws ar ôl y Rhyfel
Gormes a Chwyldro yn yr Hen Fyd

Yn y flwyddyn olaf, mae myfyrwyr yn ymgymryd â phrosiect traethawd hir manwl sy’n seiliedig ar ymchwil, gan ddangos dealltwriaeth gynhwysfawr o astudiaethau gwrthdaro. Bydd myfyrwyr yn cael eu herio ymhellach i ymwneud yn feirniadol â dimensiynau hanesyddol, gwleidyddol a moesol rhyfel a gwrthdaro trwy fodiwlau dewisol ychwanegol. 

Prydain a'r Rhyfel Mawr

(20 credydau)

Croesgadau'r Canol Oesoedd

(20 credydau)

Traethawd Hir

(60 credydau)

Byddinoedd a Llynghesoedd: Astudiaethau Rhyfela Hynafol

(20 credydau)

Moeseg Trais
Sinema a Rhyfel

(20 credydau)

Anufudd-dod Sifil a'r Wladwriaeth

(20 credydau)

Treftadaeth ac Archaeoleg Gwrthdaro

(20 credydau)

Celfyddyd Rhyfel Sun Tzu

(20 credydau)

Moeseg Bywyd a Marwolaeth

(20 credydau)

Cysyniadau o Heddwch: Mudiadau, Syniadau, Arferion
Gelynion Oddi Mewn ac Oddi Allan: Thatcher, Reagan a Diwedd y Consensws ar ôl y Rhyfel
Gormes a Chwyldro yn yr Hen Fyd

Course disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

    I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  • Yn bennaf, cynhelir asesiadau drwy aseiniadau gwaith cwrs.

  • Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.

    Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau cysylltiedig ychwanegol.

    Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir mai £20 fydd cost rhwymo’r rhain.

    Taith Maes ddewisol:

    Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig yn seiliedig ar ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.

    Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): c. £500 – £1,500

    Gwibdeithiau unigol: c. £5 – £50

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Byddwch yn datblygu’ch gallu i ddadansoddi, meddwl yn rhesymegol a dadlau o fewn amgylchedd sy’n eich annog ac sy’n eich cefnogi. Y sgiliau cyfathrebu, dealltwriaeth, dadansoddi a hunanreolaeth fydd yn basbort i chi i gyflogaeth. Gallai’r mathau o waith gynnwys gwaith amgueddfa ac archifau, newyddiaduraeth, y gyfraith, bancio, gwleidyddiaeth leol, pob math o waith gweinyddol, marchnata a hysbysebu, ac addysgu.

Mwy o gyrsiau Hanes ac Archaeoleg

Chwiliwch am gyrsiau