Skip page header and navigation

Astudiaethau Celtaidd ac Astudiaethau Canoloesol (Rhan amser) (BA Anrh)

Dysgu o Bell
6 blynedd rhan-amser

Croeso i raglen gyffrous ac arloesol mewn Astudiaethau Celtaidd ac Astudiaethau Canoloesol. Mae’r cwrs hwn yn dwyn ynghyd rai o arbenigwyr mwyaf blaenllaw’r byd yn y meysydd diddorol hyn. Fe’i cynlluniwyd i fynd â chi ar daith drwy’r gorffennol, gan archwilio straeon a diwylliannau sydd wedi llunio ein byd heddiw.

Mae hwn yn gwrs BA Cydanrhydedd dysgu o bell unigryw, sy’n berffaith ar gyfer myfyrwyr sydd am archwilio Hanes Canoloesol Prydain ac Ewrop. Byddwch yn dysgu am ddigwyddiadau pwysig a phobl o’r Oesoedd Canol, gan ddarganfod sut y gwnaethant ddylanwadu ar y byd rydym yn byw ynddo nawr. Byddwch hefyd yn astudio Llenyddiaeth yr Oesoedd Canol, gan archwilio straeon a cherddi sydd wedi’u rhannu ers cannoedd o flynyddoedd.

Trwy’r cwrs hwn byddwch yn cael dealltwriaeth unigryw o Hanes a diwylliant Celtaidd. Cewch gyfle i ddysgu am yr hen Geltiaid a sut mae eu ffyrdd o fyw a’u credoau yn dal i fod yn rhan o’n bywydau ni heddiw. Gallwch archwilio traddodiadau Cymreig a’r Iaith Geltaidd, a gweld sut maen nhw’n gysylltiedig â  Diwylliant a Chelf yr Oesoedd Canol.

Mae’r addysgu yn y rhaglen hon yn cael ei arwain gan ymchwil, yn seiliedig ar y canfyddiadau a’r syniadau diweddaraf gan arbenigwyr sy’n angerddol am y pynciau hyn. Mae ein darlithwyr yn arbenigwyr yn eu meysydd, ac maent yn dod â’u gwybodaeth a’u profiad i’r ystafell ddosbarth. 

Byddwch yn astudio amrywiaeth o bynciau sy’n ymdrin â newid dros amser mewn modiwlau arolwg llawn gwybodaeth. Mae’r modiwlau hyn yn rhoi trosolwg eang o themâu a digwyddiadau pwysig. Byddwch hefyd yn cael cyfle i ganolbwyntio ar bynciau mwy penodol sydd o ddiddordeb i chi. Mae’r dull hwn yn eich helpu i ddeall sut mae gwahanol ddarnau o hanes yn cyd-fynd â’i gilydd, gan roi darlun cyflawn i chi o’r gorffennol.

Fel myfyriwr, byddwch yn cael y rhyddid i ddysgu yn y ffordd sydd fwyaf addas i chi. Mae’r fformat dysgu o bell yn caniatáu ichi astudio o unrhyw le, gan roi’r hyblygrwydd i chi gydbwyso eich astudiaethau ag ymrwymiadau eraill. Bydd gennych fynediad at ystod o adnoddau a chymorth i’ch helpu i lwyddo yn eich astudiaethau.

Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd gennych ddealltwriaeth ddofn o hanes cyfoethog a chymhleth y byd Canoloesol a Cheltaidd. Byddwch wedi datblygu sgiliau meddwl beirniadol ac wedi cael gwybodaeth y gellir ei defnyddio mewn llawer o yrfaoedd, megis addysg, treftadaeth a’r cyfryngau. Mae’r rhaglen hon nid yn unig yn agor drysau i gyfleoedd cyffrous ond hefyd yn eich helpu i werthfawrogi effaith y gorffennol ar ein presennol a’n dyfodol.

Ymunwch â ni ar y daith hon drwy hanes a diwylliant a dewch yn rhan o gymuned sy’n gwerthfawrogi dysgu a darganfod. Mae’r radd hon yn rhoi cyfle i archwilio, deall a chysylltu â’r byd mewn ffyrdd newydd a chyffrous.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Côd sefydliad:
T80
Hyd y cwrs:
6 blynedd rhan-amser

Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae’r rhaglen yn cael ei haddysgu gan staff sy'n arbenigo ym maes Hanes Canoloesol ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a'r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd (CAWCS).
02
Dysgwch ble y gallwch ddod o hyd i'r ffynonellau pwysicaf am y bobloedd Celtaidd a sut i gwestiynu'r fersiynau amrywiol o'r gorffennol sydd wedi'u cyflwyno gan haneswyr, ieithyddwyr, astudwyr llên gwerin ac archeolegwyr.
03
Mae’r rhaglen hon yn cael ei haddysgu trwy ein platfform dysgu o bell unigryw, felly gallwch barhau i weithio a chyflawni eich ymrwymiadau teuluol tra byddwch yn astudio ar gyfer eich gradd BA.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen Cydanrhydedd Astudiaethau Celtaidd ac Astudiaethau Canoloesol hon yn cynnig archwiliad trochol o dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog y rhanbarthau Celtaidd a’r cyfnod Canoloesol ym Mhrydain ac Ewrop. Mae ein hathroniaeth addysgu wedi’i gwreiddio mewn dulliau a arweinir gan ymchwil, gan roi dealltwriaeth gynhwysfawr i fyfyrwyr o hanes, llenyddiaeth, celf a chrefydd.

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn meithrin gwybodaeth sylfaenol mewn llenyddiaeth ac ieithoedd Celtaidd, gan archwilio’r byd Celtaidd cynnar trwy gelf a hanes. Bydd modiwlau ychwanegol diddorol yn eich cyflwyno i hanes yr Oesoedd Canol, a byddwch hefyd yn dechrau ar eich astudiaethau i’r Gymraeg. Byddwch yn ennill sgiliau academaidd beirniadol sy’n hanfodol ar gyfer dadansoddi hanesyddol.

Sgiliau Academaidd

(20 credydau)

Cyflwyniad i Lenyddiaeth Geltaidd

(20 credydau)

Croesgadau'r Canol Oesoedd

(20 credydau)

Y Byd Canol Oesol

(20 credydau)

Cyflwyniad i Gelf Geltaidd

(20 credydau)

Cyflwyniad i'r Ieithoedd Celtaidd

(20 credydau)

Y Celtiaid Cynnar

(20 credydau)

Sgiliau Iaith Gymraeg 1

(20 credydau)

Mae’r ail flwyddyn yn dyfnhau eich dealltwriaeth o ryddiaith a barddoniaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, ochr yn ochr ag ysbrydolrwydd hanes y seintiau Celtaidd. Gydag ystod eang o ddewisiadau modiwl ychwanegol, gallech ymchwilio i themâu megis hunaniaeth a myth, enwau lleoedd, iechyd, meddygaeth a gwleidyddiaeth ar draws y rhanbarthau Celtaidd.

Rhyddiaith Cymru yn y Canol Oesoedd

(20 credydau)

Cerddi Mawl Cymraeg yr Oesoedd Canol

(20 credydau)

Sancteiddrwydd ac Ysbrydolrwydd Celtaidd: Hagiograffeg a Chyltiau'r Saint

(20 credydau)

Hunaniaeth a Myth: Y Normaniaid a'u Byd

(20 credydau)

Meddygaeth a Gwyrthiau: Iechyd, Salwch a Gwellhad

(20 credydau)

O Fythau'r Anialwch i Straeon Defaid: Y Sistersiaid yn yr Oesoedd Canol

(20 credydau)

Cwestiwn Iwerddon 1886-1998: o Charles Parnell i Gytundeb Dydd Gwener y Groglith

(20 credydau)

Cernyw heb y Gernyweg

(20 credydau)

Gwlad, gwlad: Agweddau ar Hanes Cymru o 1200 hyd heddiw

(20 credydau)

Sut mae Llydaw yn cael ei Chynrychioli

(20 credydau)

Enwau Lleoedd Cymraeg a Cheltaidd

(20 credydau)

Sgiliau Iaith Gymraeg 2

(20 credydau)

Cyltiau, Iacháu a Chanoneiddio: Seintiau yn yr Oesoedd Canol

(History)

Prydain yr Oesoedd Canol o Edward Gyffeswr i Risiart II, 1042 - 1399

(History)

Ewrop yr Oesoedd Canol o Siarlymaen i’r Rhyfel Can Mlynedd, 800 - 1453

(History)

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn ymchwilio i safbwyntiau Celtaidd trwy ffynonellau Groegaidd a Rhufeinig ac yn cwblhau traethawd hir manwl. Byddwch yn parhau â’ch astudiaeth o iaith a diwylliant Cymru a’r Celtiaid ac yn archwilio’r newidiadau diwylliannol a welwyd drwy gydol hanes o 1200 tan heddiw.

Y Celtiaid trwy lygaid y Groegiaid a'r Rhufeiniaid

(20 credydau)

Cwestiwn Iwerddon 1886-1998: o Charles Parnell i Gytundeb Dydd Gwener y Groglith

(20 credydau)

Sut mae Llydaw yn cael ei Chynrychioli

(20 credydau)

Enwau Lleoedd Cymraeg a Cheltaidd

(20 credydau)

Sgiliau Iaith Gymraeg 2

(20 credydau)

Cernyw heb y Gernyweg

(20 credydau)

Gwir Frythoniaid

(20 credydau)

Rhyddiaith Cymru yn y Canol Oesoedd

(20 credydau)

Cerddi Mawl Cymraeg yr Oesoedd Canol

(20 credydau)

O Fythau'r Anialwch i Straeon Defaid: Y Sistersiaid yn yr Oesoedd Canol

(20 credydau)

Sancteiddrwydd ac Ysbrydolrwydd Celtaidd: Hagiograffeg a Chyltiau'r Saint

(20 credydau)

Gwlad, gwlad: Agweddau ar Hanes Cymru o 1200 hyd heddiw

(20 credydau)

Traethawd Hir

(60 credydau)

Hunaniaeth a Myth: Y Normaniaid a'u Byd

(20 credydau)

Meddygaeth a Gwyrthiau: Iechyd, Salwch a Gwellhad

(20 credydau)

Cyltiau, Iacháu a Chanoneiddio: Seintiau yn yr Oesoedd Canol

(History)

Prydain yr Oesoedd Canol o Edward Gyffeswr i Risiart II, 1042 - 1399

(History)

Ewrop yr Oesoedd Canol o Siarlymaen i’r Rhyfel Can Mlynedd, 800 - 1453

(History)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch chi eich dysgu a’ch cefnogi gan ystod eang o staff a thimau proffesiynol yma i’ch helpu i gael y profiad prifysgol rydych chi’n chwilio amdano. Roedd ein staff addysgu yn 2il yng Nghymru am Addysgu, Asesu ac Adborth a Chymorth Academaidd (ACF 2024) sy’n golygu y bydd y cymorth a’r adborth a gewch chi yn eich helpu chi i ddysgu a datblygu sgiliau academaidd cryf. Mae ein myfyrwyr wedi ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru am Gyfleoedd Dysgu a Llais Myfyrwyr (ACF 2024) sy’n golygu bod ystod eang o gyfleoedd ar gael i wella eich astudiaethau a bod myfyrwyr yn chwarae rhan weithredol wrth lunio eu profiadau dysgu. Mae ein hymrwymiad i’ch dysgu chi wedi golygu bod ein myfyrwyr yn ein rhoi ni yn 1af yng Nghymru ac yn gydradd 3ydd yn y DU am foddhad myfyrwyr (Times Higher Education, 2024, mesur ‘Positifrwydd Cyffredinol’). Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

    I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.

  • Bydd y rhaglen hon yn cynnwys nifer o’r mathau canlynol o asesu:

    • traethodau 1,000 i 4,000 o eiriau o hyd
    • dadansoddi dogfennau
    • adolygiadau o lyfrau / cyfnodolion
    • adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol
    • dyddlyfrau maes
    • posteri
    • cyflwyniadau grŵp ac unigol
    • traethodau hir 10,000 o eiriau
    • sylwebaethau
  • Gwneir amcangyfrifon gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau.  Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.

    Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.

    Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno dau gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Bydd graddedigion llwyddiannus yn ennill sgiliau a fydd yn arwain at ystod o swyddi posibl yn cynnwys y canlynol:

    • addysgu
    • y diwydiant treftadaeth a thwristiaeth
    • llyfrgelloedd
    • archifau a gwasanaethau gwybodaeth
    • llywodraeth leol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru
    • gwasanaeth sifil
    • gweinyddu
    • prawf ddarllen
    • cyhoeddi
    • newyddiaduraeth
    • ffilm
    • teledu
    • y cyfryngau
    • y celfyddydau creadigol

    Mae llawer o’n myfyrwyr yn symud ymlaen i astudio cyrsiau ôl-raddedig yn PCYDDS: er enghraifft, y cwrs  MA mewn Astudiaethau Celtaidd, y cwrs MA mewn Astudiaethau Canoloesol neu  MPhil ac astudiaeth PhD.

Mwy o gyrsiau Hanes ac Archaeoleg

Chwiliwch am gyrsiau