Skip page header and navigation

Astudiaethau Clasurol Confucius (Llawn amser) (MA)

Llambed
2 Flynedd Llawn amser

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar astudio ac ymchwilio i grefyddau, ieithoedd a thestunau nodedig hynafol Tsieina.

Bydd myfyrwyr yn astudio ‘doethineb hynafol’ Tsieina, sydd o arwyddocâd diwylliannol ac sy’n cael ei hystyried yn gynyddol berthnasol i bryderon cyfoes, megis llesiant personol a chymdeithasol a chynaliadwyedd.
 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar y campws
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
2 Flynedd Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae amgylchedd dysgu cyfoethog ac ysgogol yn meithrin twf academaidd a chwilfrydedd ymhlith myfyrwyr.
02
Mae ein staff yn weithgar ym maes ymchwil, sy’n sicrhau eu bod nhw’n cael y wybodaeth gyfredol am y datblygiadau diweddaraf yn eu priod feysydd ac yn cyfrannu mewnwelediadau gwerthfawr.
03
Gyda dosbarthiadau bach, mae myfyrwyr yn elwa ar gael sylw mwy personol, gan greu amgylchedd sy'n addas i gael rhyngweithiadau ystyrlon a phrofiadau dysgu effeithiol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Bydd y Rhaglen hon yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â thestunau Tsieineaidd Clasurol Confucius ar lefel uwch a’r gwerthoedd ac arferion ysbrydol, diwylliannol a gwleidyddol y maent yn eu hymgorffori.

Bydd modiwlau yn canolbwyntio ar wella dealltwriaeth o Tsieinëeg Glasurol a methodolegau megis beirniadaeth destunol, sylwebaeth, a dadansoddi testun.

Yn dilyn hynny bydd modiwlau sydd wedi’u trefnu’n thematig o amgylch astudio testunau allweddol o fewn Llyfrgell Gyflawn y Pedair Cainc o Lenyddiaeth a Gwyddoniadur Hanfod y Pedair Cainc o Lenyddiaeth. Ceir ffocws thematig i’r modiwlau astudio testunau a byddant yn ystyried materion megis tarddiad a chynnwys testunau allweddol, a hanes a datblygiadau ym maes cyfieithu a sylwebaeth.

Bydd Methodoleg Ymchwil ar gyfer Astudio Sinoleg (SICH7023) yn canolbwyntio ar wella’r astudiaeth o Sinoleg a’r ddealltwriaeth o iaith a methodolegau Tsieineaidd Clasurol megis beirniadaeth destunol, sylwebaeth, a dadansoddi testun.

Bydd Astudiaethau Clasurol Confucius (SICH7021) yn archwilio rhai o brif destunau Conffiwsiaeth, a dehongliadau o ddoethineb ac effeithiau diwylliannol y testunau hyn, gan gynnwys The Book of I Ching, The Book of History a Three Annals of Spring and Autumn.

Bydd Dehongliad o’r Pedwar Llyfr (SICH7028) yn canolbwyntio ar y Ddysgeidiaeth Fawr, Athrawiaeth y Cymedr, Analects Confucius, a Llyfr Mencius. Bydd Darlleniadau o Egwyddorion Llywodraethol Tsieina Hynafol (SICH7029) yn canolbwyntio ar draddodiadau egsoterig fersiwn Han o’r Caneuon, Dywediadau Confucius a’i ddisgyblion, y Chwe Dysgeidiaeth Strategol Gyfrinachol, Traethawd ar Lywodraethu gan Liu Yi, Llyfr Yangzi ar Lywodraeth ac Ar Restr Bwysig y Llywodraeth.

Bydd Darlleniadau o’r Casgliad o Lyfrau ac Ysgrifeniadau ar yr Egwyddorion Llywodraethol Pwysig (SICH7019) yn canolbwyntio ar destunau allweddol Confucius o’r Casgliad gan gynnwys, er enghraifft, Luxuriant Dew of the Spring and Autumn Annals a The Book of Discussion on Legalism.

Mae modiwl ychwanegol sef Testunau Tsieineaidd Clasurol yn Saesneg (SICH7004), yn galluogi myfyrwyr i ymgymryd ag astudiaeth fanwl o’r derbyniad a gafodd Conffiwsiaeth yn y Gorllewin ac yn enwedig gan y byd Saesneg ei iaith, ac i ddatblygu sgiliau cyfieithu, anodi a sylwebu ar destunau Tsieineaidd Clasurol yn Saesneg.

Gan adeiladu ar y rhan o’r Rhaglen sy’n cael ei addysgu, mae’r Traethawd Hir (SICH7022) caniatáu i fyfyrwyr gwblhau sylwebaeth feirniadol fanwl ar destun Tsieineaidd Clasurol.

Testunau Tsieineaidd Clasurol yn Saesneg

(20 credydau)

Darlleniadau o'r Casgliad o Lyfrau ac Ysgrifeniadau ar yr Egwyddorion Llywodraethol Pwysig

(20 credydau)

Astudiaethau Clasurol Confucius

(20 credydau)

Traethawd Hir: Astudiaethau Testunau Tsieineaidd Clasurol

(60 credydau)

Methodoleg Ymchwil ar gyfer Astudio Sinoleg

(20 credydau)

Dehongliad o'r Pedwar Llyfr

(20 credydau)

Darlleniadau o Egwyddorion Llywodraethol Tsieina Hynafol

(20 credydau)

Ymwrthodiad

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Llety

students sitting in Carmarthen student halls

Llety Llambed

Mae ein llety yn Llambed ar y Campws ei hun, sy’n golygu nad ydych chi byth yn bell o’r hyn sy’n digwydd ar y campws.  Mae amrywiaeth o opsiynau gwahanol ar gael i’n myfyrwyr a fydd yn addas i bob cyllideb.  

Gwybodaeth allweddol

  • Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun ac yn seiliedig ar gyfweliad gyda staff addysgu perthnasol yn y Brifysgol a’r Academi Sinoleg. 

    Mae natur ddwyieithog y rhaglen yn gofyn am rywfaint o gymhwysedd mewn Tsieinëeg a Saesneg.

  • Bydd y cwrs MA mewn Astudiaethau Clasurol Confucius yn apelio’n arbennig at fyfyrwyr sy’n dymuno astudio testunau hynafol Tsieina, datblygu gwybodaeth gyfoethog ac academaidd am destunau Clasurol traddodiadol Tsieina, a chymhwyso’r wybodaeth hon i’w bywydau eu hunain ac eraill. 

    Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddysgu oddi wrth y goreuon yn y pwnc ac i astudio gan ddefnyddio’r dull addysgegol unigryw sy’n deillio o fodel addysgol y ‘Ddysgeidiaeth Fawr Frenhinol’ (皇家太學), sy’n dibynnu ar astudiaeth destunol ddwys a myfyrio.

    Bydd myfyrwyr yn astudio yn yr Academi Sinoleg yn PCYDDS, Academi sydd newydd ei sefydlu yn Llambed sy’n canolbwyntio ar hyfforddi athrawon Sage, a fydd, trwy esiampl, yn cael effaith wirioneddol ar gymdeithas trwy eu harferion moesol dyddiol a’u gweithgareddau addysgu eu hunain.

  • Bydd mynediad i’ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio gyda PCYDDS. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i’ch galluogi i ymgysylltu’n llawn â’ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i’w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu’ch dyfais.

    Efallai y byddwch chi’n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

    • Teithio i’r campws ac oddi yno
    • Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
    • Prynu llyfrau neu werslyfrau
    • Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio
  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae swyddi posibl i raddedigion y rhaglen hon yn cynnwys:

    • athrawon ac addysgwyr mewn amrywiaeth o leoliadau yn Tsieina a’r DU
    • ymchwilwyr academaidd i destunau traddodiadol a thestunau hynafol Tsieina
    • gwaith cyfieithu
    • gweinyddiaeth a pholisi addysgol
    • busnes a mentrau masnachol moesegol
    • mentrau a gwaith cymunedol
    • y diwydiannau gwirfoddol a theithio
    • cadwraeth treftadaeth; gwaith archif ac amgueddfa
    • hyfforddwyr corfforaethol a phersonol mewn ‘athroniaeth’ a sgiliau bywyd hynafol Tsieina

    Mae disgwyl y bydd y graddedigion ar y rhaglenni hyn yn meithrin sgiliau cyflogadwyedd sy’n cynnwys sgiliau wrth drin gwybodaeth a chyfathrebu uwch; lefelau uchel o hunanreolaeth a rheoli prosiect; cymhwyso sgiliau lefel uchel yn ymarferol wrth ddadansoddi testun a dehongli.

Mwy o gyrsiau Hanes ac Archaeoleg

Chwiliwch am gyrsiau