Archaeoleg (Llawn amser) (BA Anrh)
Bydd ein rhaglen gradd Archaeoleg yn rhoi i fyfyrwyr gyfleoedd anhygoel yn y maes a thu hwnt. Nid yn unig y byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr ar reng flaen ymchwil maes, ond byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn ymchwiliadau archeolegol ymarferol. Gall pob myfyriwr Archaeoleg gael profiad mewn technegau labordy yn rhan o’u gradd.
Archaeoleg yw’r astudiaeth o orffennol y ddynoliaeth trwy archwilio olion ffisegol megis offer cerrig, crochenwaith ac esgyrn, yn ogystal ag adeiladau, strwythurau, cofgolofnau a thirweddau. Mae’n ceisio datgelu sut y trefnir cymdeithasau cyfoes a chymdeithasau’r gorffennol, sut mae dynoliaeth yn rhyngweithio gydag amgylcheddau a thirweddau, a sut mae syniadau ynglŷn â’r byd i’w gweld yn y gwrthrychau mae pobl wedi’u creu.
Er mwyn deall y gorffennol yn fanwl, mae angen mynd i’r afael â materion damcaniaethol a moesegol. Golyga hyn ein bod yn archwilion materion megis treftadaeth, portreadu, defnydd tir, technoleg, newid amgylcheddol, marwolaeth, credoau ac esblygiad corff, meddwl a syniadau’r ddynoliaeth, gyda’r bwriad o ehangu ac ymestyn gwybodaeth am y modd mae’r ddynoliaeth wedi cyrraedd y fan lle mae heddiw.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Archaeoleg yw’r astudiaeth o orffennol dyn trwy archwilio olion ffisegol megis offer cerrig, crochenwaith ac esgyrn, yn ogystal ag adeiladau, strwythurau, cofadeiliau a thirweddau. Mae’n ceisio datgelu sut y trefnir cymdeithasau cyfoes a chymdeithasau’r gorffennol, sut mae dynoliaeth yn rhyngweithio gydag amgylcheddau a thirweddau, a sut mae syniadau ynglŷn â’r byd i’w gweld yn y gwrthrychau mae pobl wedi’u creu.
Er mwyn deall y gorffennol yn fanwl, mae angen mynd i’r afael â materion damcaniaethol a moesegol. Golyga hyn ein bod yn archwilio materion megis treftadaeth, portreadu, defnydd tir, technoleg, newid amgylcheddol, marwolaeth, gwrthdaro, credoau ac esblygiad corff, meddwl a syniadau dyn, gyda’r bwriad o ehangu gwybodaeth o’r modd mae dynoliaeth wedi cyrraedd y fan lle mae erbyn heddiw.
Mae nifer o fodylau’n cynnwys taith maes i safleoedd a thirwedd hanesyddol.
Gorfodol
Dewisol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Blwyddyn A
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Blwyddyn B
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Blwyddyn A
(40 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Blwyddyn B
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Course Page Disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Llety
Llety Llambed
Mae ein llety yn Llambed ar y Campws ei hun, sy’n golygu nad ydych chi byth yn bell o’r hyn sy’n digwydd ar y campws. Mae amrywiaeth o opsiynau gwahanol ar gael i’n myfyrwyr a fydd yn addas i bob cyllideb.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae graddau’n bwysig; fodd bynnag, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.
-
Asesir y rhaglen mewn amrywiaeth o ffyrdd a fydd yn cynnwys nifer o’r mathau a ganlyn o asesiad: traethodau rhwng 1,000 a 4,000 o eiriau, dadansoddi dogfen, adolygiadau llyfrau/cyfnodolion, adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol, profion amser, dyddlyfrau maes, posteri, cyflwyniadau grŵp ac unigol.
-
Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.
Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.
Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.
Taith Maes ddewisol:
Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): oddeutu £500 i £1,500
Teithiau unigol: oddeutu £5 i £50 -
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae’r Cyfleoedd gyrfaol a gwaith yn cynnwys:
- Rheoli ym meysydd llywodraeth a masnach
- Sector treftadaeth
- TGCh
- Gwaith y gymuned a llywodraeth leol
- Gwaith amgueddfeydd, arddangosfeydd ac archifau
- Archaeoleg maes proffesiynol
- Cyfleoedd ymchwil ac ôl-raddedig
- Addysgu, swyddog addysg
- Gwaith Gwirfoddol