Gwrthdaro, Rhyfel a Chymdeithas (Rhan amser) (BA Anrh)
Archwilia’r rhaglen hon y ffyrdd niferus y mae gwrthdaro a rhyfel wedi llunio cymdeithasau, o gyfnod yr hen fyd i’r presennol. Mae Gwrthdaro, Rhyfel a Chymdeithas yn mynd ati mewn modd integredig i astudio effaith gwrthdaro mewn amrywiaeth o gyd-destunau cronolegau a daearyddol. Mae’n cynnwys modylau sy’n canolbwyntio ar achosion pwysig o wrthdaro, wrth gyflwyno hefyd bynciau ehangach, megis moeseg trais.
Caiff myfyrwyr flas o’r modd yr astudir rhyfel mewn gwahanol ddisgyblaethau academaidd, gan gynnwys Hanes yr Hen Fyd, yr Oesoedd Canol a’r Cyfnod Modern, Athroniaeth, Astudiaethau Cyfryngol, Archaeoleg ac Astudiaethau Treftadaeth. O’r herwydd, mae’r rhaglen yn rhoi gwerthfawrogiad crwn i fyfyrwyr o hanes rhyfel a’i arwyddocâd cyfoes ym myd yr 21ain ganrif.
Bydd y rhaglen yn ddeniadol i’r rhai sydd â diddordeb yn hanes rhyfel a hanes a chanfyddiad gwrthdaro. Bydd dimensiynau moesol y rhaglen o ddiddordeb i unigolion sy’n rhan o wahanol fathau o weithgarwch cymdeithasol.
Mae’r rhaglen yn gydweithredol yn ei hanfod ac mae gan fyfyrwyr lawer o gyfleoedd i weithio gyda’u cymheiriaid a darlithwyr trwy’r Amgylchedd Dysgu Rhithwir (ADRh) trwy fforymau, tasgau a seminarau.
Manylion y cwrs
- Dysgu o bell
- Rhan amser
- Saesneg
Ffioedd Dysgu 2023/24 a 24/25
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Archwilia BA Gwrthdaro, Rhyfel a Chymdeithas y gwahanol ffyrdd y mae gwrthdaro a rhyfel wedi llunio cymdeithasau gydol hanes, o gyfnod yr hen fyd i’r presennol.
Mae Gwrthdaro, Rhyfel a Chymdeithas yn mynd ati mewn modd integredig i astudio effaith gwrthdaro mewn amrywiaeth o gyd-destunau cronolegol a daearyddol. Mae’n cynnwys modylau sy’n canolbwyntio ar achosion o wrthdaro mawr megis Rhyfeloedd Byd, wrth gyflwyno myfyrwyr hefyd i bynciau ehangach megis anufudd-dod dinesig, mudiadau heddwch a moeseg trais.
Caiff myfyrwyr flas o’r modd yr astudir rhyfel mewn gwahanol ddisgyblaethau academaidd, gan gynnwys Hanes yr Hen Fyd, yr Oesoedd Canol a’r Cyfnod Modern, Athroniaeth, Astudiaethau Cyfryngol, Archaeoleg ac Astudiaethau Treftadaeth. O’r herwydd, mae’r rhaglen yn rhoi gwerthfawrogiad crwn i fyfyrwyr o hanes rhyfel a’i arwyddocâd cyfoes ym myd yr 21ain ganrif.
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
Gorfodol
(20 credydau)
(20 credydau)
Dewisol
(20 credydau)
(20 credydau)
Gorfodol
(60 credydau)
Dewisol
(20 credydau)
Course disclaimer
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.
I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â’ch cymwysterau.
-
Yn bennaf, cynhelir asesiadau drwy aseiniadau gwaith cwrs.
-
Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.
Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau cysylltiedig ychwanegol.
Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir mai £20 fydd cost rhwymo’r rhain.
Taith Maes ddewisol:
Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig yn seiliedig ar ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.
Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): c. £500 – £1,500
Gwibdeithiau unigol: c. £5 – £50
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Byddwch yn datblygu’ch gallu i ddadansoddi, meddwl yn rhesymegol a dadlau o fewn amgylchedd sy’n eich annog ac sy’n eich cefnogi. Y sgiliau cyfathrebu, dealltwriaeth, dadansoddi a hunanreolaeth fydd yn basbort i chi i gyflogaeth. Gallai’r mathau o waith gynnwys gwaith amgueddfa ac archifau, newyddiaduraeth, y gyfraith, bancio, gwleidyddiaeth leol, pob math o waith gweinyddol, marchnata a hysbysebu, ac addysgu.