Skip page header and navigation

Astudiaethau Canoloesol (Rhan amser) (MA)

Dysgu o Bell
4 Blynedd Rhan amser

Mae’r cwrs MA mewn Astudiaethau Canoloesol yn rhaglen ryngddisgyblaethol sy’n galluogi myfyrwyr i astudio’r cyfnod Canoloesol o amrywiaeth o ddisgyblaethau pwnc gwahanol sy’n cwmpasu Hanes, Llenyddiaeth, Diwinyddiaeth, Astudiaethau Celtaidd ac Archaeoleg.


Mae gan y Brifysgol hanes sydd wedi’i hen sefydlu o waith ymchwil ac addysgu ar y cyfnod canoloesol. Mae ei darpariaeth ar bob lefel wedi galluogi myfyrwyr i astudio’r cyfnod Canoloesol a’r cyfnod Modern Cynnar gan ddefnyddio arbenigedd ac adnoddau staff arbenigol, yn enwedig daliadau Casgliadau Arbennig Llyfrgell Roderic Bowen: adnodd unigryw sy’n gartref i Gasgliadau Arbennig Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gan gynnwys dros 35,000 o weithiau print, 8 llawysgrif ganoloesol, tua 100 o lawysgrifau ôl-ganoloesol, a 69 incunabula.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Rhan amser
  • Dysgu o bell
Iaith:
  • Saesneg
  • Cymraeg
Hyd y cwrs:
4 Blynedd Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Addysgu arbenigol gan staff arbenigol sy’n weithgar ym maes ymchwil ac adnoddau eithriadol yn naliadau arbenigol Llyfrgell Roderic Bowen
02
Dosbarthiadau bychain yn seiliedig ar seminarau
03
Opsiwn i dderbyn Tystysgrif Ôl-raddedig neu Ddiploma Ôl-raddedig.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno ar gampws y Brifysgol yn Llambed neu drwy’r amgylchedd dysgu rhithwir (VLE) a thechnolegau dysgu ar-lein  Fe’i haddysgir trwy seminarau, gweithdai bach a thiwtorialau a goruchwyliaeth unigol sy’n galluogi rhoi adborth manwl a phersonol. 

 
Mae mynediad i’r Amgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) yn galluogi dysgu ychwanegol, yn enwedig gweithdai, i ddigwydd y tu allan i’r sesiynau ac mae’n cefnogi datblygiad carfan o ymchwilwyr ymroddedig sy’n cefnogi ei gilydd.

Gorfodol

Pobl y Gorffennol, Cymdeithasau Heddiw: Dulliau a Sgiliau Ymchwil
Traethawd Hir MA (Astudiaethau Canoloesol)

Dewisol

Cyflwyniad i'r Dyniaethau Digidol
Sgrinio'r Gorffennol: Ffilm a Hanes - Hynafol, Canoloesol, Modern
Yr Arthur Celtaidd a Chwedlau'r Mabinogi

(30 credydau)

Y Ferch yn yr Oesoedd Canol: Ffynonellau o'r Rhanbarthau Celtaidd

(30 credydau)

Sancteiddrwydd, Ysbrydolrwydd a Hagiograffeg

(30 credydau)

Ffaith neu ffuglen? Llenyddiaeth a Hanes
Hanes a Haneswyr
Lladin Dwys I
Lladin Dwys II
Thomas Becket
Mynachlogydd a'r Byd: Astudiaethau Hanes Sistersaidd yr Oesoedd Canol

(30 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Gwybodaeth allweddol

  • Bydd disgwyl i ymgeiswyr feddu ar radd gyntaf da (dosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch), er hynny mae pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun, felly gellir cynnig lle ar sail cymhwyster proffesiynol a phrofiadau perthnasol. Gellir derbyn ymgeiswyr sydd â dosbarthiadau gradd is neu sydd heb radd  ar lefel Tystysgrif neu Ddiploma Ôl-raddedig, gyda chyfle i uwchraddio i lefel Meistr os bydd cynnydd boddhaol yn cael ei wneud. 

  • Caiff y modiwlau eu hasesu drwy amrywiaeth o ddulliau asesu: traethodau byr (2,500 o eiriau), traethodau hirach (4,000-5,000 o eiriau), dadansoddiadau cymharol, adolygiadau a gwerthfawrogiad llenyddol, aseiniadau byr, ymarferion ieithyddol, asesiadau llafar ac un traethawd hir 15,000 o eiriau.

  • Tua £300 ar gyfer deunydd darllen. 

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae meysydd cyflogaeth yn cynnwys:

    • Amgueddfeydd
    • Archifau
    • Y sector dreftadaeth
    • Llenorion Proffesiynol
    • Marchnata

Mwy o gyrsiau Hanes ac Archaeoleg

Chwiliwch am gyrsiau