Prentisiaeth mewn Arfer Archeolegol (Rhan amser) (MA)
Mae’r MA mewn Ymarfer Archeolegol wedi’i gynllunio yn unol â sgiliau proffesiynol ar gyfer arbenigeddau gan gynnwys arweinyddiaeth tîm gwaith maes, arolygu adeiladau, ac amgylcheddol ac arteffact.
Cyflwynir y rhaglen drwy sesiynau addysgu ar-lein byw wythnosol. Mae pwyslais ar ddatblygu sgiliau sydd eu hangen ar gyfer rheoli prosiectau yn y diwydiant treftadaeth. Mae’r Llwybr hwn yn cynnig prentisiaethau a ariennir ar gyfer y rheiny sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant.
Manylion y cwrs
- Prentisiaethau
- Rhan amser
- Saesneg
Telir y Ffioedd gan Ardoll ar gyfer unigolion cymwys. Nid oes cost i’r Prentis na’r cyflogwr.
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r MA hwn wedi’i ddatblygu ar gyfer ymarferwyr archeolegol yn y sector sy’n gyfrifol, neu a fydd yn gyfrifol, am baratoi adroddiadau archeolegol, ffurfio barn a rheoli tîm. Mae wedi’i gynllunio’n benodol i ganiatáu i’r prentisiaid hyn ddadansoddi a pharatoi briffiau prosiect, manylebau, ac adroddiadau.
Mae hyn wedi’i ymgorffori mewn fframwaith damcaniaethol sy’n briodol i ddehongliad archeolegol presennol, a’r sgiliau i gyflwyno’r deunydd archeolegol mewn amryw gyfryngau i gynulleidfaoedd amrywiol o’r cyhoedd i gyhoeddiadau academaidd.
Yn Rhan Un, mae pob modwl yn werth 30 credyd. Yn Rhan Dau, rhoddir cyfle i fyfyrwyr ymchwilio’n fanwl i bwnc sydd wedi apelio’n arbennig atyn nhw ac ysgrifennu traethawd hir estynedig (am 60 credyd). Neilltuir goruchwyliwr i’r myfyrwyr i helpu eu tywys drwy eu traethodau hir.
(30 credydau)
(60 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
(30 credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Gwybodaeth allweddol
-
Yn unol â’r uchod – Rhaid i ymgeiswyr fod wedi’u cyflogi ar hyn o bryd yn y sector treftadaeth yn Lloegr gyda 2 flynedd o brofiad er mwyn bod yn gymwys. Disgwylir i ymgeiswyr feddu ar radd gyntaf, ond ystyrir pob cais ar ei deilyngdod ei hun, felly gellir cynnig lleoedd ar sail cymwysterau proffesiynol a phrofiad perthnasol.
-
Asesir y modylau trwy amrywiaeth o ddulliau asesu: adroddiadau, traethodau, aseiniadau byr, asesiadau llafar ac un traethawd hir 15000 o eiriau.
-
Bydd angen offer TG safonol ar y prentis i gymryd rhan mewn sesiynau addysgu a pharatoi aseiniadau.
-
Telir am ffioedd y rhaglen gan yr Ardoll Prentisiaethau (100% ar gyfer cyflogwyr mawr, 95% ar gyfer BBaCh).
Efallai y byddwch yn gymwys am gyllid i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu rhagor am ysgoloriaethau, bwrsariaethau a chyfleoedd eraill am gyllid sydd ar gael, ewch i’n hadran Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau. -
Mae’r rhaglen hon yn ddelfrydol i’r rheiny sydd wedi bod yn gweithio yn y sector ac sy’n barod i dderbyn cyfrifoldebau ychwanegol yn swyddog prosiect neu’n rheolwr prosiect neu’n arbenigwr yn dadansoddi ac yn adrodd ar fath penodol o ddata.