Astudiaethau Testunol Bwdhaidd Tsieineaidd (Llawn amser) (MA)
Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar astudio ac ymchwilio i grefyddau, ieithoedd a thestunau nodedig hynafol Tsieina.
Bydd myfyrwyr yn astudio ‘doethineb hynafol’ Tsieina, sydd o arwyddocâd diwylliannol ac sy’n cael ei hystyried yn gynyddol berthnasol i bryderon cyfoes, megis llesiant personol a chymdeithasol a chynaliadwyedd.
Bydd y cwrs MA mewn Astudiaethau Testunol Bwdhaidd Tsieineaidd yn apelio’n arbennig at fyfyrwyr sy’n dymuno astudio testunau hynafol Tsieina, datblygu gwybodaeth gyfoethog ac academaidd am destunau Clasurol traddodiadol Tsieina; a chymhwyso’r wybodaeth hon i’w bywydau eu hunain ac i fywydau pobl eraill.
Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i ddysgu gan y goreuon yn y pwnc ac i astudio gan ddefnyddio’r dull addysgegol unigryw sy’n deillio o fodel addysgol y ‘Ddysgeidiaeth Fawr Frenhinol’ (皇家太学), sy’n dibynnu ar astudiaeth destunol ddwys a myfyrio.
Bydd myfyrwyr yn astudio yn yr Academi Sinoleg yn PCYDDS, sef Academi sydd newydd ei sefydlu yn Llambed sy’n canolbwyntio ar hyfforddi athrawon Sage, a fydd, trwy esiampl, yn cael effaith wirioneddol ar gymdeithas trwy eu harferion moesol dyddiol a’u gweithgareddau addysgu eu hunain.
Manylion y cwrs
- Ar y campws
- Llawn amser
- Saesneg
Pam dewis y cwrs hwn
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Bydd y rhaglen hon yn canolbwyntio ar fynd i’r afael ag iaith draddodiadol Tsieina a thestunau Bwdhaidd Tsieineaidd ar lefel uwch a’r gwerthoedd ac arferion ysbrydol, diwylliannol a gwleidyddol y maent yn eu hymgorffori.
Bydd Methodoleg Ymchwil ar gyfer Astudio Sinoleg (SICH7023) yn canolbwyntio ar wella’r astudiaeth o Sinoleg a’r ddealltwriaeth o iaith a methodolegau Tsieineaidd Clasurol megis beirniadaeth destunol, sylwebaeth, a dadansoddi testun.
Bydd Astudiaethau Ysgrythurol Bwdhaidd Tsieineaidd 1: ‘Swtra Bywyd Anfeidrol’ (SICH7024) yn myfyrio’n feirniadol ar y syniadau athronyddol a chrefyddol sydd yn y Swtra Bywyd Anfeidrol (Tsieineaidd) a’r ymateb iddynt yng nghyd-destun hynafol a modern.
Bydd Astudiaethau Ysgrythurol Bwdhaidd Tsieineaidd 2: ‘Swtra Deimwnt’ (SICH7025) yn arddangos lefel uchel o wybodaeth a dealltwriaeth o amrywiaeth o sylwebaethau beirniadol a myfyrdodau eraill ar y Swtra Deimwnt.
Bydd Dehongli’r Pedwar Llyfr (SICH7028) yn arddangos gwybodaeth a dealltwriaeth o destunau allweddol o’r Pedwar Llyfr o wahanol safbwyntiau hanesyddol, diwylliannol ac athronyddol/moesegol.
Bydd Darlleniadau o Egwyddorion Llywodraethol Tsieina Hynafol (SICH7029) yn myfyrio’n feirniadol ar yr athroniaethau moesol, cymdeithasol a gwleidyddol sy’n cael eu hegluro mewn testunau penodol o Egwyddorion Llywodraethol Tsieina Hynafol, a’r ymateb iddynt yng nghyd-destun hynafol a modern.
Mae modiwl ychwanegol, sef Testunau Tsieineaidd Clasurol yn Saesneg (SICH7004), yn datblygu lefel uchel o ddealltwriaeth o hanes a dulliau damcaniaethol a methodolegol o gyfieithu testunau Tsieinëeg Clasurol i’r Saesneg.
Gan adeiladu ar y rhan o’r rhaglen sy’n cael ei haddysgu, mae’r Traethawd Hir (SICH7022) yn caniatáu i’r myfyrwyr gynhyrchu darn sylweddol o waith ysgolheigaidd ar astudiaeth destunol Fwdhaidd Tsieineaidd.
(60 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
(20 credydau)
Ymwrthodiad
-
Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio.
Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall.
tysteb
Staff
Staff
Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau.
Llety
Llety Llambed
Mae ein llety yn Llambed ar y Campws ei hun, sy’n golygu nad ydych chi byth yn bell o’r hyn sy’n digwydd ar y campws. Mae amrywiaeth o opsiynau gwahanol ar gael i’n myfyrwyr a fydd yn addas i bob cyllideb.
Gwybodaeth allweddol
-
Bydd pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun ac yn seiliedig ar gyfweliad gyda staff addysgu perthnasol yn y Brifysgol a’r Academi Sinoleg.
Mae natur ddwyieithog y rhaglen yn gofyn am rywfaint o gymhwysedd mewn Tsieinëeg a Saesneg.
-
Mae ein gradd MA Astudiaethau Testunol Bwdhaidd Tsieineaidd yn cynnwys ystod eang o ddulliau asesu. Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng y Saesneg a Tsieinëeg Hynafol, yn dibynnu ar y modiwl penodol sy’n cael ei astudio.
Mae dulliau asesu yn cynnwys traethodau, cyfieithu i Tsieinëeg fodern neu i’r Saesneg, cyfieithu gydag anodiadau neu sylwebaeth feirniadol, cyflwyniad llafar, portffolio lleoliad dysgu ac, wrth gwrs, y traethawd hir.
Mae’r amrywiaeth hwn yn y dulliau asesu yn helpu i ddatblygu sgiliau wrth gyflwyno deunydd mewn modd clir, proffesiynol ac eglur, boed ar lafar neu’n ysgrifenedig.
-
Bydd mynediad i’ch dyfais ddigidol eich hun/y pecyn TG priodol yn hanfodol yn ystod eich amser yn astudio gyda PCYDDS. Bydd mynediad at wifi yn eich llety hefyd yn hanfodol i’ch galluogi i ymgysylltu’n llawn â’ch rhaglen. Gweler ein tudalennau gwe pwrpasol i gael arweiniad pellach ar ddyfeisiau addas i’w prynu, ac i gael canllaw llawn ar sefydlu’ch dyfais.
Efallai y byddwch chi’n wynebu costau ychwanegol tra byddwch chi yn y brifysgol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):
- Teithio i’r campws ac oddi yno
- Costau argraffu, llungopïo, rhwymo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
- Prynu llyfrau neu werslyfrau
- Gwisgoedd ar gyfer seremonïau graddio
-
Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau. I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.
-
Mae swyddi posibl i raddedigion y rhaglen hon yn cynnwys:
- athrawon ac addysgwyr mewn amrywiaeth o leoliadau yn Tsieina a’r DU
- ymchwilwyr academaidd i destunau traddodiadol a thestunau hynafol Tsieina
- gwaith cyfieithu
- gweinyddiaeth a pholisi addysgol
- busnes a mentrau masnachol moesegol
- mentrau a gwaith cymunedol
- y diwydiannau gwirfoddol a theithio
- cadwraeth treftadaeth; gwaith archif ac amgueddfa
- hyfforddwyr corfforaethol a phersonol mewn ‘athroniaeth’ a sgiliau bywyd hynafol Tsieina
Mae disgwyl y bydd y graddedigion ar y rhaglenni hyn yn meithrin sgiliau cyflogadwyedd sy’n cynnwys sgiliau wrth drin gwybodaeth a chyfathrebu uwch; lefelau uchel o hunanreolaeth a rheoli prosiect; cymhwyso sgiliau lefel uchel yn ymarferol wrth ddadansoddi testun a dehongli.