Skip page header and navigation

Y Clasuron (Rhan amser) (PGDip)

Dysgu o Bell
2 Flwyddyn Rhan amser

Mae’r cwrs MA yn y Clasuron yn canolbwyntio ar lenyddiaeth a diwylliant y byd Roegaidd-Rufeinig yn yr iaith wreiddiol. Os hoffech chi ddatblygu eich gallu yn y ddwy iaith Glasurol, yna MA yn y Clasuron yw’r radd i chi. Mae’r graddau yn y Clasuron yn canolbwyntio ar hen ieithoedd Groeg a Lladin ar lefel uwch, yn ogystal â llenyddiaeth yr henfyd.

Mae’n ofynnol bod gan fyfyrwyr wybodaeth bresennol o naill ai Groeg neu Ladin ar lefel uwch ar gyfer astudio MA yn y Clasuron. Disgwylir hefyd i ymgeiswyr feddu ar wybodaeth dda o’r ail iaith. Bydd hyn yn galluogi myfyrwyr ar y cwrs MA yn y Clasuron i ganolbwyntio ar ddadansoddi llenyddiaeth y byd Groegaidd-Rufeinig yn ei gyd-destun hanesyddol a diwylliannol.

Ar gyfer myfyrwyr sydd heb wybodaeth flaenorol neu ddigonol o Roeg a/neu Ladin, mae’n bosibl astudio un neu’r ddwy iaith ar ein cyrsiau Tystysgrif/Diploma Ôl-raddedig (Dip/Tyst Ôl-radd) mewn Groeg a Lladin, er mwyn paratoi ar gyfer astudio MA yn y Clasuron yn nes ymlaen. 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar-lein
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
2 Flwyddyn Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae amgylchedd dysgu cyfoethog ac ysgogol yn meithrin twf academaidd a chwilfrydedd ymhlith myfyrwyr.
02
Mae ein staff yn weithgar ym maes ymchwil, sy’n sicrhau eu bod nhw’n cael y wybodaeth gyfredol am y datblygiadau diweddaraf yn eu priod feysydd ac yn cyfrannu mewnwelediadau gwerthfawr.
03
Gyda dosbarthiadau bach, mae myfyrwyr yn elwa ar gael sylw mwy personol, gan greu amgylchedd sy'n addas i gael rhyngweithiadau ystyrlon a phrofiadau dysgu effeithiol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r MA Y Clasuron yn cynnig cyfle i chi ganolbwyntio ar hen ieithoedd Groeg a Lladin ar lefel uwch, yn ogystal â llenyddiaeth yr henfyd. Gallwch barhau i astudio Lladin a Groeg hynafol trwy astudiaeth fanwl o awduron a genres, yn bennaf yn yr iaith wreiddiol, ond mewn cyfieithiad hefyd.  

Mae’r clasuron wedi cael eu haddysgu ar ein campws yn Llambed ers agor Coleg Dewi Sant ym 1822, ac wedi’u cynnig ar gyfer astudio o bell ers 2001. Mae Llyfrgell ac Archifau Roderic Bowen ar gampws Llambed yn rhoi mynediad i ystod ragorol o adnoddau academaidd electronig, gan gynnwys dros 1,000 o e-lyfrau yn ymwneud â’r Clasuron, 70 o e-gyfnodolion yn ymwneud â’r Clasuron, a nifer o gronfeydd data arbenigol sy’n ymwneud â’r Clasuron.

Yn Rhan Un, mae pob modiwl yn werth 30 credyd ac, yn ychwanegol at y modiwl gorfodol ‘HPAH7011 Theori a Methodoleg ar gyfer Astudio’r Henfyd’, caiff myfyrwyr ddewis o’r rhestr o fodiwlau dewisol a nodir isod. Rhaid i fyfyrwyr gwblhau 120 o gredydau yn Rhan Un.

Yn Rhan Dau, caiff myfyrwyr gyfle i ymchwilio’n fanwl i destun sydd wedi apelio atyn nhw’n arbennig ac ysgrifennu traethawd hir estynedig (am 60 credyd). Bydd goruchwyliwr yn cael ei bennu i helpu i’w harwain drwy eu traethodau hir.

System Blwyddyn A/B

Rydym yn gweithredu system Blwyddyn A/Blwyddyn B sy’n golygu mai dim ond bob yn ail flwyddyn y mae rhai modiwlau’n cael eu cynnig, tra bod eraill yn cael eu cynnig bob blwyddyn. 

Mae’r system hon yn caniatáu i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio’n llawn amser gynllunio fel bod eu hastudiaethau’n dechrau yn y flwyddyn academaidd briodol, tra gall myfyrwyr rhan-amser gynllunio eu hastudiaethau yn unol â’r modiwlau sydd ar gael yn ystod eu gradd.

Mae’r myfyriwr yn cael ei asesu ar bwnc o’i ddewis ei hun mewn perthynas â phob modiwl, ac mewn ymgynghoriad â’r tiwtor perthnasol bob tro. Caiff y rhan fwyaf o fodiwlau eu hasesu trwy draethodau hir, ond asesir rhai modiwlau trwy ddulliau amgen, megis cyflwyniadau ar ffurf cynhadledd. Mae’n hanfodol bod gan ddysgwyr o bell fynediad da i’r rhyngrwyd, yn ogystal â defnydd o gyfleusterau cyfrifiadurol; mae’r brifysgol yn cynnig cymorth unigol i bob myfyriwr o bell i gael mynediad at ddeunydd o’u cartref. 

Gorfodol

Theori a Methodoleg ar gyfer Astudio'r Hen Fyd

(30 credydau)

Dewisol

Lladin Dwys I
Lladin Dwys II
Traethawd Hir MA (Hen Fyd)

(60 credydau)

Groeg Dwys I

(30 credydau)

Groeg Dwys II

(30 credydau)

Ffurfiau Barddonol Byr (Groeg Uwch)

(30 credydau)

Ffurfiau Barddonol Byr (Groeg Uwch Pellach)

(30 credydau)

Hanesyddiaeth Groeg (Groeg Uwch)

(30 credydau)

Hanesyddiaeth Groeg (Groeg Uwch Pellach)

(30 credydau)

Rhyddiaith Weriniaethol (Lladin Uwch)
Rhyddiaith Weriniaethol (Lladin Uwch Bellach)
Arwrgerddi Lladin (Lladin Uwch)
Arwrgerddi Lladin (Lladin Uwch Bellach)

Gorfodol

Theori a Methodoleg ar gyfer Astudio'r Hen Fyd

(30 credydau)

Dewisol

Traethawd Hir MA (Hen Fyd)

(60 credydau)

Groeg Dwys I

(30 credydau)

Groeg Dwys II

(30 credydau)

Lladin Dwys I
Lladin Dwys II
Cerddi Serch Awgwstaidd (Lladin Uwch)

(30 credydau)

Areithyddiaeth Groeg (Groeg Uwch)

(30 credydau)

Areithyddiaeth Groeg (Groeg Uwch Pellach)

(30 credydau)

Rhyddiaith Neronaidd (Lladin Uwch)

(30 credydau)

Straeon Medea (Groeg Uwch)

(30 credydau)

Straeon Medea (Groeg Uwch Pellach)

(30 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

tysteb

Gwybodaeth allweddol

  • Yn draddodiadol mae angen gradd israddedig dosbarth 2.1 neu ddosbarth 1af er mwyn astudio ein graddau MA.  Mae’r Ysgol yn annog myfyrwyr sydd â chymhwyster proffesiynol cyfatebol a phriodol neu brofiad proffesiynol sylweddol a pherthnasol i ymgeisio’n ogystal. Yn ogystal, ar gyfer y cwrs MA yn y Clasuron, mae’n ofynnol i ymgeiswyr feddu ar wybodaeth o naill ai Groeg neu Ladin ar lefel uwch, ac mae gwybodaeth dda o’r ddwy iaith hynafol yn ddymunol.

  • Mae ein gradd MA yn y Clasuron yn cynnwys ystod eang o ddulliau asesu. Caiff pob modiwl iaith ei asesu trwy waith cwrs ac arholiadau. Mae myfyrwyr sy’n astudio ieithoedd uwch yn cael y cyfle i archwilio testunau’n fanwl, yn llenyddol ac yn ieithyddol, trwy gyfrwng sylwebaethau beirniadol a thraethodau wedi’u hasesu.

    Yn ogystal, cewch eich asesu trwy ymarferion llyfryddol, cyflwyniadau — llafar a PowerPoint — creu crynodebau, papurau cynhadledd mewnol, adolygiadau o erthyglau, creu cynlluniau prosiect ac, wrth gwrs, y traethawd hir. Mae’r amrywiaeth hwn yn y dulliau asesu yn helpu i ddatblygu sgiliau wrth gyflwyno deunydd mewn modd clir, proffesiynol ac eglur, boed ar lafar neu’n ysgrifenedig.

  • Ni fydd unrhyw gostau ychwanegol gorfodol i astudio y tu hwnt i dalu am ffioedd dysgu. Dylai myfyrwyr fod yn barod i ysgwyddo’r costau sylfaenol sy’n gysylltiedig ag astudio, fel cludiant, ac efallai y byddan nhw am brynu coffi, byrbrydau neu eitemau amrywiol eraill ar y campws.

    Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dewis buddsoddi mewn offer fel gliniaduron i’w cynorthwyo gyda’u hastudiaethau, er nad yw hyn yn ofynnol ar gyfer y rhaglen. Bydd unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud ag astudio neu fywyd myfyriwr sy’n dwyn cost y tu hwnt i gost ffioedd dysgu yn ddewisol, a bydd y gost yn cael ei chyfleu’n glir i fyfyrwyr wrth gofrestru.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r rhaglen yn rhoi sylfaen eang ar gyfer swyddi ôl-raddedig, trwy osod pwyslais arbennig ar yr ieithoedd, y fethodoleg a’r offer ymchwil sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth annibynnol uwch, a thrwy hynny weithredu fel hyfforddiant i fyfyrwyr sy’n bwriadu ymgymryd ag MPhil neu PhD.

    Mae’r cwrs hefyd yn cynnig cymhwyster proffesiynol i athrawon neu eraill sy’n ceisio Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Mwy o gyrsiau Hanes ac Archaeoleg

Chwiliwch am gyrsiau