Skip page header and navigation

Hanes yr Henfyd (Llawn amser) (MRes)

Dysgu o Bell
2 Blynedd Llawn amser

Mae’r cwrs Hanes yr Henfyd (MRes) yn cynnig cyfle i fyfyrwyr sydd â’u bryd ar astudio hanes yr henfyd i ymgymryd â gradd arbenigol a dwys o ran ymchwil, wedi’i theilwra i’r diddordebau hynny ac i fynd ar drywydd eu hymchwil annibynnol eu hunain i raddau mwy helaeth nag ar gyfer MA.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Dysgu o bell
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
2 Blynedd Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae amgylchedd dysgu cyfoethog ac ysgogol yn meithrin twf academaidd a chwilfrydedd ymhlith myfyrwyr.
02
Mae ein staff yn weithgar ym maes ymchwil, sy’n sicrhau eu bod nhw’n cael y wybodaeth gyfredol am y datblygiadau diweddaraf yn eu priod feysydd ac yn cyfrannu mewnwelediadau gwerthfawr.
03
Gyda dosbarthiadau bach, mae myfyrwyr yn elwa ar gael sylw mwy personol, gan greu amgylchedd sy'n addas i gael rhyngweithiadau ystyrlon a phrofiadau dysgu effeithiol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs MRes wedi’i gynllunio i roi’r cyfle i fyfyrwyr sy’n mwynhau ymchwil annibynnol i ymchwilio i bwnc o’u dewis eu hunain. Bydd testun y traethawd hir yn cael ei drafod a’i gytuno ymlaen llaw, a disgwylir y bydd dewis y myfyriwr o’r modiwlau a addysgir yn ymwneud â thestun eu hymchwil.

Dyma’r prif feysydd cyffredinol o ran goruchwylio ymchwil yr Ysgol: 

  • Arwrgerddi Groeg a Rhufain
  • Barddoniaeth Ladin o’r cyfnodau Ymerodrol a Gweriniaethol diweddar
  • Defnydd llenyddol o fytholeg
  • Affrica Groeg a Rhufain
  • Asia Leiaf Helenistaidd a’r Dwyrain Agos
  • Hunaniaeth, ethnigrwydd ac ethnogenesis yn yr ymerodraeth Rufeinig
  • Crefydd Rhufain
  • Economi yr Henfyd, yn enwedig yn ystod y cyfnod Clasurol Groegaidd a’r ymerodraeth Rufeinig.
  • Hanesyddiaeth Groeg a Rhufain
  • Rhyw a rhywedd yn yr henfyd
  • Iechyd ac iachâd yn yr henfyd
  • Y berthynas Roegaidd-Rufeinig ag India

Meysydd pwnc cyffredinol sy’n cael eu nodi uchod. Cysylltwch â ni i drafod eich syniadau a’ch diddordebau penodol. 

Prif nod Ysgol y Clasuron yw rhoi ystod o gyfleoedd dysgu ac addysgu rhagorol i’n myfyrwyr. Rydym yn defnyddio dulliau ac agweddau arloesol sy’n gwella profiad dysgu ein myfyrwyr trwy gydol eu hastudiaethau.

Mae pob un o’n modiwlau yn cael eu haddysgu gan arbenigwyr ac ymchwilwyr gweithredol. Mae dylanwad ein hymchwil ar ein haddysgu yn cynnig cyfle i’n myfyrwyr ddysgu gan y goreuon yn y maes a dilyn y tueddiadau a’r darganfyddiadau ysgolheigaidd diweddaraf, tra bod ein modiwlau astudio annibynnol yn caniatáu i chi archwilio’r pwnc sy’n mynd â’ch bryd yn ei gyfanrwydd.

Mae ein rhaglen wedi’i chynllunio i helpu dysgwyr ar y campws ac o bell. Mae ein Hamgylchedd Dysgu Rhithwir (VLE) yn fforwm byw lle gall myfyrwyr a staff ryngweithio, a thrwy hynny gall myfyrwyr adolygu ac archwilio pynciau anodd yn well a chael gwell mynediad at yr adnoddau electronig sydd ar gael yn rhithiol. 

Mae astudio Hanes yr Henfyd gyda ni yma yn Y Drindod Dewi Sant yn golygu addysgu a arweinir gan ymchwil a dysgu ymchwil-weithredol mewn amgylchedd sy’n caniatáu defnydd llawn o’r byd rhithwir ac agwedd bersonol at hyfforddiant arbenigol.

Gwybodaeth bellach

Astudiaeth Breswyl

Gall myfyrwyr astudio ar gyfer unrhyw un o’n graddau a byw ar gampws Llambed. Cynhelir y dosbarthiadau rhwng dydd Llun a dydd Gwener yn ystod y semester addysgu. Ar gyfartaledd, disgwylir i fyfyriwr llawn amser fynychu wyth awr o ddosbarthiadau bob wythnos.

Mae pob dosbarth nad yw’n ddosbarth iaith yn fach iawn, fel arfer dim mwy na 5 myfyriwr, tra bod maint dosbarthiadau iaith yn dibynnu ar lefel yr astudiaeth, felly mae dosbarthiadau iaith i ddechreuwyr yn aml yn denu tua 15 o fyfyrwyr, tra bod gan ddosbarthiadau iaith lefel uwch 5 myfyriwr ar gyfartaledd.

Dysgu o bell

Mae pob un o’n cyrsiau gradd ar gael i’r rhai sy’n dysgu o bell, ac yn wir dysgu o bell y mae’r rhan fwyaf o’n myfyrwyr ôl-raddedig yn ei wneud.  Mae gan bob myfyriwr fynediad i holl ddeunyddiau’r modiwl, gan gynnwys rhestrau darllen, ar yr Amgylchedd Dysgu Rhithwir (Moodle).

Mae pob modiwl yn cael ei addysgu gan ein darlithwyr, ac wedi’u cynllunio i fod yn hygyrch ac yn addas ar gyfer myfyrwyr sy’n dysgu o bell. Mae nifer o’r modiwlau’n cael eu cyflwyno mewn modd cyfunol gyda’r darlithwyr yn defnyddio cyflwyniadau fideo a sain ar gyfer bob pwnc unigol.

Mae’r myfyriwr yn cael ei asesu ar bwnc o’i ddewis ei hun mewn perthynas â phob modiwl, ac mewn ymgynghoriad â’r tiwtor perthnasol bob tro. 

Caiff y rhan fwyaf o fodiwlau eu hasesu trwy draethodau hir, ond asesir rhai modiwlau trwy ddulliau amgen, megis cyflwyniadau ar ffurf cynhadledd. Mae’n hanfodol bod gan ddysgwyr o bell fynediad da i’r rhyngrwyd, yn ogystal â defnydd o gyfleusterau cyfrifiadurol; mae’r brifysgol yn cynnig cymorth unigol i bob myfyriwr o bell i gael mynediad at ddeunydd o’u cartref. 

Mae Canolfan Adnoddau Dysgu y Drindod Dewi Sant yn rhoi mynediad i amrywiaeth o ddeunydd academaidd electronig i ddysgwyr o bell, gan gynnwys mwy na 1000 o e-lyfrau yn ymwneud â’r Clasuron, 70 o e-gyfnodolion ar y Clasuron, a nifer o e-adnoddau arbenigol ar y Clasuron.

Gorfodol 

Theori a Methodoleg ar gyfer Astudio'r Hen Fyd

(30 credydau)

Traethawd Hir MA (Hen Fyd)

(60 credydau)

Dewisol

  • Tecstilau yn yr Henfyd (30 credydau) 
Rhufain a Chefnfor India: Y Byd Clasurol mewn Cyd-destun Byd-eang

(30 credydau)

Hanes a Diwylliant yr Henfyd Diweddar

(30 credydau)

Agweddau ar Grefydd a Chwlt Groegaidd a Rhufeinig

(30 credydau)

Sgrinio'r Gorffennol: Ffilm a Hanes - Hynafol, Canoloesol, Modern

Gorfodol 

Theori a Methodoleg ar gyfer Astudio'r Hen Fyd

(30 credydau)

Traethawd Hir MA (Hen Fyd)

(60 credydau)

Dewisol

  • Bywyd yn Anialwch Dwyreiniol yr Aifft (30 credydau)
  • Myth mewn Arwrgerdd Groegaidd a Rhufeinig (30 credydau) 
  • Economi Gwlad Groeg yng Nghyfnod yr Henfyd a’r Cyfnod Clasurol (30 credydau) 
  • Pŵer a Diwylliant yn y Dwyrain Helenistaidd (30 credydau)
  • Rhywedd yn yr Henfyd (30 credydau)
Sgrinio'r Gorffennol: Ffilm a Hanes - Hynafol, Canoloesol, Modern
Agweddau ar Grefydd a Chwlt Groegaidd a Rhufeinig

(30 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

tysteb

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

Gwybodaeth allweddol

  • Yn draddodiadol mae angen gradd israddedig dosbarth 2.1 neu ddosbarth 1af ar gyfer mynediad i raglen Lefel 7. Mae’r Ysgol yn annog myfyrwyr sydd â chymhwyster proffesiynol cyfatebol a phriodol neu brofiad proffesiynol sylweddol a pherthnasol i ymgeisio’n ogystal. 

    Mae’n ofynnol i ymgeiswyr drafod eu hymchwil arfaethedig gyda’r Ysgol cyn gwneud cais, a rhaid i’r ymchwil arfaethedig ddod o dan un o’r meysydd goruchwylio sy’n cael eu cynnig gan Ysgol y Clasuron. 

    Fel arfer, mae hyfedredd ymgeiswyr nad Cymraeg neu Saesneg yw eu hiaith gyntaf yn cael ei brofi gydag isafswm sgôr IELTS (neu gyfwerth) o 6.0 a dim llai na 5.5 ym mhob rhan o’r prawf.

  • Mae gradd Hanes yr Henfyd (MRes) yn cynnwys ystod eang o ddulliau asesu. Yn ogystal â thraethodau traddodiadol, cewch eich asesu trwy ymarferion llyfryddol, cyflwyniadau - llafar a PowerPoint - creu crynodebau, papurau cynhadledd mewnol, adolygiadau o erthyglau, creu cynlluniau prosiect ac, wrth gwrs, y traethawd hir.

    Mae’r amrywiaeth hwn yn y dulliau asesu yn helpu i ddatblygu sgiliau wrth gyflwyno deunydd mewn modd clir, proffesiynol ac eglur, boed ar lafar neu’n ysgrifenedig.

    Mae’r math hwn o asesu yn creu amrywiaeth ym mhrofiad y myfyrwyr, gan ganiatáu ar gyfer archwilio’r pwnc mewn gwahanol ffyrdd, ac mae rhaglen Hanes yr Henfyd hefyd yn ymgorffori sgiliau cyflogadwyedd penodol sy’n ddymunol, ac yn wir yn hanfodol, o safbwynt cyflogwyr heddiw. 

  • Efallai cewch gyfle i fynychu cynhadledd neu ddigwyddiad allanol perthnasol, ac efallai y bydd disgwyl i chi gyfrannu at y costau hyn.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r rhaglen yn rhoi sylfaen eang ar gyfer swyddi ôl-raddedig, trwy osod pwyslais arbennig ar y fethodoleg a’r offer ymchwil sydd eu hangen ar gyfer astudiaeth annibynnol uwch, a thrwy hynny weithredu fel hyfforddiant i fyfyrwyr sy’n bwriadu ymgymryd ag MPhil neu PhD.

    Mae’r cwrs hefyd yn cynnig cymhwyster proffesiynol i athrawon neu eraill sy’n ceisio Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Mwy o gyrsiau Hanes ac Archaeoleg

Chwiliwch am gyrsiau