Skip page header and navigation

Lladin (Rhan amser) (PGDip)

Dysgu o Bell
3 Flwyddyn Rhan amser

Yn bennaf mae’r cwrs Lladin (MA) o ddiddordeb i’r rhai sydd am ddysgu Lladin i lefel uwch a thu hwnt a mynd i’r afael â’u hymchwil eu hunain i awdur neu awduron penodol.

Gallwch ddechrau ar lefel dechreuwyr llwyr, canolradd neu lefel uwch, yn seiliedig ar eich gwybodaeth a’ch cymwysterau presennol.

Gall myfyrwyr astudio:

  • Lladin (MA)
  • Lladin (Diploma Ôl-raddedig)
  • Lladin (Tystysgrif Ôl-raddedig)

I’r rhai sydd wedi bod yn astudio Lladin yn breifat, rydym yn cynnig prawf i’w gosod ar y lefel gywir o ran dysgu iaith.

Gall ymgeiswyr PhD, neu’r rhai sy’n bwriadu cychwyn ar PhD, ddefnyddio’r radd hon i wella eu cymhwysedd mewn Lladin. I’r rhai sydd â diddordeb i ddysgu Lladin ar unrhyw lefel, gall y radd Lladin (MA) ddarparu cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Mae’r graddau mewn Lladin ar gael fel opsiynau rhan-amser yn unig.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar-lein
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
3 Flwyddyn Rhan amser

Mae'r rhaglen hon yn amodol ar ddilysiad.

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae amgylchedd dysgu cyfoethog ac ysgogol yn meithrin twf academaidd a chwilfrydedd ymhlith myfyrwyr.
02
Mae ein staff yn weithgar ym maes ymchwil, sy’n sicrhau eu bod nhw’n cael y wybodaeth gyfredol am y datblygiadau diweddaraf yn eu priod feysydd ac yn cyfrannu mewnwelediadau gwerthfawr.
03
Gyda dosbarthiadau bach, mae myfyrwyr yn elwa ar gael sylw mwy personol, gan greu amgylchedd sy'n addas i gael rhyngweithiadau ystyrlon a phrofiadau dysgu effeithiol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglenni hyn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar gaffael a/neu ddatblygu eu sgiliau mewn Lladin ac, yn dibynnu ar eu gallu ieithyddol, gellir cychwyn ar lefel dechreuwyr, canolradd neu uwch.

Mae’r Dystysgrif Ôl-raddedig yn cynnwys 60 credyd, y Diploma Ôl-raddedig yn 120 credyd, a’r MA yn 180 credyd (gan gynnwys traethawd hir 60 credyd).

Gorfodol

Theori a Methodoleg ar gyfer Astudio'r Hen Fyd

(30 credydau)

Traethawd Hir MA (Hen Fyd)

(60 credydau)

Dewisol

Lladin Dwys I
Lladin Dwys II
Rhyddiaith Weriniaethol (Lladin Uwch)
Rhyddiaith Weriniaethol (Lladin Uwch Bellach)
Arwrgerddi Lladin (Lladin Uwch)
Arwrgerddi Lladin (Lladin Uwch Bellach)

Gorfodol

Theori a Methodoleg ar gyfer Astudio'r Hen Fyd

(30 credydau)

Traethawd Hir MA (Hen Fyd)

(60 credydau)

Dewisol

Traethawd Hir MA (Hen Fyd)

(60 credydau)

Lladin Dwys I
Lladin Dwys II
Cerddi Serch Awgwstaidd (Lladin Uwch)

(30 credydau)

Rhyddiaith Neronaidd (Lladin Uwch)

(30 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

tysteb

Gwybodaeth allweddol

  • Mae gofyn bod gan ymgeiswyr radd israddedig dosbarth 2.2 ar gyfer astudio’r cwrs gradd hwn. Mae’r Ysgol yn annog myfyrwyr sydd â chymhwyster proffesiynol cyfatebol a phriodol neu brofiad proffesiynol sylweddol a pherthnasol i ymgeisio’n ogystal. 

  • Mae ein graddau iaith mewn Lladin yn cynnwys ystod eang o ddulliau asesu. Yn ogystal â thraethodau ac arholiadau traddodiadol, cewch eich asesu trwy sylwebaethau a phrofion yn y dosbarth. Mae’r amrywiaeth hwn yn y dulliau asesu yn helpu i ddatblygu sgiliau wrth gyflwyno deunydd mewn modd clir, proffesiynol ac eglur, boed ar lafar neu’n ysgrifenedig.

    Mae llawer o fodiwlau iaith yn cynnwys arholiad; bydd Cofrestrfa PCYDDS yn rhoi gwybod i’r dysgwyr o bell ynglŷn â threfniadau’r arholiadau, a gall dysgwyr o bell ofyn am gymorth y tiwtoriaid wrth wneud trefniadau ar gyfer arholiadau.

  • Ni fydd unrhyw gostau ychwanegol gorfodol i astudio y tu hwnt i dalu am ffioedd dysgu. Dylai myfyrwyr fod yn barod i ysgwyddo’r costau sylfaenol sy’n gysylltiedig ag astudio, fel cludiant, ac efallai y byddan nhw am brynu coffi, byrbrydau neu eitemau amrywiol eraill ar y campws.

    Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dewis buddsoddi mewn offer fel gliniaduron i’w cynorthwyo gyda’u hastudiaethau, er nad yw hyn yn ofynnol ar gyfer y rhaglen. Bydd unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud ag astudio neu fywyd myfyriwr sy’n dwyn cost y tu hwnt i gost ffioedd dysgu yn ddewisol, a bydd y gost yn cael ei chyfleu’n glir i fyfyrwyr wrth gofrestru.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r cwrs Lladin (MA) yn rhoi sylfaen gref ar gyfer swyddi ôl-raddedig, yn enwedig ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn gweithio ym myd ieithyddiaeth neu gyda’r iaith Ladin. Mae llawer o fyfyrwyr yn astudio ar gyfer y Dystysgrif Ôl-raddedig neu Ddiploma mewn Lladin cyn ymgymryd â PhD yn y Clasuron.

    Mae’r cwrs hefyd yn cynnig cymhwyster proffesiynol i athrawon neu eraill sy’n ceisio Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Mwy o gyrsiau Hanes ac Archaeoleg

Chwiliwch am gyrsiau