Skip page header and navigation

Groeg (Rhan amser) (MA)

Dysgu o Bell
3 Flwyddyn Rhan amser

Mae’r cwrs Groeg (MA) yn cynnig cyfnod annibynnol o astudio strwythuredig ond heriol i unrhyw un sy’n dymuno dilyn eu diddordeb mewn iaith a llenyddiaeth hynafol Gwlad Groeg. 

Gall myfyrwyr ddechrau astudio ar lefel dechreuwyr llwyr, neu ar lefel uwch, yn seiliedig ar eu gwybodaeth a’u cymwysterau presennol.

Gall myfyrwyr astudio ar gyfer:

  • Groeg (MA)
  • Groeg (Dip Ôl-radd)
  • Groeg (Tyst Ôl-radd)

I’r rhai sydd wedi bod yn astudio Groeg yn breifat, rydym yn cynnig prawf i’w gosod ar y lefel gywir o ran dysgu iaith.

Gall ymgeiswyr PhD, neu’r rhai sy’n bwriadu cychwyn ar PhD, ddefnyddio ein graddau i wella eu cymhwysedd mewn Groeg. I’r rhai sydd â diddordeb i ddysgu Groeg ar unrhyw lefel, gall y graddau ddarparu cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Mae’r graddau mewn Groeg ar gael fel opsiynau dysgu o bell yn rhan-amser yn unig.

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar-lein
  • Rhan amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
3 Flwyddyn Rhan amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae amgylchedd dysgu cyfoethog ac ysgogol yn meithrin twf academaidd a chwilfrydedd ymhlith myfyrwyr.
02
Mae ein staff yn weithgar ym maes ymchwil, sy’n sicrhau eu bod nhw’n cael y wybodaeth gyfredol am y datblygiadau diweddaraf yn eu priod feysydd ac yn cyfrannu mewnwelediadau gwerthfawr.
03
Gyda dosbarthiadau bach, mae myfyrwyr yn elwa ar gael sylw mwy personol, gan greu amgylchedd sy'n addas i gael rhyngweithiadau ystyrlon a phrofiadau dysgu effeithiol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs Groeg (MA) yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar gaffael a/neu ddatblygu eu sgiliau mewn Groeg hynafol ac, yn dibynnu ar eu gwybodaeth ieithyddol, gellir cychwyn ar lefel dechreuwyr, canolradd neu uwch.

Mae’r Dystysgrif Ôl-raddedig yn cynnwys 60 credyd, y Diploma Ôl-raddedig yn 120 credyd, a’r MA yn 180 credyd (gan gynnwys traethawd hir 60 credyd).

Gorfodol

Theori a Methodoleg ar gyfer Astudio'r Hen Fyd

(30 credydau)

Traethawd Hir MA (Hen Fyd)

(60 credydau)

Dewisol

Groeg Dwys I

(30 credydau)

Groeg Dwys II

(30 credydau)

Ffurfiau Barddonol Byr (Groeg Uwch)

(30 credydau)

Ffurfiau Barddonol Byr (Groeg Uwch Pellach)

(30 credydau)

Hanesyddiaeth Groeg (Groeg Uwch)

(30 credydau)

Hanesyddiaeth Groeg (Groeg Uwch Pellach)

(30 credydau)

Gorfodol

Theori a Methodoleg ar gyfer Astudio'r Hen Fyd

(30 credydau)

Traethawd Hir MA (Hen Fyd)

(60 credydau)

Dewisol

Groeg Dwys I

(30 credydau)

Groeg Dwys II

(30 credydau)

Areithyddiaeth Groeg (Groeg Uwch)

(30 credydau)

Areithyddiaeth Groeg (Groeg Uwch Pellach)

(30 credydau)

Straeon Medea (Groeg Uwch)

(30 credydau)

Straeon Medea (Groeg Uwch Pellach)

(30 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

tysteb

Gwybodaeth allweddol

  • Mae gofyn bod gan ymgeiswyr radd israddedig dosbarth 2.2 ar gyfer astudio’r cwrs gradd hwn. Rydym yn annog myfyrwyr sydd â chymhwyster proffesiynol cyfatebol a phriodol neu brofiad proffesiynol sylweddol a pherthnasol i ymgeisio’n ogystal.

  • Mae ein graddau iaith mewn Groeg yn cynnwys ystod eang o ddulliau asesu. Yn ogystal â thraethodau ac arholiadau traddodiadol, cewch eich asesu trwy sylwebaethau a phrofion yn y dosbarth. Mae’r amrywiaeth hwn yn y dulliau asesu yn helpu i ddatblygu sgiliau wrth gyflwyno deunydd mewn modd clir, proffesiynol ac eglur, boed ar lafar neu’n ysgrifenedig.

    Mae llawer o fodiwlau iaith yn cynnwys arholiad; bydd Cofrestrfa PCYDDS yn rhoi gwybod i’r dysgwyr o bell ynglŷn â threfniadau’r arholiadau, a gall dysgwyr o bell ofyn am gymorth y tiwtoriaid wrth wneud trefniadau ar gyfer arholiadau.

  • Ni fydd unrhyw gostau ychwanegol gorfodol i astudio y tu hwnt i dalu am ffioedd dysgu. Dylai myfyrwyr fod yn barod i ysgwyddo’r costau sylfaenol sy’n gysylltiedig ag astudio, fel cludiant, ac efallai y byddan nhw am brynu coffi, byrbrydau neu eitemau amrywiol eraill ar y campws.

    Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dewis buddsoddi mewn offer fel gliniaduron i’w cynorthwyo gyda’u hastudiaethau, er nad yw hyn yn ofynnol ar gyfer y rhaglen. Bydd unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud ag astudio neu fywyd myfyriwr sy’n dwyn cost y tu hwnt i gost ffioedd dysgu yn ddewisol, a bydd y gost yn cael ei chyfleu’n glir i fyfyrwyr wrth gofrestru.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r cwrs Groeg (MA) yn rhoi sylfaen gref ar gyfer swyddi ôl-raddedig, yn enwedig ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn gweithio ym myd ieithyddiaeth neu gyda’r iaith Roeg. Mae llawer o fyfyrwyr yn astudio ar gyfer y Dystysgrif Ôl-raddedig neu Ddiploma mewn Groeg cyn ymgymryd â PhD yn y Clasuron.

    Mae’r cwrs hefyd yn cynnig cymhwyster proffesiynol i athrawon neu eraill sy’n ceisio Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Mwy o gyrsiau Hanes ac Archaeoleg

Chwiliwch am gyrsiau