Skip page header and navigation

Groeg a Lladin (Llawn amser) (PGCert)

Dysgu o Bell
1 Flwyddyn Llawn amser

Mae’r cyrsiau Groeg a Lladin (Tystysgrif a Diploma Ôl-raddedig) yn cynnig cyfnod annibynnol o astudio strwythuredig ond heriol i unrhyw un sy’n dymuno dilyn eu diddordeb mewn iaith a llenyddiaeth hynafol Lladin a Gwlad Groeg. 

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar gaffael a/neu ddatblygu sgiliau mewn Groeg a Lladin hynafol. Mae ein system addysgu iaith wedi’i rhannu i lefelau gwahanol, gan ganiatáu i fyfyrwyr astudio pob iaith o lefel dechreuwr hyd at lefel uwch.  

Bob blwyddyn mae dau destun/awdur yn cael eu dewis ar gyfer pob iaith; rhyddiaith yw un o’r testunau, a barddoniaeth yw’r llall. Mae’r testunau a’r awduron yn newid bob blwyddyn a chewch gyfle i ddarllen gwaith gan awduron canonaidd a gwaith awduron sydd ddim yn rhan o’r canon.

Dyma enghreifftiau o waith a astudiwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf:

  • Lladin - Petronius, Columella, Ovid, Claudian a Statius 
  • Groeg - The Homeric Hymns, Plato, Diodirus, Sophocles ac Euripides 

Manylion y cwrs

Dyddiad cychwyn:
Dulliau astudio:
  • Ar-lein
  • Llawn amser
Iaith:
  • Saesneg
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn Llawn amser

Pam dewis y cwrs hwn

01
Mae amgylchedd dysgu cyfoethog ac ysgogol yn meithrin twf academaidd a chwilfrydedd ymhlith myfyrwyr.
02
Mae ein staff yn weithgar ym maes ymchwil, sy’n sicrhau eu bod nhw’n cael y wybodaeth gyfredol am y datblygiadau diweddaraf yn eu priod feysydd ac yn cyfrannu mewnwelediadau gwerthfawr.
03
Gyda dosbarthiadau bach, mae myfyrwyr yn elwa ar gael sylw mwy personol, gan greu amgylchedd sy'n addas i gael rhyngweithiadau ystyrlon a phrofiadau dysgu effeithiol.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r rhaglenni hyn yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ganolbwyntio ar gaffael a/neu ddatblygu eu sgiliau mewn Groeg a Lladin ac, yn dibynnu ar eu gallu ieithyddol, gellir cychwyn ar lefel dechreuwyr, canolradd neu uwch.

Gradd ôl-raddedig yw’r Diploma Ôl-raddedig sy’n cynnwys 120 credyd (tri modiwl a addysgir) o astudiaeth ôl-raddedig. Fel arfer disgwylir i fyfyrwyr rhan-amser gwblhau’r rhaglen dros gyfnod heb fod yn hwy na dwy flynedd, gan gwblhau 60 credyd y flwyddyn.

Gradd ôl-raddedig yw’r Dystysgrif Ôl-raddedig sy’n cynnwys 60 credyd (dau fodiwl a addysgir) o astudiaeth ôl-raddedig.

Dewisol

Groeg Dwys I

(30 credydau)

Groeg Dwys II

(30 credydau)

Ffurfiau Barddonol Byr (Groeg Uwch)

(30 credydau)

Hanesyddiaeth Groeg (Groeg Uwch)

(30 credydau)

Lladin Dwys I
Lladin Dwys II
Arwrgerddi Lladin (Lladin Uwch)
Rhyddiaith Weriniaethol (Lladin Uwch)

Dewisol

Groeg Dwys I

(30 credydau)

Groeg Dwys II

(30 credydau)

Areithyddiaeth Groeg (Groeg Uwch)

(30 credydau)

Straeon Medea (Groeg Uwch)

(30 credydau)

Lladin Dwys I
Lladin Dwys II
Cerddi Serch Awgwstaidd (Lladin Uwch)

(30 credydau)

Rhyddiaith Neronaidd (Lladin Uwch)

(30 credydau)

Disclaimer

  • Rydym yn gwrando ar adborth gan fyfyrwyr a mewnwelediadau gan ddiwydiant a gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod cynnwys ein cyrsiau o safon uchel ac yn ddiweddar, a’i fod yn cynnig y paratoad gorau posib ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol neu’ch nodau astudio. 

    Oherwydd hyn, efallai y bydd newidiadau i gynnwys eich cwrs dros amser er mwyn cadw’n gyfoes yn y maes pwnc neu’r sector. Os na fydd modwl yn cael ei gynnig bellach, gwnawn yn siŵr y byddwn yn eich hysbysu, ac yn gweithio gyda chi i ddewis modwl addas arall. 

Staff

Staff

Cewch eich addysgu a’ch cefnogi gan amrywiaeth eang o staff a thimau proffesiynol sydd yma er mwyn eich helpu i gael y profiad prifysgol gorau posibl. Daeth ein staff addysgu’n 2il yng Nghymru am asesiadau ac adborth (NSS 2023) sy’n golygu y bydd y sylwadau a gewch chi ar eich gwaith yn eich helpu i ddysgu. O ganlyniad i’n hymrwymiad i’ch dysgu mae ein myfyrwyr wedi ein gosod yn y 10 gorau yn y DU am Ddarlithwyr ac Ansawdd Addysgu. Dysgwch ragor am ein staff academaidd sy’n addysgu ar draws ein cyrsiau. 

tysteb

Gwybodaeth allweddol

  • Mae gofyn bod gan ymgeiswyr radd israddedig dosbarth 2.2 ar gyfer astudio’r cwrs gradd hwn. Mae’r Ysgol yn annog myfyrwyr sydd â chymhwyster proffesiynol cyfatebol a phriodol neu brofiad proffesiynol sylweddol a pherthnasol i ymgeisio’n ogystal. 

  • Mae ein graddau iaith mewn Groeg a Lladin yn cynnwys ystod eang o ddulliau asesu. Yn ogystal â thraethodau ac arholiadau traddodiadol, cewch eich asesu trwy sylwebaethau a phrofion yn y dosbarth. Mae’r amrywiaeth hwn yn y dulliau asesu yn helpu i ddatblygu sgiliau wrth gyflwyno deunydd mewn modd clir, proffesiynol ac eglur, boed ar lafar neu’n ysgrifenedig.

  • Ni fydd unrhyw gostau ychwanegol gorfodol i astudio y tu hwnt i dalu am ffioedd dysgu. Dylai myfyrwyr fod yn barod i ysgwyddo’r costau sylfaenol sy’n gysylltiedig ag astudio, fel cludiant, ac efallai y byddan nhw am brynu coffi, byrbrydau neu eitemau amrywiol eraill ar y campws.

    Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn dewis buddsoddi mewn offer fel gliniaduron i’w cynorthwyo gyda’u hastudiaethau, er nad yw hyn yn ofynnol ar gyfer y rhaglen. Bydd unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud ag astudio neu fywyd myfyriwr sy’n dwyn cost y tu hwnt i gost ffioedd dysgu yn ddewisol, a bydd y gost yn cael ei chyfleu’n glir i fyfyrwyr wrth gofrestru.

  • Efallai eich bod yn gymwys i gael arian i helpu i gefnogi eich astudiaethau.  I ddysgu am ysgoloriaethau, bwrsarïau a chyfleoedd ariannu eraill sydd ar gael, ewch i’n hadran Bwrsarïau ac Ysgoloriaethau.

  • Mae’r rhaglen yn rhoi sylfaen gadarn ar gyfer swyddi ôl-raddedig, gan roi pwyslais arbennig ar yr ieithoedd. 

    Mae’r cwrs hefyd yn cynnig cymhwyster proffesiynol i athrawon neu eraill sy’n ceisio Datblygiad Proffesiynol Parhaus.

Mwy o gyrsiau Hanes ac Archaeoleg

Chwiliwch am gyrsiau