Skip page header and navigation

Dr Darrelyn Gunzburg BA(Anrh), PhD

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Tiwtor yng Nghanolfan Sophia

Athrofa Addysg a’r Dyniaethau


E-bost: d.gunzburg@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Mae’n addysgu ar y cwrs MA dysgu o bell sy’n cael ei redeg gan Ganolfan Sophia ar gyfer Astudio Cosmoleg mewn Diwylliant ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac mae’n cyfrannu at lunio dau o’r chwe modwl a addysgir: Y modwl Sylfeini, ac Awyr Sanctaidd. Mae’n pennu gradd traethodau myfyrwyr, yn trefnu’r tiwtorialau sgiliau hyfforddi ar-lein ar Dechnegau Ysgolheictod, ac yn goruchwylio traethodau hir MA myfyrwyr. 

Modylau a addysgir:

  • HPCA 7015 Sylfeini mewn Seryddiaeth ac Astroleg Ddiwylliannol 
  • HPCA 7027 Awyr Sanctaidd

 Mae’n addysgu’n achlysurol ar:

  • HPCA 7014 Daearyddiaeth Sanctaidd

Sefydlodd Gymdeithas Cyn-fyfyrwyr Canolfan Sophia yn 2014 a hi oedd y Cadeirydd Cyntaf (2014–2018). Rhwng 2010–2014 roedd yn diwtor Hanes Celf ym Mhrifysgol Bryste.  

Aelod O

  • Canolfan Ryngwladol Celf Ganoloesol (ICMA)
  • Cymdeithas Haneswyr Celf  (AAH)
  • Cymdeithas Gelf yr Eidal (IAS)
  • Academi Ganoloesol America

Diddordebau Academaidd

Cwblheais fy ngradd BA (Anrh) ar ôl symud i’r DU o Awstralia. Er i mi ddechrau gyda modwl ar Shakespeare, a minnau wedi gweithio’n helaeth fel dramodydd yn Awstralia, symudodd fy niddordebau academaidd i faes Hanes Celf a dyfarnwyd i mi BA (Anrh) gan y Brifysgol Agored yn 2006, a PhD gan Brifysgol Bryste yn 2014, y ddwy radd yn arbenigo mewn hanes celf yr oesoedd canol yn Ewrop. Teitl fy nhraethawd ymchwil am fy noethuriaeth oedd: ‘Giotto’s Salone: an astrological investigation into the fresco scheme of the first floor Salone of the Palazzo Della Ragione’.

Yn 2009 ymunais â Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gan addysgu ar yr MA mewn Seryddiaeth ac Astroleg Ddiwylliannol yn 2010.

Ochr yn ochr â’r swydd hon, rhwng 2010–2015 bûm yn addysgu myfyrwyr israddedig Hanes Celf a Hanes ym Mhrifysgol Bryste (HIST13015: Approaching The Past, HART10215: Introduction to Medieval Art, HART20009: Early Italian Art, HART22225: Special Field Project, HART22223: History and Theories of Art, and HART10215: Introduction to Medieval Art).

Addysgu

Mae fy ngwaith addysgu cyfredol yn canolbwyntio’n llwyr bellach ar yr MA mewn Seryddiaeth ac Astroleg Ddiwylliannol.

AHAN7002 Cyflwyniad i Seryddiaeth ac Astroleg Ddiwylliannol        
Mae’r modwl hwn yn cyflwyno’r astudiaeth o seryddiaeth, astroleg a chosmoleg mewn perthynas â diwylliant.

AHAN7003 Hanes Astroleg
Mae’r modwl hwn yn archwilio hanes astroleg o’r cychwyn ym Mesopotamia a’r trosglwyddo i wlad Groeg, yr Aifft, a Rhufain glasurol, a’i hadfywiad yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif.

AHAN7024 Disgwrs Nefol 
Mae’r modwl hwn yn archwilio’r berthynas ddynol â’r awyr trwy sidyddion, astrolabau, mapiau, barddoniaeth, llenyddiaeth, cerddoriaeth, pensaernïaeth a’r celfyddydau gweledol.

Hen fodwl MA, nad yw’n cael ei addysgu bellach:
MARCH7820: Y Cosmos Canoloesol.

Meysydd Ymchwil

Gorwedd fy niddordebau ymchwil yn agweddau hanes celf a diwylliant seryddol ffresgoau yn yr Eidal Ganoloesol, lleoliad eglwysi abatai Sistersaidd yng Nghymru, y DU ac Ewrop a’u perthynas ddiwinyddol â thirwedd, yn ogystal â sut mae ystyr yn deillio o horosgopau genedigol mewn astroleg orllewinol gyfoes.

Cyhoeddiadau

2021

  • Space, Place and Religious Landscapes: Living Mountains, golygwyd gan Darrelyn Gunzburg a Bernadette Brady, London: Bloomsbury Academic.
  • ‘Building Paradise on the Hill of Hell in Assisi: Mountain as Reliquary.’ Yn Space, Place, and Religious Landscapes: Living Mountains, golygwyd gan Darrelyn Gunzburg a Bernadette Brady, 99-120. London: Bloomsbury Academic, 2021.

2020

  • ‘Time Pursued by a Bear: Ursa Major and Stellar Time-Telling in the Paduan Salone.’ Yn Visualising Skyscapes: Material Forms of Cultural Engagement with the Heavens, golygwyd gan Liz Henty a Daniel Brown, 158-176. London and New York: Routledge.

2019

  • ‘Reflecting on Mary: the Splendor of the Madonna in the Lower Church of Assisi’ yn Medieval Franciscan Approaches to the Virgin Mary: Sanctissima, Misericordia, Et Dolorosa, edited by Steven J. McMichael and Katie Wrisly Shelby. The Medieval Franciscans, 302-334. Leiden; Boston: Brill. 
  • Golygydd Gwadd: ‘Special Issue: Inside the World of Contemporary Astrology.’ Journal for the Study of Religion, Nature and Culture 13, no. 1.
  • ‘The Horoscopic Place: The Encounter between Astrologer and Client.’ Journal for the Study of Religion, Nature & Culture 13, no. 1 (2019): 44-60.

2018

  • ‘Al-Qabisi.’ Yn Astrology through History: Interpreting the Stars from Ancient Mesopotamia to the Present, golygwyd gan William E. Burns,17–19. Santa Barbara: ABC-CLIO.
  • ‘Art.’ Yn Astrology through History: Interpreting the Stars from Ancient Mesopotamia to the Present, golygwyd gan William E. Burns,27–33. Santa Barbara: ABC-CLIO.
  • ‘Medieval European Astrology.’ Yn Astrology through History: Interpreting the Stars from Ancient Mesopotamia to the Present, golygwyd gan William E. Burns, 218–222. Santa Barbara: ABC-CLIO. 218-222. Santa Barbara: ABC-CLIO.

 2017

  • ‘The Reception of Islamic Astrology in the Images of the Palazzo della Ragione, Padua, Italy’ yn Religious Offerings and Sacrifices in the Ancient NearEast; Astrology in the Ancient near East; the River Jordan, golygwyd gan Shafiq Abouzayd, 177-194. Oxford: ARAM Society for Syro-Mesopotamian Studies.

2016

  • ‘The Orientation of Cistercian Churches in Wales: A Cultural Astronomy Case Study.’ Cîteaux – Commentarii cistercienses 67, no. 3–4 (2016): 275–302. Cyd-awdurwyd gyda B.Brady a F. Silva.
  • Golygydd: The Imagined Sky: Cultural Perspectives. Sheffield: Equinox Publishing
  • ‘Giotto’s Sky: The Fresco Paintings of the First Floor Salone of the Palazzo Ragione, Padua, Italy’ yn The Imagined Sky: Cultural Perspectives, golygwyd gan Darrelyn Gunzburg. 87-113. Sheffield: Equinox Publishing.
  • Golygydd Gwadd: ‘Special Issue: The Imagined Sky, Cultural Perspectives’, Journal for the Study of Religion, Nature and Culture 7, no. 4.

2013

  • ‘Giotto’s Sky: The fresco paintings of the first floor Salone of the Palazzo della Ragione, Padua, Italy.’ Journal for the Study of Religion, Nature and Culture 7, no. 4 (2013): 407-433.
  • ‘The Perugia Fountain: An Encyclopaedia of Sky, Culture and Society’. Yn Sky and Symbol, golygwyd gan Nicholas Campion a Liz Greene, 103–118. Ceredigion:  Gwasg Canolfan Sophia, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
  • ‘How Do Astrologers Read Charts?’ Yn Astrologies: Plurality and Diversity, golygwyd gan Nicholas Campion a Liz Greene, 181–200. Ceredigion: Gwasg Canolfan Sophia, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

 2011

  • ‘Looking Back: The Transgression of Social Codes Explored through the Direct Gaze in Fra Angelico’s San Marco Altarpiece When Compared with Madonna and Child with Eight Saints’. St Andrews Journal of Art History and Museum Studies 14 (2010), 31-44.

Rhwng 2008–2015 bûm yn ysgrifennu’n rheolaidd i The Art Book (Wiley) a Cassone: The International Online Magazine of Art and Art Books ac roeddwn ar fwrdd golygyddol Cassone 2011–2015.

Gwybodaeth Bellach

Swyddi golygyddol

Bwrdd Golygyddol, Cassone, The International Online Magazine of Art and Art Books (2011–2015).

Arddangosfeydd a guradwyd

2015 A Celebration of Light and Skyscapes, Dydd Mawrth 22–28 Mehefin, BRSLI, Caerfaddon.

2011 Visions of Heaven, 14–23 Hydref 2011, Bristol Gallery, Bryste.

Cynadleddau a drefnwyd

2011: ‘Heavenly Discourses’, Prifysgol Bryste, 13–16 Hydref (Cyd-Gadeirydd a Threfnydd).

2010: ‘Imagining Astrology: Painted Schemes and Threads of the Soul’ Prifysgol Bryste (Cyd-Gadeirydd a Threfnydd). 

Trefnydd Ffrydio Cynhadledd

2015: Sesiwn Arbennig - Astrology and Medieval Literature, 50th International Congress on Medieval Studies, Kalamazoo, Michigan, 14–17 Mai, 2015. 

Papurau Cynhadledd Diweddar

2016: ‘Time pursued by a Bear: Ursa Major and stellar time-telling in the Paduan Salone’Astronomy in Past and Present Cultures, TAG (The Theoretical Archeology Group), 20 Rhagfyr, 2016. Southampton, y DU.

2016: Welsh Monastic Skyscapes: The Cistercians in Wales – TAG (Theoretical Archaeology Group), 19-21 Rhagfyr 2016, Southampton, y DU.

2016:  Welsh Monastic Skyscapes: the Cistercians in Wales – SEAC (International Conference of the European Society for Astronomy in Culture), 12–18 Medi 2016, Caerfaddon, y DU.

2016: ‘Reflecting on Mary: Pietro Lorenzetti’s Madonna dei Tramonti (Madonna of the
Sunsets) in the Lower Church, San Francesco, Assisi’: Sesiwn Arbennig – The Medieval Franciscans and the Virgin Mary, 51st International Congress on Medieval Studies, Kalamazoo, Michigan, 12–15 Mai, 2016.

2015: ‘Time pursued by a Bear: Ursa Major and stellar time-telling in the Paduan Salone’Astronomy in Past and Present Cultures, SEAC (International Conference of the European Society for Astronomy in Culture), 9–15 Tachwedd, Rhufain, yr Eidal.

2014: ‘Reading the Horoscope, Becoming the Other’, BASR annual conference, y Brifysgol Agored, 3–5 Medi 2014.

Papurau Cynhadledd Gwahoddedig

2015: ‘Motif and memory within the zodiac constellations in art: a ‘pittura’ franca’, Astrology As Art: Representation and Practice, Cynhadledd CanolfanSophia, Caerfaddon, y DU 27–28 Mehefin.

Cyhoeddiadau Proffesiynol y tu allan i’r academi

Grief, a Dark, Sacred Time.  Swanage: Flying Horse Books, 2019.
Hefyd ar gael fel llyfr sain drwy Audible.

Dramâu Cyhoeddedig

1991

  • Behind the Beat. Sydney: Currency Press Ltd. 1991
  • ‘Water from the Well’ yn Around the Edge: Women’s Plays. Adelaide: Tantrum
  • Enwebwyd am AWGIE 1991. 

1989

  • Hiccup. Sydney: Currency Press Ltd. 
  • 1989 Samuel Weisberg Award.
  • Enwebwyd am AWGIE 1990.

 1989

  • ‘A Touchy Subject’ (cyd-ysgrifennwyd gyda Roxxy Bent a Margaret Fischer) yn Weighing It up & A Touchy Subject. Adelaide: Tantrum Press.