Llun a Chyflwyniad
![Silwét pen ac ysgwyddau dyn](/sites/default/files/styles/media_item_uncropped/public/2023-06/Staff-Silhouettes-male-0.jpg?itok=rRauZ7n9)
Rôl yn y Brifysgol
Goruchwylio a marcio traethodau hir yn yr MA mewn Seryddiaeth Ddiwylliannol ac Astroleg.
Cefndir
Astudiais athroniaeth ym Mhrifysgol East Anglia. Ar hyn o bryd, rwy’n cwblhau PhD yng Nghanolfan Sophia ar ‘Astroleg a Gwirionedd’ sy’n trafod y materion epistemolegol sy’n gysylltiedig ag arferion astroleg horosgopig. Mae hyn yn adeiladu ar ymchwil a gyflwynwyd yn fy llyfr Astrology in the Year Zero (Llundain: Flare, 2000).
Diddordebau Academaidd
Mae fy niddordebau’n cynnwys athroniaeth, arfer a hanes astroleg, yn arbennig astroleg a welir fel dewiniaeth; Meddwl ac arfer crefyddol, yn arbennig Bwdhaeth Theravadan, Advaita Vedanta a neo-Advaita.
Meysydd Ymchwil
Y thema sy’n uno fy niddordebau ymchwil yw ymholiad i fodolaeth (neu beidio) realiti ac ystyr trawsbersonol. Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio ar PhD am ‘Astroleg a Gwirionedd’.
Arbenigedd
Mae fy arbenigedd yn cynnwys: hanes, athroniaeth ac arfer astroleg; athroniaeth y Gorllewin, yn arbennig epistemoleg; methodoleg cyfweld ymarferol (rwyf wedi cyfweld â thros chwe deg o astrolegyddion a beirniaid astroleg); athroniaeth ac arfer Bwdhaidd, yn arbennig myfyrdod vipassana (ymwybyddiaeth ofalgar) (bues yn fynach Bwdhaidd am chwe blynedd ac yn athro o fewn y traddodiad Theravadan am dros bum mlynedd ar hugain).
Cyhoeddiadau
- Astrology in the Year Zero (Llundain: Flare, 2000)
- Gyda’r AthroPeter Case: ‘The Hidden Lineage of Modern Management Science: Astrology, Alchemy and the Myers-Briggs Type Indicator’, Culture and Cosmos Cyf. 5(2), Hydref/Gaeaf, 2001
- Gyda’r AthroPeter Case: ‘Astrology, Alchemy and Retro-Organization Theory: An Astro-Genealogical Critique of the Myers-Briggs Type Indicator’, Organization Cyf. 11(4), 2004
- ‘Modern Science, Epistemology and Astrology’, Correlation Cyf.23 (2), 2006
- ‘Theurgy in Theravadan Buddhism’ yn: Patrick Curry & Angela Voss, Seeing with Different Eyes (Newcastle: Cambridge Scholars Publishing, 2007)
- ‘The Philosophy of William James as a Context for Astrology’ yn: Nicholas Campion & Liz Greene, Astrologies (Llambed: Gwasg Canolfan Sophia, 2011)
- ‘Astrology as Heresy in Contemporary belief’, Journal for the Study of Religion Nature and Culture (ar ddod 2017).
Gwybodaeth Bellach
Rwy’n cyd-guradu, gyda Kirk Little, y wefan CosmiCosmocritic.com. Mae’r safle’n ymchwilio ac yn cyflwyno erthyglau ar ymagweddau athronyddol at astroleg, gan gynnwys (ond heb ei gyfyngu i) syniadau o astroleg fel dewiniaeth.