Skip page header and navigation

Hazel Thomas

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Cydlynydd Prosiect

Canolfan Tir Glas


E-bost: hazel.thomas@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Dechreuodd Hazel weithio fel Cydlynydd i brosiect Tir Glas ym mis Mai 2021. Ers hynny, mae Canolfan Tir Glas wedi’i lansio’n swyddogol ac wedi sicrhau cyllid o’r Gronfa Ffyniant Bro.

Cefndir

O weithio fel chef yn y Dorchester Hotel, Llundain, i helpu i sefydlu Gŵyl Fwyd Llambed, mae Hazel wedi cael bywyd proffesiynol bywiog a chyfoethog.  Mae nifer o’r uchafbwyntiau’n cynnwys:

  • symud o gefn gwlad Ceredigion i Lundain yn un ar bymtheg oed i ddilyn cwrs llawn amser tair blynedd fel Chef Proffesiynol
  • gweithio fel chef yn Tregenna Castle Hotel, St Ives, Cernyw
  • helpu i sefydlu Gŵyl Fwyd Llambed a’i hadleoli wedyn
  • dod yn Gynghorydd Bwyd Annibynnol a Threfnydd Digwyddiadau
  • cefnogi Llyfrgell Genedlaethol Cymru fel rheolwr prosiect ar gyfer rhaglen Casgliad y Werin, fel rheolwr uned, ac fel Pennaeth Cysylltiadau Allanol i’r un sefydliad.

Hefyd mae wedi gweithio i Hyfforddiant Cambrian, Prime Cymru (fel mentor), a Merched y Wawr.

Ar ôl dychwelyd i Lambed, astudiodd Hazel radd BA yn y Gymraeg gyda’r Drindod Dewi Sant (Prifysgol Dewi Sant ar yr adeg honno). Hefyd mae wedi astudio cyrsiau’r Brifysgol Agored ar y Gwyddorau Cymdeithasol, Iechyd a Chlefyd, a Llesiant Cymdeithasol.  

Mae Hazel yn lladmerydd cryf dros gynaliadwyedd bwyd, a meddai am ei gwaith gyda Thir Glas: “Mae bod yn rhan o’r prosiect arloesol hwn yn anrhydedd fawr.  Mae Prosiect Canolfan Tir Glas yn brosiect hirdymor, ac mae pob elfen o’r weledigaeth yn apelio at fy niddordebau mewn cynaliadwyedd, a’r mwyaf ohonynt yw cynaliadwyedd bwyd. Gobeithiaf yn fawr y bydd y prosiect yn denu’r gefnogaeth mae’n ei haeddu.”

Gwybodaeth bellach