Skip page header and navigation

Iwan Davies MA, MMus, ATCL, ALCM

Image and intro

male staff smiling portrait

Darlithydd mewn Perfformio Lleisiol

Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru

Ffôn: 01267 676767
E-bost: i.t.davies@uwtsd.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Hyfforddi cantorion clasurol BMus ac addysgu’r modwl Perfformiad Ensemble Lefel 5.

Cefndir

Hyfforddodd Iwan Davies yn Ysgol Gerdd a Drama’r Guildhall a’r Stiwdio Opera Genedlaethol yn Llundain, lle bu’n rhan o amryw berfformiadau mewn cydweithrediad ag Opera North, Opera’r Alban ac Opera Cenedlaethol Cymru. Bu’n arweinydd staff yn y Salzburger Landestheater, lle arweiniodd y Mozarteum Orchester mewn perfformiadau o La Gazzetta (Rossini), The Trial (Glass), Wiener Blut (Strauss), a My Fair Lady. Fe yw Pennaeth Cerdd Gŵyl Ryngwladol Buxton, lle mae wedi arwain cynyrchiadau o Cendrillon (Viardot) a Viva la Diva (Donizetti). Ar gyfer yr English Touring Opera, arweiniodd La bohème a The Golden Cockerel (Rimsky-Korsakov), ac ar gyfer OPRA Cymru, première byd o opera Cymraeg Gareth Glyn, Wythnos yng Nghymru Fydd, Fidelio Beethoven, ac ail opera Glyn, Un Nos Ola Leuad, gyda cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, sydd bellach yn cael ei droi’n ffilm. Yn gefnogwr brwd o gerddoriaeth Gymraeg, mae’n Gyfarwyddwr Cerdd ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac mae wedi comisiynu a pherfformio gweithiau newydd gan Claire Victoria Roberts, Pwyll ap Siôn, Gareth Olubunmi Hughes, Hana Lili, Jefferson Lobo, David Roche, Sarah-Lianne Lewis a Mared Emlyn. Mae ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys première byd o opereta newydd yn defnyddio cerddoriaeth Ivor Novello, The Land of Might-Have-Been, yn Buxton, a chynhyrchiad newydd o Così fan tutte gydag OPRA Cymru.

Aelod O

  • Cymdeithas Gorfforedig y Cerddorion

Meysydd Ymchwil

Mae’n fyfyriwr PhD ym Mhrifysgol Bangor ar hyn o bryd, yn ymchwilio i opera Cymreig ers sefydlu Opera Cenedlaethol Cymru.