Skip page header and navigation

Jacqueline Pischorn BMus llais KUG Graz, Diploma OR Trinity Laban Llundain

Image and intro

female staff profile smiling

Hyfforddwr Iaith Almaeneg

Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru

Ffôn: 01267 676767
E-bost: j.pischorn@uwtsd.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Gweithio gyda chantorion ar ynganiad Almaeneg, gan eu paratoi i ganu unrhyw repertoire o ganeuon sydd â lleoliadau Almaenaidd

Cefndir

Ganed Jacqueline Pischorn yn Awstria a bu’n astudio canu ym Mhrifysgol Cerddoriaeth a Chelfyddydau Dramatig Graz ac yng Ngholeg Cerdd y Drindod yn Llundain. Astudiodd gerddoriaeth gyfoes yn Ysgol Britten-Pears gydag Oliver Knussen a Rosemary Hardy.

Un o’i llwyddiannau mawr oedd perfformiad cyntaf o ddarn (Kyng Orfeo) a ysgrifennwyd ar ei chyfer gan Ian Schofield, yn Neuadd Turner Sims yn Southampton, i gyfeiliant y pianydd David Owen Norris.

Mae ei pherfformiadau oratorio yn cynnwys Vespers Mozart a St John Passion yn St John’s Smith Square, Requiem Mozart yn Neuadd Cadogan, a B Minor Mass yn Eglwys Gadeiriol Southwark, pob un gyda’r arweinydd James Gaddarn. Canodd y Messiah gyda Sinffonia Rhydychen a sawl cyngerdd gyda’r Portsmouth Baroque Choir, Newbury Baroque Choir, Peebles Choral Society, Kendal and Cockermouth Choral Society a The Consort of Twelve o dan Paul Esswood.

Mae Jacqueline wedi perfformio sawl Lieder yn Awstria, Slofenia a’r DU. Cychwynnodd Jacqueline a Michael McCartney ddeuawd gitâr a llais ym mis Ionawr 2018.  Maen nhw’n gweithio ar ganeuon o’r cyfnod Rhamantaidd ac ar weithiau cyfoes, ac maen nhw’n rhoi datganiadau ledled y DU.

Dechreuodd Jacqueline weithio yn hyfforddwr iaith yn 2003 yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru lle mae’n dal i weithio yn yr un swydd. Hi hefyd yw’r hyfforddwr Almaeneg ar gyfer Conservatoire Birmingham ac mae hi wedi hyfforddi cantorion yng Ngholeg Morley, Llundain, Prifysgol Caerdydd, The Wagner Society, The Waynflete Singers a Gŵyl Opera Longborough (Rheingold), Nederlandse Reisopera (Siegfried, Johannespassion).

Yn Opera Cenedlaethol Cymru, mae Jacqueline wedi gweithio yn hyfforddwr ar Salome, Wozzeck, Meistersinger (gyda Bryn Terfel), Ariadne auf Naxos (gyda Sarah Conolly), Entführung, Lohengrin, Tristan und Isolde (gyda Ben Heppner), Wagner Dream, Rosenkavalier, Fidelio, Die Kommilitonen, Lulu, Moses und Aron (gyda John Tomlinson).

Yn WAVDA, WIAV gynt, mae Jacqueline wedi bod yn gweithio yn hyfforddwr Almaeneg ers 2012.

Aelod O

  • Aelod o Undeb Athrawon Prifysgol UCU

Diddordebau Academaidd

Ar wahân i’m prif bwnc yn hyfforddwr ynganiad, rydw i hefyd yn gweithio fel athrawes ganu i Ysgol Downe House, ac rwy’n mwynhau hynny’n fawr.  Rydw i hefyd wedi gweithio’n flaenorol fel athrawes biano mewn ysgolion

Arbenigedd

Cyn fy ngradd canu, treuliais ddwy flynedd ym Mhrifysgol Karl Franzens yn Graz yn astudio seicoleg.  Treuliais rywfaint o amser yn dysgu addysgeg a seicoleg plant.  Bu hyn yn ddylanwad ar fy mywyd diweddarach mewn ffordd, gan adfyfyrio ar ddulliau addysgu a bod yn agored iawn bob amser i ddulliau newydd ac unigol er mwyn cysylltu â phob myfyriwr yn y ffordd orau a cheisio bod yn ddefnyddiol iddynt yn unigol.

Cyhoeddiadau

German diction for English-speaking singers, 2007, Caddy Publishing

German diction for English-speaking singers, ail argraffiad, 2019, Augarten press