Image and intro
Darlithydd Cysylltiol yn y Rwsieg
Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru
Ffôn: 01267 676767
Rôl yn y Brifysgol
Addysgu hanfodion y Rwsieg i fyfyrwyr opera a hyfforddi Opera a chaneuon Rwsieg
Cefndir
Bûm yn hyfforddi’r Rwsieg yn Opera Cenedlaethol Cymru ers 2003 ac rydw i hefyd wedi hyfforddi yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, Corws Symffoni Dinas Birmingham, Corws Ffilharmonig Leeds a mannau eraill. Rydw i wedi paratoi unawdwyr ar gyfer cynyrchiadau yn UDA, Hwngari, Sweden a phob rhan o’r DU. Yn arweinydd corawl, rydw i wedi perfformio mewn 17 gwlad. Yn ogystal â dinasoedd yn y DU, yn cynnwys Llundain a Chaerdydd, mae’r lleoliadau’n cynnwys Efrog Newydd, Moscow, St Petersburg, Paris, Brwsel, Buenos Aires, Helsinki, ac yn Budapest perfformiais yn y première byd o’r “Bards of Wales” gan Syr Karl Jenkins. Wrth weithio yn Hwngari, rydw i wedi hyfforddi cantorion opera a chymdeithasau corawl yn y Saesneg a’r Gymraeg ac wedi perfformio yn Adroddwr ar gyfer y “Bards of Wales” yn y DU, UDA, Hwngari a Romania