Skip page header and navigation

Julie Crossman MA (PDET), CMgr

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Uwch Ddarlithydd

Yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd

Ffôn: 01267 225178   
E-bost: julie.crossman@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Ymchwilio i fodiwlau academaidd a’u cynllunio a’u darparu a gweithredu fel mentor i ddysgwyr, gan ddarparu arweiniad a chefnogaeth gyda, er enghraifft, sgiliau ysgrifennu academaidd a magu hyder.

Cefndir

Mae gan Julie ddeng mlynedd o brofiad fel Hyfforddwr Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn AB, lle bu hefyd yn brif Sicrhawr Ansawdd Mewnol ar gyfer y gyfres o gymwysterau’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (ILM). Roedd ei chyfrifoldebau yn cynnwys llunio a darparu rhaglenni dysgu a datblygu mewn Arweinyddiaeth a Rheolaeth, Hyfforddi a Mentora a Hyfforddi’r Hyfforddwr proffesiynol. Mae ei rolau rheolaethol blaenorol wedi cynnig profiad mewn sectorau galwedigaethol amrywiol gan gynnwys darparwr hyfforddiant preifat a’r diwydiant manwerthu.

Aelod O

  • Rheolwr Siartredig gyda CMI (CMgr),
  • Aelod o’r Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth (MInstLM);
  • Ymarferwr ITA NLP (Academi Hyfforddwyr Ryngwladol NLP)

Diddordebau Academaidd

Diddordeb mawr mewn sut gall unigolion feithrin hunanymwybyddiaeth ac adeiladu ar sgiliau ‘meddal’ mewn perthynas â datblygu gallu i arwain a rheoli. Diddordeb hefyd mewn profion seicometrig a sut gall hyn wella dealltwriaeth bersonol, hyder a medrusrwydd yn y gweithle. Yn olaf, rydw i’n cefnogi unigolion drwy gyfrwng technegau hyfforddi a mentora i hwyluso twf personol a gwybodaeth.

Meysydd Ymchwil

Mae’r diddordebau’n cynnwys profion seicometrig, deallusrwydd emosiynol a rhaglenni niwro-ieithyddol.

Arbenigedd

  • Hyfforddi a mentora.
  • Datblygiad proffesiynol.
  • Ymchwilio i raglenni dysgu seiliedig ar waith ar draws amrywiaeth o feysydd pwnc arweinyddiaeth a rheolaeth, a’u cynllunio a’u darparu.