Llun a Chyflwyniad
![Mae Dr Katherine Ngo yn gwenu tuag at y camera ar ddiwrnod heulog gyda choeden ddeiliog tu ôl iddi.](/sites/default/files/styles/media_item_uncropped/public/2024-05/dr-katherine-ngo.jpg?itok=ykbDgrcM)
Darlithydd mewn Llenyddiaeth Tsieineaidd Hynafol
Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau
E-bost: katherine.ngo@pcydds.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
Mae Katherine yn addysgu ar draws y rhaglenni sylfaen, israddedig ac ôl-raddedig, gan gynnwys:
- Sinoleg (Tystysgrif Sylfaen)
- BA Sinoleg
- BA Sinoleg (Addysg Ddyneiddiol)
- MA Astudiaethau Clasurol Conffiwsaidd
- MA Astudiaethau Testunol Bwdhaidd Tsieineaidd.
Mae’n goruchwylio myfyrwyr doethurol ym maes Sinoleg. Mae Katherine hefyd yn Rheolwr Rhaglen Sinoleg (Tystysgrif Sylfaen) a’r rhaglenni BA Anrhydedd Sinoleg (Addysg Ddyneiddiol).
Cefndir
- PhD Astudiaethau Diwylliannol, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (2022)
- Meistr yn y Celfyddydau Sinoleg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (2018)
- Baglor mewn Meddyginiaeth a Baglor mewn Llawfeddygaeth (Anrhydedd Dosbarth Cyntaf), Prifysgol Tasmania, Awstralia (2010)
- Baglor yn y Gwyddorau Meddygol (Anrhydedd Dosbarth Cyntaf) (2008)
Cafodd fy astudiaethau ôl-raddedig cyntaf eu hariannu gan y Chin Kung Multicultural Education Foundation.
Aelod O
- Aelod, Bwrdd Rheoli Academi Sinoleg PCYDDS
- Aelod, Cymdeithas Astudiaethau Tsieineaidd Ewrop
Diddordebau Academaidd
Modylau cyn BA:
- Hanes Cryno Sinoleg Prydain
Modylau israddedig:
- Addysg Elfennol yn Tsieina tua Diwedd y Cyfnod Ymerodrol
- Llenyddiaeth ar gyfer Cyfarwyddyd Moesol yn Tsieina tua Diwedd y Cyfnod Ymerodrol
- Y Pedwar Llyfr Dysgeidiaeth Conffiwsaidd
- Cyfieithu Llenyddiaeth Conffiwsaidd a Bwdhaidd
- Syniadau Gwleidyddol yn Essentials of Bringing about Order from Assembled Texts (Qunshu Zhiyao)
Modylau ôl-raddedig:
- Testunau Tsieinëeg Clasurol yn Saesneg
- Astudiaethau Clasurol Conffiwsaidd
- Hanes a Gwareiddiad Tsieina
Meysydd Ymchwil
Mae fy niddordeb ymchwil ym maes damcaniaethau ac arferion addysgol llenyddiaeth i blant Tsieina cyn yr oes fodern a gwaith canonaidd Tsieina. Rhan annatod o hyn yw gwneud y darnau hyn o waith hynafol yn hygyrch i gynulleidfa fodern trwy eu cyfieithu a’u hegluro.
Cyhoeddiadau
Guide to the Traditional Chinese Ancestral Remembrance Service Protocol. Wedi’i gyfieithu ar y cyd gyda Dr Kelly Ngo. (Taipei: The Corporation Republic of Hwa Dzan Society, 2016)
[i ddod] Traditional Chinese Children’s Primers: A Sourcebook (Ann Arbor: Lever Press)
[i ddod] Unlocking the Treasury: Elementary Learning for Boys in Qing China (Ann Arbor: Lever Press)
Gwybodaeth bellach
Dosbarth Meistr Athroniaeth Conffiwsaidd ar gyfer athrawon y Raglen Anrhydedd yng Ngholeg Chweched Dosbarth Dewi Sant, Caerdydd. Ebrill 2023.
Seminarau Sinoleg: Celf Byw. Darlithoedd seminar deuddydd a gyflwynwyd ar y cyd. Yr Academi Sinoleg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Gorffennaf 2022, Ionawr 2023 ac Ionawr 2024.