Llun a Chyflwyniad
Darlithydd mewn Llenyddiaeth Tsieina’r Henfyd
Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau
E-bost: kelly.ngo@pcydds.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
Rwy’n addysgu testunau Tsieinëeg Clasurol ar gyfer amrywiaeth o raglenni israddedig ac ôl-raddedig, gan gynnwys y BA (Anrh) Sinoleg a’r BA (Anrh) Sinoleg (Addysg Ddyneiddiol), yn ogystal â’r MA mewn Astudiaethau Clasurol Conffiwsaidd a’r MA mewn Astudiaethau Testunol Bwdhaidd Tsieineaidd. Rydw i hefyd yn goruchwylio traethodau hir myfyrwyr PhD sy’n gweithio ar bynciau ym maes Sinoleg.
Cefndir
- PhD Astudiaethau Diwylliannol, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (2022)
- Meistr yn y Celfyddydau mewn Sinoleg, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (2018)
- Diploma Graddedig mewn Arfer Cyfreithiol, Coleg y Gyfraith, Sydney, Awstralia (2005)
- Baglor Masnach (Economeg a Chyllid) a Baglor yn y Cyfreithiau (Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf), Prifysgol Sydney, Awstralia (2004)
Noddwyd fy astudiaeth ôl-raddedig gan ysgoloriaethau llawn gan Sefydliad Addysg Amlddiwylliannol Chin Kung.
Aelod O
Rwy’n aelod o Gymdeithas Astudiaethau Tsieineaidd Ewrop. Hefyd rwyf wedi gwasanaethu ar fwrdd rheoli Academi Sinoleg y Brifysgol er 2022.
Diddordebau Academaidd
Rwy’n cyfrannu at y modylau israddedig canlynol:
- Addysg Elfennol yn y Tsieina Ymerodrol Ddiweddar
- Pedwar Llyfr Dysg Gonffiwsaidd
- Cyfieithu Llenyddiaeth Gonffiwsaidd a Bwdhaidd
- Cyfieithu Llenyddiaeth Daoaidd
- Syniadaeth Wleidyddol yn yr Essentials of Bringing about Order from Assembled Texts (Qunshu Zhiyao)
- Cof Diwylliannol o Tsieina’r Tang
- Adlewyrchu Hanes yn y Tsieina Ymerodrol Ddiweddar
- Astudiaethau Clasurol Conffiwsaidd
- Hanes a Gwareiddiad Tsieina
Rwy’n cynnig y modwl Testunau Tsieinëeg Clasurol yn Saesneg ar gyfer yr MA mewn Astudiaethau Clasurol Conffiwsaidd a’r MA mewn Astudiaethau Testunol Bwdhaidd Tsieineaidd.
Rwy’n goruchwylio traethodau hir myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.
Meysydd Ymchwil
Mae fy niddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar destunau Tsieinëeg clasurol ar gyfer llywodraethu gwladwriaethol a meithrin cymeriad. Ar hyn o bryd, rydw i wrthi’n gweithio ar gyfieithiad Saesneg yr Essentials for Bringing about Order from Assembled Texts (Qunshu zhiyao).
Cyhoeddiadau
- Guide to the Traditional Chinese Ancestral Remembrance Service Protocol. Cyfieithwyd ar y cyd â Dr Katherine Ngo. (Taipei: The Corporation Republic of Hwa Dzan Society, 2016).
- “Cultural memory of early Tang China in the Qunshu zhiyao 群書治要 (Essentials for bringing about order from assembled texts)” Erthygl ar gyfer y Journal of the European Association of Chinese Studies Cyf. 4 (2023): 199–222.
- [ar fin ymddangos] Ordering Tang China: Cultural Memory, Emperor Taizong, and the Essentials (Ann Arbor: Lever Press)
- [ar fin ymddangos] Sourcebook on Traditional Chinese Children’s Literature (Ann Arbor: Lever Press)
Gwybodaeth bellach
- Dosbarth Meistr Athroniaeth Gonffiwsaidd ar gyfer athrawon y Rhaglen Anrhydedd yng Ngholeg Chweched Dosbarth Dewi Sant, Caerdydd. Ebrill 2023.
- Seminarau Sinoleg: Celfyddyd Byw. Cyd-gyflwyno darlithoedd seminar deuddydd. Academi Sinoleg, Prifysgol Y Drindod Dewi Sant. Gorffennaf 2022, Ionawr 2023 ac Ionawr 2024.