Skip page header and navigation

Dr Laura Jones BSc, MTh, MA, PhD, AFHEA

Image and intro

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Ymchwilydd Ôl-ddoethurol (Islam Brydeinig Ddigidol)

Yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau


E-bost: laura.jones@uwtsd.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Rwy’n Ymchwilydd Ôl-Ddoethurol ar y prosiect Islam Brydeinig Ddigidol a ariennir gan yr ESRC sy’n archwilio effaith amgylcheddau ar-lein ar fywydau pob dydd Mwslimiaid Prydain. Rwy’n gweithio mewn tîm aml-ddisgyblaethol o ymchwilwyr sydd wedi’u lleoli ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Coventry a Phrifysgol Caeredin.

Fy mhrif rôl yw datblygu archif ar-lein o wefannau Mwslimaidd Prydeinig (gan ddefnyddio meddalwedd Archive-It) ynghyd â dadansoddiad manwl o fannau ar-lein Mwslimaidd Prydeinig.   Rwy’n cyfrannu at feysydd eraill y prosiect, gan gynnwys datblygiad methodolegol dyddiaduron y gofynnwyd i bobl eu cadw sy’n archwilio profiadau cyfranogwyr o amgylcheddau digidol. Rwy’n gwneud cyflwyniadau mewn cynadleddau, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau effaith ac yn cyfrannu at gyhoeddiadau yn ymwneud â’r prosiect.

Cefndir

Rwy’n wyddonydd cymdeithasol ym maes Astudiaethau Crefyddol sydd â phrofiad eang o ddulliau ymchwil ansoddol. Fel myfyrwraig Meistr, bûm yn ymwneud â chyfweliadau lled-strwythuredig ac ymchwil arsylwadol ethnograffig. Yn ystod fy astudiaethau PhD, fe wnes i ehangu hyn i gynnwys dyddiaduron lluniau digidol yn fy repertoire o dechnegau ymchwil. Mae gen i brofiad eang ym maes Astudiaethau Mwslimaidd Prydeinig gan ymchwilio i amrywiol bynciau yn cynnwys caplaniaeth Fwslimaidd, Mwslimiaid yn y cyfryngau, gweithgareddau rhyng-ffydd a defodau crefyddol.

Ar gyfer fy ngradd PhD archwiliais grefydd fyw yn ystod mis Ramadan, gan ymwneud yn arbennig â damcaniaeth Bauer (2021) o “amwysedd diwylliannol”. Roedd fy ymchwil yn archwilio arwyddocâd bwyd, addoliad defodol, arferion cyfunol ac unigol a dealltwriaeth Mwslimiaid o gysegredigrwydd. Trafodais hefyd agweddau rhyweddol ar y mis a bywyd domestig. Yn ogystal, datblygais arbenigedd mewn dulliau ymchwil ar-lein yn cynnwys dyddiaduron lluniau digidol a chyfweld ar-lein. Cynhaliwyd fy ngwaith maes yn ystod cyfnod clo COVID-19 yn 2020 ac archwiliais effeithiau hyn yn fy nhraethawd ymchwil ac erthygl gysylltiedig mewn cyfnodolyn (‘Isolation, community and spirituality: British Muslim experiences of Ramadan in lockdown’).

Rwy’n gaplan cymwysedig â phrofiad o weithio fel caplan mewn prifysgol. Mae gennyf ddiddordeb pellach mewn iechyd meddwl ac rwy wedi gweithio i amrywiol elusennau iechyd meddwl.

Rwy’n siarad Cymraeg yn rhugl ac mae gennyf brofiad helaeth o gyfleu fy ngwaith ymchwil ar y radio a thrwy ymweliadau ag ysgolion. Rwy’n gyfrannwr rheolaidd ar y cyfryngau ar BBC Radio Cymru ac S4C.

Mesysydd Ymchwil

  • Crefydd fyw/bob dydd
  • Defod grefyddol
  • Crefydd ddigidol
  • Ymchwil ar ddyddiaduron a dulliau ethnograffig
  • Dulliau ymchwil dan arweiniad cyfranogwyr
  • Methodolegau ymchwil ffeministaidd