Skip page header and navigation

Lorraine Mahoney Pen Hyfforddwr Estill (Hyfforddiant Llais Estill), CT ABRSM, ATCL

Image and intro

female staff profile smiling

Darlithydd Llais

Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru

Ffôn: 01267 676767
E-bost: l.mahoney@uwtsd.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Gweithio ar draws rhaglenni yn Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru yn cyflwyno hyfforddiant mewn Anatomeg a Ffisioleg y Llais yn ogystal â Chanu Pellach

Cefndir

Mae Lorraine wedi bod yn addysgwr cerddoriaeth ers 30 mlynedd, ac mae ei myfyrwyr blaenorol wedi mynd ymlaen i lwyddo mewn sefydliadau yn cynnwys Arts Ed, Italia Conti, Mountview, y Coleg Cerdd Brenhinol, Salisbury Playhouse a Phrifysgol Chichester. Mae hi wedi gweithio gyda demograffeg eang o gantorion proffesiynol, yn cynnwys y rheiny gyda chefndiroedd operatig proffesiynol ac yn y West End, ar draws amrywiaeth o arddulliau cerddorol gan gynnwys jazz, theatr gerddorol, opera a phop.

Mae Lorraine yn cefnogi’n broffesiynol y sector Therapi Iaith a Lleferydd yn Wiltshire mewn rôl ymgynghorol gyda ffocws ar anatomeg a ffisioleg leisiol ar gyfer adrannau Therapi Iaith a Lleferydd ysbytai lleol.

Mae gan Lorraine brofiad perfformio helaeth ym maes Theatr Gerddorol a bu galw mawr amdani’n broffesiynol fel datgeiniad ac Unawdydd Soprano ar gyfer gweithiau Oratorio ledled Lloegr. Mae hi hefyd wedi perfformio’n broffesiynol yn Awstralia, Gwlad Belg, Ffrainc, yr Almaen, Gibraltar a’r Deyrnas Unedig.

Mae Lorraine hefyd yn brofiadol mewn gwaith corawl a hi yw’r Cyfarwyddwr Cerddorol presennol ar gyfer Côr Gwragedd Milwrol Corsham & Colerne, ynghyd â 2 gôr merched arall.

Aelod O

  • Aelod o Gymdeithas Annibynnol y Cerddorion (MISM)

Diddordebau Academaidd

Ochr yn ochr ag addysgu yn Academi Llais a Chelfyddydau Perfformio Cymru, Lorraine hefyd yw Pennaeth Little Voices Gogledd Orllewin Wiltshire a Chanolbarth Caerfaddon sy’n cyflwyno hyfforddiant Drama a Chanu i blant rhwng 4-18 mlwydd oed wrth iddynt weithio tuag at gymwysterau LAMDA, ac mae ganddi gyfradd basio o 100%.

Mae hi hefyd wedi cyflwyno disgyblion yn llwyddiannus ar gyfer arholiadau canu ABRSM ac wedi’i hymrwymo yn feirniad canu ar gyfer gwyliau cerddorol.

Meysydd Ymchwil

Mae Lorraine yn weithredol ym maes ymchwil Therapi Iaith a Lleferydd (ThILl) ac mae’n cynorthwyo gyda hyn trwy gymryd rhan mewn ymwybyddiaeth endosgopi diagnostig y laryncs (laryngosgopeg) ar gyfer addysgu staff ThILl ysbytai.

Arbenigedd

  • Anatomeg a Ffisioleg Leisiol
  • Iechyd Lleisiol
  • Canu Theatr Gerddorol
  • Canu Clasurol
  • Canu Cerddoriaeth Boblogaidd
  • Perfformio Cerddoriaeth
  • Cyfarwyddo Cerddorol
  • Cerddoleg

Gweithgareddau Menter, Masnachol ac Ymgynghori

Mae Lorraine yn cefnogi’n broffesiynol y sector Therapi Iaith a Lleferydd yn Wiltshire mewn rôl ymgynghorol gyda ffocws ar anatomeg a ffisioleg leisiol ar gyfer adrannau Therapi Iaith a Lleferydd ysbytai lleol.