Skip page header and navigation

Louise Ryan LRWCMD, ACRWCMD

Llun a Chyflwyniad

Mae Louise Ryan yn edrych yn syth tuag at y camera mewn ffotograff stiwdio.

Darlithydd Cysylltiol mewn Perfformio Lleisiol

Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru (WISA)


Ffôn: 01267 676767 
E-bost: louise.ryan@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Darparu gwersi canu un-i-un, hyfforddi a dosbarthiadau perfformio.

Cefndir

Mae Louise Ryan wedi graddio, ac yn un o ôl-raddedigion Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, lle mai llais clasurol oedd ei phrif faes astudio, piano’n ail faes astudio, a’r gitâr yn drydydd maes astudio. Dyfarnwyd gwobr John Thomas iddi a fu’n gymorth i gyllido’i phedwaredd flwyddyn yn y Coleg. Yn ogystal â chanu prif rannau mewn operâu, gweithiau corawl mawr, a pherfformiadau’r Côr Siambr, bu Louise hefyd yn canu gyda’r Band Mawr a’r Ensemble Jazz yn ystod ei hamser yno. Hefyd fe’i cyflogwyd i gyfeilio i gantorion ac offerynwyr eraill yn eu datganiadau terfynol.

Dyfarnwyd grant iddi gan Ymddiriedolaeth y Tywysog i bobl ifanc gychwyn busnes, ac wedyn lansiodd Louise ei gyrfa’n addysgu. Nawr, a hithau â 30 mlynedd o brofiad yn y maes hwn, mae’n canolbwyntio ar gantorion ‘gyrfa’, gan eu paratoi am arholiadau, clyweliadau mynediad ar gyfer Sefydliadau a Phrifysgolion, clyweliadau a chastio proffesiynol, gwaith teledu a radio, cystadlaethau, recordiadau stiwdio ac albwm, a chyngherddau. Mae llawer o’i myfyrwyr wedi cael rolau yn y West End, teledu a ffilm, a nifer o artistiaid yn y cylchoedd Pop/Indie.

Mae Louise yn ffodus o fod wedi addysgu, ac wedi gweithio’n helaeth, â Charlotte Church, Lucie Jones a Luke Evans. Wrth weithio gyda Charlotte, byddai Louise yn teithio’r byd yn rheolaidd, gan ei pharatoi am recordiadau albwm gyda Sony Classical ac Universal Records. Hefyd cafodd Louise y fraint o weithio’n agos â chynhyrchwyr a chyfansoddwyr uchel eu parch:

  • James Horner – A Beautiful Mind (sgôr ffilm)
  • Trevor Horn CBE – Hysbyseb Fyd-eang Ford.
  • David Foster – The Prayer, deuawd gyda Josh Groban
  • Steve Mac a Wayne Hector – A Christmas Carol: The Movie
  • Bill Whelan a Howard Blake – The Bear
  • Julian Smith WNO – Albwm Nadolig Charlotte

Mae Louise wedi gweithio am lawer flwyddyn gyda Lucie Jones (Les Misérables, We Will Rock You, Ghost, Legally Blonde, Waitress, a Wicked), a chyda Luke Evans, a ddechreuodd ei yrfa yn y West End (Rent, Miss Saigon, Taboo, Piaf) ac a gafodd ei ddenu wedyn at y sgrin fawr (Fast and Furious, The Hobbit, Beauty and The Beast, The Pembrokeshire Murders, The Alienist ac ati). Er ei fod yn dal i fod yn brysur iawn yn actio, mae Luke hefyd wedi lansio’i yrfa fel canwr unigol yn ddiweddar.

Yn ogystal â gweithio gydag unawdwyr, comisiynwyd Louise gan y BBC i drefnu, cynhyrchu ac arwain 300 o blant ysgol mewn perfformiad byw ar y teledu i Blant mewn Angen. Mae hi wedi cynhyrchu ac wedi cael rôl y Cyfarwyddwr Cerdd mewn cynyrchiadau Theatr Gerddorol a nifer o ar-ddangosiadau gyda’i myfyrwyr. Mae Louise hefyd wedi bod yn feirniad mewn Eisteddfodau, Star of Stage, Open Mic UK, a Wales Has Talent.