Skip page header and navigation

Yr Athro Louise Steel BA (Anrh), PhD

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Athro mewn Archaeoleg y Dwyrain Agos

Athrofa Addysg a’r Dyniaethau

Ffôn: +44 (0)1570 424794
E-bost: l.steel@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Gweithgor REF y Gyfadran

Cyfarwyddwr Rhaglen: Arfer Archaeolegol, Gwareiddiadau’r Hen Fyd, Crefyddau’r Hen Fyd, Hanes yr Hen Fyd, Treftadaeth, Astudiaethau Hanesyddol 

Cefndir

Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar archaeoleg ardal Ddwyreiniol Môr y Canoldir, ac yn enwedig archaeoleg Cyprus, lle rwyf wedi cyfrannu at nifer o brosiectau ymchwil. Ers 2004 rwyf wedi cyfarwyddo prosiect gwaith maes yn Arediou, a arweiniodd at brosiect archaeoleg cymunedol a ariannwyd gan yr AHRC (Hidden Pasts) dan y Cynllun Gofal am y Dyfodol yn 2013.

Cyn hyn (1998-2000), fe wnes i gyd-gyfarwyddo Prosiect Ymchwil Gaza gyda Dr Joanne Clarke (UEA) a Dr Moain Sadeq (oedd ar y pryd yn gyfarwyddwr Adran Hynafiaethau Palesteina, Gaza), pan oeddwn yn gweithio yn Sefydliad Archaeoleg Prydain yn Jerwsalem.

Mae fy ymchwil cyfredol yn canolbwyntio ar fateroldebau ac yn benodol cymhwyso Materoliaethau Newydd mewn Archaeoleg.Ynghyd â’m cydweithwraig Dr Luci Attala, rwy’n olygydd y gyfres Materialities in Anthropology and Archaeology ar gyfer Gwasg Prifysgol Cymru.

Rhwng 1995 a 1998 roeddwn yn dal Cymrodoriaeth Ymchwil Ôl-ddoethurol yr Academi Brydeinig ym Mhrifysgol Caeredin. Roedd fy ymchwil yn edrych ar grochenwaith Myseneaidd a fewnforiwyd i’r Lefant. Yn ogystal treuliais ychydig fisoedd yn 1999 yn y Maison de l’Orient, Lyons yn gweithio ar yr archifau o Ugarit a Tell Abu Hawam.

Yn fy nhraethawd PhD archwiliais arferion claddu ar ynys Cyprus yn ystod y cyfnod o newid o’r Oes Efydd i’r Oes Haearn, ond ers hynny mae fy ymchwil wedi canolbwyntio ar ryngweithio yn ardal Ddwyreiniol Môr y Canoldir (Cyprus, ardal y Môr Aegeaidd a’r Lefant) a’r effaith ar fydoedd materol cymunedau hynafol.

Diddordebau Academaidd

Mae fy addysgu’n cael ei arwain gan ymchwil ac yn canolbwyntio ar archaeolegau sy’n seiliedig ar theori, gyda phwyslais arbennig ar ardal Ddwyreiniol Môr y Canoldir yn yr Oes Efydd (Cyprus, ardal y Môr Aegeaidd a’r Lefant). Rwy’n cynnal y modylau canlynol:

MA

  • Gofodau, Lleoedd a Gwrthrychau yng Nghrefyddau Hynafol Môr y Canoldir 
  • Celf a Chynrychiolaeth yn yr Hen Ddwyrain Agos

Lefel 5

  • Meddwl Trwy Archaeoleg (theori archaeolegol)

Lefelau 5/6

  • Meddwl gyda Phethau
  • Hynafiaid, Marwolaeth a Chladdu 
  • Clymau: Archwilio Cysylltiadau rhwng y Môr Aegeaidd a’r Dwyrain Agos
  • Dechreuadau: Ymddangosiad Gwareiddiad

Lefel 4

  • Marwolaeth, Claddu a Bywyd ar ôl Marwolaeth

Myfyrwyr Ymchwil

PhDs Cyfredol:

  • Materiality, Agency, and the Development of Identity in Late Bronze Age Cyprus
  • A Biological Distance Analysis of the Cypriot Population from the Chalcolithic to the Bronze Age: A non-metric dental traits approach.
  • Are Objects Agents of Civilisation? An Exploration of Materiality and Identity in Late Bronze Age Cyprus
  • A consideration of the artistic style of the ivories recovered at Hasanlu
  • Cycladic Figurines of the Early Bronze Age: markers of gender and Personhood
  • Ahhotep and Ahmose, or Hatshepsut and Thutmose III? A diachronic of Egypt’s relationship with the Aegean c. 1660-1425 BC and the historical implications of Thera’s eruption
  • The Chaldean Oracles

Myfyrwyr ymchwil MPhil a PhD diweddar:

  • Creative Practice: How Communities were made at Çatalhöyük
  • Exploring Cycladic Figurines During the EBA
  • Narratives of Collapse in the East Mediterranean at the end of the Bronze Age
  • Examining the Minoan-Mycenaean World from the Symbolism of Homer’s Odyssey (Y Brifysgol Agored).

Meysydd Ymwchil

Fy niddordebau ymchwil yw:

  • Cyprus, y Dwyrain Agos ac ardal y Môr Aegeaidd yn yr Oes Efydd
  • Materoldeb a’r Materoliaethau Newydd 
  • Cydgysylltiadau yn ardal Môr y Canoldir yn yr Oes Efydd
  • Cynrychioliadau o ardal Ddwyreiniol Môr y Canoldir

Rwy’n gyd-olygydd cyfres newydd (gyda Luci Attala): Materialities in Anthropology and Archaeology, Gwasg Prifysgol Cymru.

Ar hyn o bryd rwy’n paratoi monograff i’w gyhoeddi ynglŷn â chloddiadau yn Arediou-Vouppes (Lithosouros), Cyprus.  Mae hwn yn safle ffermio a chynhyrchu o’r Oes Efydd Ddiweddar gyda thystiolaeth o gysylltiadau masnachu â’r Aifft, ardal y Môr Aegeaidd a’r Lefant. Ariannwyd y gwaith maes gan INSTAP, AOSR, CBRL, Cymdeithas Hynafiaethwyr Llundain, a’r Gymdeithas Cynhanesyddol.

Mae 2013: Hidden Pasts yn brosiect newydd a ariennir gan yr AHRC (cynllun Gofal am y Dyfodol) i archwilio ymgysylltiad y gymuned leol yn Arediou â’u treftadaeth archaeolegol a’u gorffennol hanesyddol mwy diweddar.

Rhwng 1996 a 2000 fe wnes i gyd-gyfarwyddo Prosiect Ymchwil Gaza gyda Dr J. Clarke (UEA) a Dr M. Sadeq (Adran Hynafiaethau, Gaza). Roedd hyn yn cynnwys gwneud arolwg o hen ddinas Gaza a gwaith cloddio yn al-Moghraqa.

Fy mhrif ddiddordeb ymchwil yw astudiaethau diwylliannol materol. Roedd fy ngwaith cynharach yn canolbwyntio ar aildrafod ystyr wedi’i amgodio mewn diwylliant materol trwy gyfnewid traws-ddiwylliannol. Deilliodd hyn o fy ymchwil ôl-ddoethurol, a oedd yn edrych ar grochenwaith Myseneaidd a allforiwyd i ardal Ddwyreiniol Môr y Canoldir (Cyprus, y Lefant a’r Aifft), er mwyn archwilio canlyniadau diwylliannol a deallusol y cyfnewid hwn (sut mae eitemau penodol o ddiwylliant materol yn cael eu hymgorffori a’u derbyn o’r newydd o fewn cyd-destunau diwylliannol newydd. Yn fwy diweddar rwyf wedi bod yn gweithio ar sut mae diwylliant materol yn rhan annatod o’r cysylltiadau rhwng pobl a gwrthrychau, a sut mae pobl a deunyddiau eraill mewn perthynas, yn enwedig sut mae galluoedd penodol y deunydd y cafodd y gwrthrychau hyn eu saernïo ohono yn ysgogi, yn galluogi ac yn cyfyngu ar ymddygiad dynol.

Un agwedd ar y gwaith hwn oedd ailasesu arferion gwledda yng Nghyprus a Groeg Myseneaidd. Mae hyn wedi arwain yn fwyaf diweddar at weithdy, EmbodiedEncounters: Exploring the Materialities of Food ‘Stuffs’ a gynlluniwyd ar gyfer Mai 2014 ac a drefnwyd ar y cyd â Dr Emma-Jayne Abbots a Dr Katharina Zinn. Maes arall o ddiddordeb, yr wyf wedi’i ddatblygu’n bennaf trwy oruchwylio ymchwil myfyrwyr, yw cynrychioliadau hynafol ac anthropoleg celf.

Mae fy niddordebau ymchwil cyfredol yng Nghyprus yn cynnwys gwaith ar y casgliadau cerameg o’r Oes Efydd Ddiweddar yn Kalavasos-Ayios a Maroni-Tsaroukkas.

Rwyf hefyd wedi astudio mewnforion o Gyprus i’r Lefant ddeheuol, yn Deir el-Balah a Tell Batash. Mae fy niddordebau yn y defnydd o gerameg yn y cartref bellach yn profi’n fuddiol o ran fy ngwaith maes presennol yn Arediou-Vouppes, lle rydym yn dechrau cael cipolwg diddorol iawn ar ddiwylliant domestig cymuned wledig.

Arbenigedd

Fy mhrif arbenigedd yw archaeoleg Cyprus, yn enwedig o’r Oes Efydd Ddiweddar. Fel y cyfryw, rwyf wedi cyfrannu at amrywiol wyddoniaduron a llawlyfrau archaeolegol ac ar hyn o bryd rwy’n paratoi dau gyfraniad am Gyprus yn yr Oes Haearn ar gyfer The Cambridge Companion to the Greek Iron Age.

Rwy’n arbenigwr ar grochenwaith Cyprus o’r Oes Efydd Ddiweddar a chrochenwaith wedi’i fewnforio o Mysenae yn y Dwyrain Agos ac rwyf wedi cyfrannu at y prosiectau ymchwil canlynol yn rhinwedd hyn:

  • 1998–1999 Prifysgol Hebraeg Jerwsalem: Tell Batash, Israel (mewnforion o Gyprus a Mysenae)
  • 1998–1999 Prifysgol Hebraeg Jerwsalem: Deir el-Balah, Gaza (mewnforion o Gyprus a Mysenae)
  • 1995–1998 Prifysgol Reading: Maroni Tsaroukkas, Cyprus (crochenwaith o Gyprus, mewnforion o Mysenae)
  • 1993 Labordy Fitch, Ysgol Brydeinig yn Athen: nodweddion cemegol Crochenwaith o Gyprus o’r Oes Haearn 
  • 1990–2000 Prifysgol Brandeis, Prosiect Dyffryn Vasilikos, Kalavasos Ayios Dhimitrios, Cyprus (crochenwaith o Gyprus, mewnforion o Mysenae)