Skip page header and navigation

Mike Durke BA (Anrh), MA, MBA, TAR (PCET), FHEA, FCMI

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dyn

Uwch Ddarlithydd

Yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd

Ffôn: (01792) 4836944
E-bost: mike.durke@pcydds.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

  • Uwch Ddarlithydd
  • Cydlynydd Camymddwyn Academaidd
  • Cydlynydd Datblygiad Academaidd

Cefndir

Dechreuodd fy ngyrfa mewn gwasanaethau cyhoeddus yn 1985 wrth ymuno â Gweinyddiaeth yr Heddlu yn Blismon. Darparodd hyn gipolwg cynnar ar weithrediad llywodraeth y DU, sut mae polisïau’n effeithio ar gymdeithas ac ar bŵer y cyfryngau i lunio’r drafodaeth.

Yn dilyn 4 blynedd ardderchog a newidiodd fy mywyd yn astudio athroniaeth yn Abertawe, gweithiais i’n Swyddog Gofal gydag oedolion oedd ag anableddau dysgu , ac wedyn am 5 mlynedd gyda Phlant sy’n Derbyn Gofal a’u teuluoedd oddi mewn i adran fawr gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol. Hon oedd y rôl orau a’r waethaf: yr un orau oherwydd mai fi oedd un o’r ychydig oedolion cadarnhaol, nad oeddent yn cam-drin i’r plant eu hadnabod; yr un waethaf oherwydd y bu i rai o’r plant y ces i’r fraint o ofalu amdanynt farw’n drist o ifanc.

O ganlyniad i gyfnod yn rheolwr yn Is-adran Plant a Theuluoedd o Lywodraeth Cymru a oedd newydd ffurfio, ces i weld sut oedd Gweinidogion Cymru yn anelu at ddylunio polisïau, ac i weithio trwy strwythurau llywodraeth leol i weddnewid gwasanaethau i’r plant mwyaf agored i niwed. Des i ddeall bod strategaeth genedlaethol braidd yn ddiystyr os nad yw wedi’i chysylltu â chamau lleol, deinamig sy’n newid bywydau.

Ar ôl swydd bleserus yn goruchwylio 49 o adeiladau cymunedol gan ddarparu gwasanaethau hamdden cymunedol i Abertawe, des i’n Brif Swyddog Gweithredol ar Ymddiriedolaeth Datblygu Cymuned The Hill yn Townhill, Abertawe ac aros yn y swydd honno tan fis Tachwedd 2014. Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth i adeiladu ar sylfaen yr unig un o Fentrau Cymuned Drefol (I) yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru. Roedd fy heriau’n rhai eang ac amrywiol ac yn cynnwys bywyd cyfan y gymuned: creu swyddi, addysg a hyfforddiant, gan wella’r amgylchedd, ystyriaethau iechyd, troseddu a diogelwch cymunedol. Yn y bôn, y syniad oedd mynd ati ar lawr gwlad i fynd i’r afael â phroblemau sy’n bodoli ers tro, i ddarparu gwasanaethau cymunedol yr oedd eu hangen yn fawr a chreu ffrwd incwm a thrwy hynny leihau dibyniaeth ar grantiau’r llywodraeth. Mae’n deg dweud i’r dull hwn fod yn fwy llwyddiannus nag a feiddiodd neb ei obeithio ar y dechrau. Mae’n enghraifft o’r arfer gorau yr adeiladwyd arno mewn llawer o rannau yn y DU a’r tu hwnt.

Yn etholiadau lleol 2017, ces i’r fraint o gael fy newis i gynrychioli’r gymuned y ces i fy ngeni ynddi yn Gynghorydd ar Ddinas a Sir Abertawe. Mae llywodraeth leol yng Nghymru yn wynebu llawer o wahanol heriau wrth i’r gyllideb barhau i grebachu. Bydd arloesi brwd a ffyrdd newydd o weithio yn helpu i sicrhau bod pobl Cymru yn parhau i fanteisio ar y gwasanaethau y mae arnynt eu hangen ac y maent yn dibynnu arnynt.

Aelod O

  • Gyngor Abertawe yn Gynghorydd ac yn Gadeirydd Pwyllgor Trawsnewidiol y Gwasanaeth Addysg a Sgiliau.
  • Rheolwr a Chymrawd Siartredig (CMgr/ FCMI)
  • Cymrawd yr Academi Addysg Uwch (AAU)

Diddordebau

Modylau israddedig (BA/BSc Plismona, Troseddeg, Cyfraith a Busnes)

  • Lefel 4: Deinameg Ymddygiadol; Paratoi ar gyfer Cyflogaeth
  • Lefel 5: Gwirfoddoli: y Porth at Gyflogaeth; Paratoi ar gyfer Ymchwil
  • Lefel 6: Rheolaeth Strategol a Chynaliadwyedd; Moeseg Fyd-eang; Prosiect Annibynnol (Traethodau Hir a phrosiectau seiliedig mewn lleoliadau)

Modylau ôl-raddedig (MSc Arweinyddiaeth Weithredol a Strategol Plismona)

  • Lefel 7: Llywodraethu Corfforaethol mewn Plismona; Plismona a’r Dirwedd Wleidyddol

Meysydd Ymchwil

Fy mhrif gyflawniad yn hyn o beth yw datblygiad Hill CDT Ltd o fenter lefel arloesol uchel, wedi’i hariannu 100% gan y llywodraeth, i sefydliad sydd wedi’i berchenogi a’i reoli gan y gymuned ac sydd, o ddechrau sefydlog, wedi cynhyrchu’n gyson £250k y flwyddyn trwy weithgareddau masnachu. Arweiniais y sefydliad i sicrhau cyfanswm o £4.5m dros 12 mlynedd, a 50% o hwn ar ffurf incwm a hunan-gynhyrchwyd.

Gwaith ymgynghori ar gyfer sefydliadau adfywio ledled Cymru a’r DU, UDA, Hong Kong, Johannesburg, Lithwania, Latfia, Brwsel, Malta a Gwlad Pwyl, i rannu gwybodaeth ac arbenigedd wedi’u hogi trwy ddatblygiad, rheolaeth ac arweinyddiaeth sefydliad cymunedol arloesol.

Seminarau Tlodi Plant i gydweithwyr ledled Cymru i fynd i’r afael ag unrhyw heriau i agenda Tlodi Plant uchelgeisiol Llywodraeth Cymru.

Cymorth i nifer o arloesiadau gwasanaeth iechyd gan gynnwys datblygu Clystyrau Meddygon Teulu.

Arbenigedd

Mae gen i brofiad proffesiynol mewn amrywiaeth o feysydd:

  • Llywodraeth Leol
  • Diogelu plant
  • Rheolaeth yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol
  • Rhedeg a datblygu menter gymdeithasol
  • Rheolaeth Adnoddau Dynol
  • Rheolaeth ariannol: nid yn gyfrifydd siartredig ond yn rheolwr ariannol gydag atebolrwydd i fwrdd o gyfarwyddwyr
  • Datblygu systemau rheoli ar gyfer casglu gwahanol wybodaeth ariannol ar fformat wedi’i godio â lliw, hawdd ei ddeall ac y gellir ei gyfleu’n hawdd
  • Ymgysylltu â’r gymuned
  • Atebion arloesol i’r sector cyhoeddus
  • Lles plant
  • Meithrinfeydd plant – ar ôl rhedeg meithrinfa plant Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW) am wyth mlynedd

Gweithgareddau Menter, Masnachol ac Ymgynghori

Fy mhrif gyflawniad yn hyn o beth yw datblygiad Hill CDT Ltd o fenter lefel arloesol uchel, wedi’i hariannu 100% gan y llywodraeth, i sefydliad sydd wedi’i berchenogi a’i reoli gan y gymuned ac sydd, o ddechrau sefydlog, wedi cynhyrchu’n gyson £250k y flwyddyn trwy weithgareddau masnachu. Arweiniais y sefydliad i sicrhau cyfanswm o £4.5m dros 12 mlynedd, a 50% o hwn ar ffurf incwm a hunan-gynhyrchwyd.

Gwaith ymgynghori ar gyfer sefydliadau adfywio ledled Cymru a’r DU, UDA, Hong Kong, Johannesburg, Lithwania, Latfia, Brwsel, Malta a Gwlad Pwyl, i rannu gwybodaeth ac arbenigedd wedi’u hogi trwy ddatblygiad, rheolaeth ac arweinyddiaeth sefydliad cymunedol arloesol.

Seminarau Tlodi Plant i gydweithwyr ledled Cymru i fynd i’r afael ag unrhyw heriau i agenda Tlodi Plant uchelgeisiol Llywodraeth Cymru.

Cymorth i nifer o arloesiadau gwasanaeth iechyd gan gynnwys datblygu Clystyrau Meddygon Teulu.

Cyhoeddiadau

2020: From Despair to Hope: building harmony in a challenged community. Pennod yn The Harmony Debates. Llambed: Gwasg Sophia.

2018: Gwefan a awgrymwyd gan fyfyrwyr i helpu gyda’u hastudiaethau www.mikedurke.co.uk

2012: Trust and Partnership: why community ownership and close collaboration are the keys to future success. HCDT Ltd: Abertawe

2011: The Townhill Baseline: a springboard for action. HCDT Ltd: Abertawe

2011: Why do we have ‘deprivation’ on the Hill? HCDT Ltd: Abertawe

2011: Why do we have ‘child poverty’ on the Hill? HCDT Ltd: Abertawe

2011: Street Level Performance Management: a summary for Welsh Ministers

2011: Street Level Performance Management: a coffee break summary

2004: ‘Who Cares? Wythnos o ymchwil i gam-drin plant yn Abertawe gyda Susan Bailey. South Wales Evening Post. Hydref 2004.

1993: ‘Flying a Philosophical Flag’: ymchwiliad i bwysigrwydd athroniaeth i blant. Western Mail.

Gwybodaeth bellach

  • Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Gendros ac Ysgol Gymunedol Dylan Thomas yn Abertawe.
  • Cadeirydd Cyfeillion Parc Ravenhill.

Cyflwynir papurau mewn nifer o ddigwyddiadau:

  • Cynhadledd Harmoni Y Drindod Dewi Sant yn Llambed, ‘Harmoni ac Anharmoni wrth Adeiladu Cymuned’.
  • Cangen Cymru Cymdeithas Seicoleg Prydain – ‘Gofalu Amdanom ein Hunain’.
  • Cynhadledd Ryngwladol MBA ym Mhrifysgol Hamk, ‘Hyfforddiant Rheoli ar gyfer Sefydliadau Cymunedol’.
  • Cynhadledd Diwygio’r Sector Cyhoeddus, Barbican, Llundain, gyda’r Arglwydd Maurice Glasman – ‘A Street-Level Approach: improving services and saving money in the most “deprived” communities.’
  • Ymddiriedolaeth Roehampton, Wandsworth gyda’r hwylwraig ryngwladol Tracey Edwards.