Llun a Chyflwyniad
Uwch Ddarlithydd mewn Arolygu Adeiladau a Rheoli Cyfleusterau
Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru (WISA)
Ffôn: +44 (0) 01792 483696
E-bost: r.h.thomas@pcydds.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
Paratoi a darparu ystod o raglenni cysylltiedig ag adeiladu.
Cefndir
Gan ddechrau gyda chefndir ym maes masnach, astudiaeth BSc mewn Rheoli Adeiladu a Thechnoleg gan symud ymlaen i Reolwr Safle gyda chyfrifoldeb am reoli a darparu’n effeithiol ystod o brosiectau adeiladu preifat ac awdurdod lleol. Mae gennyf brofiad o eiddo preswyl a masnachol a adeiledir mewn dull modern a thraddodiadol yn ogystal ag adeiladwaith ansafonol, yn ogystal â phrofiad helaeth o addysgu wrth ddarparu rhaglenni adeiladu lefel 1 i 6 yn amrywio o brentisiaethau i TGAU, Safon AS/Uwch a HNC, HND a BSc Addysg Uwch.
Diddordebau Academaidd
Dulliau modern a thraddodiadol o adeiladu a chymhwysiad modern o ddulliau traddodiadol fel ffordd o wella cynaliadwyedd.
Meysydd Ymchwil
Adeiladu Cynaliadwy a gweithrediad technolegau newydd ar gyfer gwella perfformiad stoc tai a adeiladwyd mewn dull traddodiadol.
Arbenigedd
- Dulliau modern a thraddodiadol o adeiladu yn y DU.
- Profiad helaeth o ddarparu Addysg Uwch a Phellach mewn amgylchedd AB.
Gwybodaeth bellach
- Yn astudio MSc mewn Adeiladu Cynaliadwy.