Skip page header and navigation

Sharon Richards BA, LWCMD, LTCL

Llun a Chyflwyniad

Silwét pen ac ysgwyddau dynes.

Hyfforddwr Lleisiol

Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru (WISA)


Ffôn: 01267 676767

Rôl yn y Brifysgol

Hyfforddi a chyfeilio myfyrwyr lleisiol ar draws y rhaglenni yn Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru.

Cefndir

Enillodd Sharon Richards radd BA o Brifysgol Cymru lle’r Piano oedd ei phrif astudiaeth a’r Ffidl oedd ei hail astudiaeth. Parhaodd â’i hastudiaethau’n bianydd yn Ysgol Gerddoriaeth a Drama’r Guildhall a Stiwdio’r Opera Genedlaethol lle arbenigodd yn Repetiteur. Yn dilyn hyn, gweithiodd Sharon yng Ngŵyl Opera Glyndebourne, Opera Gogledd Lloegr, Opera Gwlad yr Iâ ac Opera Teithiol Lloegr. Roedd ganddi gysylltiad hir ag Opera Cenedlaethol Cymru rhwng 1997 a 2011. Yn ystod ei gyrfa yn Repetiteur, mae hi wedi gweithio gydag arweinwyr ac Artistiaid o fri gan gynnwys. Syr Bernard Haitink, Syr Simon Rattle, Syr Charles Mackerras a Carlo Rizzi.

Yn bianydd, mae Sharon wedi ymddangos gyda Cherddorfa Genedlaethol y BBC, Cerddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl a bu’n gyfeilydd i Gorws Cymru y BBC am nifer o flynyddoedd.

Erbyn heddiw, mae Sharon yn rhoi llawer o’i hamser i hyfforddi’r to nesaf o gantorion yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru  lle mae hefyd yn arwain y Modwl Sgiliau Darllen ar yr Olwg Gyntaf ar gyfer yr Adran Allweddellau.

Mae hefyd Bennaeth Piano a Chydlynydd Addysgu Offerynnol a Chanu yn UWC Atlantic.

Bu’n aelod o’r panel arholi ar gyfer ABRSM er 2006.

Aelod O

Aelod o Undeb y Cerddorion

Diddordebau Academaidd

Cyn addysgu yn RWCMD ac UWC Atlantic, bu gan Sharon swyddi yn Ysgol Purcell, Ysgol Amwythig, Prifysgol Keele ac Ysgol y Gadeirlan, Caerdydd.

Meysydd Ymchwil

Mae Sharon yn gerddor sy’n ymarfer, gan berfformio’n rheolaidd gyda chantorion ac offerynwyr.

Arbenigedd

  • Perfformio Cerddorol
  • Cyfeiliant Piano
  • Repertoire Operatig
  • Repertoire Canu
  • Addysgeg Piano
  • Asesu Cerddoriaeth