Image and intro
Uwch Ddarlithydd mewn Peirianneg Drydanol ac Electronig
Cyfadran Dylunio Cymhwysol a Pheirianneg
E-bost: s.wpackiadhas@uwtsd.ac.uk
Rôl yn y Brifysgol
Rwy’n ddarlithydd ar gyfer modylau ar y rhaglenni BEng Electroneg Fewnblanedig a BEng Peirianneg Drydanol ac Electronig a modylau peirianneg perthnasol eraill. Rwy’n paratoi tasgau asesu, cynnwys modylau, cynnwys rhaglenni ac asesiadau, ac rwy’n mentora ac yn ysgogi myfyrwyr.
Cefndir
Mae gen i ddeuddeg mlynedd o brofiad mewn darlithio ar fodylau peirianneg electronig, drydanol a thelathrebu ar gyfer rhaglenni Baglor a Meistr.
Diddordebau Academaidd
Rydw i wedi bod yn ddarlithydd ar gyfer y modylau canlynol:
- Hanfodion Systemau Ynni
- Dadansoddi Cylchedau Trydanol
- Cylchedau Electronig
- Electroneg Ddigidol
- Offeryniaeth Ddiwydiannol
- Peiriannau Trydanol
- Rheolaeth Peirianneg
- Systemau Mewnblanedig Amser Real
- Technolegau Di-wifr
- Microbrosesyddion a Microreolyddion
- Cyfathrebu a Rhwydweithiau Optegol
- Labordy Optegol a Microdon
- Hanfodion Peirianneg Drydanol ac Electronig
- Systemau Cyfathrebu
- Technegau Cywasgu Amlgyfrwng
- Pensaernïaeth Switshys Cyflymder Uchel
- Labordy Systemau Cyfathrebu
- Cylchedau Cyfannol Microdon
- Profi Cylchedau VLSI
- Dadansoddi a Dylunio Cylchedau Cyfannol Analog
- Prosesu Signalau Digidol
- Systemau Amser Real
- Antenau a Lledaenu Tonnau
- Labordy Rhwydweithiau Cyfrifiadurol
Meysydd Ymchwil
Fy maes ymchwil yw Systemau Cyfathrebu ac Electroneg Fewnblanedig.
Arbenigedd
Mae gen i dair blynedd o brofiad mewn arwain adran ac mae gen i arbenigedd mewn dylunio rhaglenni newydd, disgrifyddion modylau, a chynnwys modylau.
Mae gen i brofiad hefyd mewn gosod labordai ar gyfer Modylau Peirianneg Drydanol ac Electronig.