Skip page header and navigation

Yr Athro Scherto Gill

Image and intro

Prof Scherto Gill

Cyfarwyddwr, Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch 

Addysg a’r Dyniaethau

Tel: +44 7775941652

Email: scherto.gill@uwtsd.ac.uk

Rôl yn y Brifysgol

Goruchwylio datblygiad Sefydliad y Ddynoliaeth Fyd-eang dros Heddwch (GHfP) yn sefydliad heddwch 
Addysgu ar Raglenni Meistr a Doethurol

Gwneud ymchwil ym meysydd heddwch cadarnhaol, llesiant cyfannol, deialog dwfn, iachau torfol, a thrawsnewid cymdeithasol.

Cefndir

Mae gan Scherto gefndir mewn ymchwil cymdeithasol ac mae hi wedi cynnal sawl ymchwiliad mewn meysydd amrywiol megis arloesi addysgol, profiadau rhyngddiwylliannol, meithrin heddwch mewn cymdeithasau ôl-wrthdaro, iachau torfol, llesiant cymunol, llywodraethu da, a thrawsnewid cymdeithasol.

Yn benodol, mae gan Scherto ddiddordeb mewn archwilio ymchwil fel arferion perthynol a phrosesau sy’n llunio dyfodol. I’r perwyl hwn, mae ganddi brofiadau mewn astudiaethau hanes bywyd, ymholiadau naratif, ymchwil cyfranogol a chydweithredol, ymchwil ar sail gweithredu ac ymchwil dulliau cymysg. Ymhlith portffolio ymchwil Scherto y mae prosiectau cyd-greadigol yn y gymuned wedi’u hanelu at ddeialog rhwng cenedlaethau ac ymholi ar gyfer iachau torfol, heddwch a llesiant. Am y rheswm hwn, hi yw cydlynydd Menter Iachau Torfol UNESCO.  

Yn gyfochrog â’i diddordebau ymchwil, mae Scherto hefyd yn cyfeirio ei hymholi tuag at gwestiynau normadol megis “Beth ddylai nodau addysg fod?”; “Beth sy’n gwneud llesiant dynol?”; “Beth yw’r cydgysylltiad rhwng heddwch cadarnhaol a llesiant dynol?”; “Sut ddylem ddeall cariad?”; a “Pha fath o system wleidyddol all wella ein llesiant torfol?”, ac yn y blaen. Mewn cydweithrediad â chydweithwyr, mae hi wedi cyhoeddi nifer o lyfrau sy’n mynegi ymatebion cychwynnol i’r cwestiynau hyn, gan gynnwys Human-Centred Education (Routledge), Happiness, Flourishing and the Good Life: A Transformative Framework for Human Well-Being (Routledge), Understanding Peace Holistically (Peter Lang), Lest We Lose Love (Anthem Press), Why Love Matters: Values in Governance (Peter Lang), a Beyond Instrumentalised Politics (DeGruyter). 

Yn rhan o’i gwaith, mae Scherto hefyd yn cydgynnull fforymau, symposia, gweminarau, a digwyddiadau ymchwil eraill. Mae’r rhain yn fannau ar gyfer archwilio cwestiynau da sy’n allweddol i drawsnewid ein dealltwriaeth o heddwch strwythurol, a chyd-ffyniant dyn â natur. Gall y digwyddiadau deialog hyn gyfoethogi ein penderfyniadau polisi ar y cyd. 

Aelod o:

  • Cymrawd Oes, Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau (FRSA)
  • Bwrdd Golygyddol, Journal of Studies in Spirituality
  • Bwrdd Golygyddol, Journal of Dialogue Studies
  • Aelod Bwrdd, Fforwm Heddwch Byd-eang RISING
  • Aelod Bwrdd, Fforwm Ysbryd Dyngarwch

Diddordebau Academaidd

Mae Scherto’n addysgu ar raglenni Meistr a Doethurol yn PCYDDS. Ar gyfer MA Astudiaethau Heddwch, mae hi’n arwain y modwl ar Heddwch Cadarnhaol: Damcaniaethau ac Arferion; ac mae hi’n cyfrannu at y modwl ar Ddeialog a Dealltwriaeth Ryngddiwylliannol.

Mae’r prosiectau ymchwil doethurol y mae hi’n eu goruchwylio a’u mentora’n cynnwys ystod eang o themâu a phynciau: o athroniaeth cariad, i athroniaeth heddwch cadarnhaol; o ddeialog ryngddiwylliannol, i ryngwladoli addysg uwch; o ddeall urddas, i feithrin ymddiriedaeth mewn cymdeithasau rhanedig; o broses rhwng cenedlaethau, i iachau torfol mewn perthynas â thrawma hanesyddol; o drawsnewid gwrthdaro, i adfywio cymunedol; o agwedd at addysg sy’n canolbwyntio ar bobl, i agwedd sy’n canolbwyntio ar lesiant, i lywodraethu da, cynaliadwyedd a heddwch.

Yn ogystal, mae Scherto’n darparu ystod eang o seminarau a darlithoedd ar bynciau’n ymwneud ag addysg sy’n canolbwyntio ar bobl, heddwch cadarnhaol, iachau torfol, llesiant cyfannol, agweddau perthynol at ymchwil cymdeithasol, gan gynnwys astudiaethau achos, ymchwil gweithredol ac ymchwil cydweithredol.  

Meysydd Ymchwil

Yn Ymchwilydd, mae diddordebau Scherto’n canolbwyntio ar ddeall heddwch cadarnhaol, ecoleg llesiant, a ffyniant dynol fel prosesau cyfannol a deinamig. Ar hyn o bryd, mae hi’n gweithio ar rai prosiectau ymchwil wedi’u comisiynu, gan gynnwys: (1) Deialog ac Ymholi Rhwng Cenedlaethau a Chylchoedd Iachau Torfol UNESCO mewn cymunedau byd-eang i archwilio sut y gallant gael effaith ar lesiant cymunol; (2) arolwg gydag ieuenctid byd-eang i geisio eu safbwyntiau ar arweinyddiaeth ieuenctid ac i gyd-greu rhaglen arweinwyr y dyfodol UNESCO; (3) ymchwiliad rhyngddisgyblaethol i ddeall pa amodau economaidd-gymdeithasol a sefydliadol all gefnogi cysylltiadau cariadus a gofalgar ymysg pobl.

Mae Scherto hefyd yn datblygu cyfres o lyfrau sy’n mynd y tu hwnt i feirniadaethau cyffredin o lywodraethiant cyhoeddus. Ei nod yw archwilio tueddiadau adeiladol ac addawol at ddemocratiaeth sy’n gysyniadol gadarn, egluradwy yn ymarferol, ac sy’n ddichonadwy yn sefydliadol. Mae’n ceisio ail-ddiffinio llywodraethiant cyhoeddus fel mannau a phrosesau cymdeithasol ar gyfer hwyluso a chydlynu meithrin consensws a gwneud penderfyniadau ar y cyd. Bydd ar fannau a phrosesau o’r fath angen sefydliadau perthnasol i ennyn diddordeb pobloedd a chymunedau gyda pharch, hwyluso deialog ac ystyriaeth yn heddychlon, a rhoi sylw cyfartal i leisiau amrywiol. 

I’r perwyl hwn, mae Scherto’n gweithio gydag ymchwilwyr ac awduron i gyflwyno llyfrau o wahanol feysydd a disgyblaethau.

Arbenigedd:

Cysyniadau o ddeialog dwfn, llesiant cyfannol, addysg sy’n canolbwyntio ar bobl, heddwch cadarnhaol, ac iachau torfol;

Ymchwil cymdeithasol fel arfer perthynol, gwybodaeth fel rhywbeth sy’n cael ei gyd-greu, ymchwil cydweithredol a chyfranogol ar sail gweithredu;

Astudiaethau hanes bywyd, ymholiad naratif, ac ymchwil dulliau cymysg;

Athroniaeth deialog, athroniaeth cariad, athroniaeth llywodraethu da. 

Cyhoeddiadau

Mae cyhoeddiadau dethol isod:

Gill, S. (2024). Collective Healing Handbook for Facilitators: Towards Just Society and Communal Well-Being Paris: UNESCO

Gill, S. (gyda Thomson, G). (2024) Beyond Instrumentalised Politics: Re-Conceptualising Public Governance, Berlin: DeGruyter

Gill, S. (2023). “Governance for the Human Future: The Centrality of Dialogue”, Journal of Dialogue Studies, Cyfrol 11 

Gill, S. (2023). “Toward a New Political Project: Resetting by Reconceptualizing governance,” New England Journal of Public Policy: Cyf. 35: Rhif. 1, Erthygl 6.

Gill, S. (2021) (gol.) Mass Atrocity and Collective HealingJournal of Genocide Studies and Prevention Cyfrol 15, Rhifyn 3

Gill, S. (2021). Lest we Lose Love, Llundain: Anthem Press 

Gill, S. (2021). Healing the Wounds of Slavery: A Conceptual Framework, Brighton: Guerrand-Hermes Foundation for Peace

Gergen, K. & Gill, S. (2020). Beyond the Tyranny of Testing: Relational Evaluation in Education, Efrog Newydd: Oxford University Press

Gill, S. (2020). “Peace from the Perspectives of Harmony”, The Harmony Debates, Cymru: Gwasg Canolfan Sophia

Thomson, G. & Gill, S. (2020). Happiness, Flourishing and the Good Life: A Transformative Vision of Human Well-Being,Llundain: Routledge
Gill, S. & Thomson, G. (goln.) (2020). Ethical Education: Towards an Ecology of Human Development, Caergrawnt: Cambridge University Press

Gill, S. & Thomson, G. (2019). Understanding Peace Holistically: From the Spiritual to the Political, Efrog Newydd: Peter Lang

Gill, S. & Cadman, D. (goln.) (2017). Peacefulness: Being Peace and Making Peace, Reykjavik: Spirit of Humanity Press

Gill, S. & Thomson, G. (2016). Human-Centred Education: A practical guide, Llundain: Routledge

Gill, S. & Niens, U. (goln.) (2016). Education as Humanisation, Llundain: Routledge

Gill, S. & Cadman, D. (goln.) (2015). Why Love Matters: Values in Governance, Efrog Newydd: Peter Lang

Gill, S. & Thomson, G. (goln.) (2014). Redefining Religious Education: Spirituality and Human Flourishing, Efrog Newydd: Palgrave Macmillan

Gill, S. & Goodson, I. (2013). Critical Narrative as Pedagogy, Llundain: Bloomsbury

Gill, S. & Thomson, G. (2012). Rethinking Secondary Education: A Human-Centred Approach. Rhydychen: Pearson Education

Goodson, I. & Gill, S. (2010). Narrative Pedagogy. Efrog Newydd: Peter Lang

Gill, S. (2010). Learning across cultures. Berlin: Lambert Academic Publishing