Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Hanes yr Hen Fyd (BA)

Hanes yr Hen Fyd (BA)

Ymgeisio Drwy UCAS - Llawn Amser

Oes gennych chi ddiddordeb yng Ngwareiddiadau Clasurol Groeg a Rhufain? Mae ein gradd Hanes yr Hen Fyd yn caniatáu i chi astudio amrywiaeth ddiddorol o bynciau sy’n ymestyn o hanes, llenyddiaeth a chelf i fytholeg a chrefydd. Archwiliwch bopeth o ffigyrau fel Alecsander Fawr ac Iŵl Cesar i agweddau ar fywyd bob dydd yn yr hen oes Roegaidd-Rufeinig, fel cenedl, caethwasiaeth, rhyfela a’r economi.

Drwy astudio ein Hanes yr Hen Fyd gallwch fwynhau addysgu a arweinir gan ymchwil a dull personol hyfforddiant arbenigol.

Mae’r rhaglen hon yn darparu amrywiaeth eang o themâu yn niwylliant a hanes yr Hen Fyd Clasurol, yn cynnwys themâu gwleidyddolfilwrol mwy traddodiadol, yn ogystal â modylau sy’n canolbwyntio’n fwy ar bynciau amrywiol fel iechyd, crefydd, adloniant, marwolaeth, priodas, gwyddoniaeth ac addysg. Mae Groeg a Lladin i ddechreuwyr hefyd ar gael.

  • Ar gael fel anrhydedd sengl neu gydanrhydedd.
OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Codau UCAS a Dewisiadau Cydanrhydedd

Hanes yr Hen Fyd (BA)
Cod UCAS: V110
Gwnewch gais drwy UCAS

Hanes yr Hen Fyd gyda Blwyddyn Sylfaen (BA)
Cod UCAS: AHF1
Gwnewch gais drwy UCAS

Hanes yr Hen Fyd ac Archaeoleg (BA)
Cod UCAS:VVD4
Gwnewch gais drwy UCAS.

Hanes yr Hen Fyd ac Archaeoleg gyda Blwyddyn Sylfaen (BA)
Cod UCAS: AHA1
Gwnewch gais drwy UCAS.

Gwareiddiadau’r Hen Fyd (BA)
Cod UCAS:V901
Gwnewch gais drwy UCAS

Gwareiddiadau’r Hen Fyd gyda Blwyddyn Sylfaen (BA)
Cod UCAS: ACF1
Gwnewch gais drwy UCAS

  • Dylai ymgeiswyr llawn amser wneud cais drwy UCAS.
  • Dylai ymgeiswyr rhan amser wneud cais drwy’r Brifysgol.

Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth
Côd sefydliad: T80
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant


Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn?

  1. Rydym yn cynnig dewis eang o fodylau a phynciau gwahanol i’n myfyrwyr, gan amrywio o Wlad Groeg hynafol i ddiwedd yr Ymerodraeth Rufeinig.
  2. Addysgir yr holl fyfyrwyr mewn grwpiau bach, gyda darlithoedd rhyngweithiol, tiwtorialau un-i-un a seminarau. Mae’r cwrs yn defnyddio dull dysgu trochi arloesol.
  3. Mae pob un o’n staff yn ymchwilydd ac yn arbenigwr yn ei faes, sy’n golygu y gallwn gynnig addysgu blaengar sy’n cael ei hysbysu gan y datblygiadau diweddaraf yn y pwnc.
  4. Caiff y myfyrwyr y cyfle i ddewis modylau o blith yr holl bynciau a thestunau eraill yn y dyniaethau.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r cynllun Hanes yr Hen Fyd yn caniatáu ichi astudio ystod eang o bynciau yn cynnwys nid yn unig gymeriadau diddorol megis Alecsander Fawr, ond hefyd agweddau elfennol ar fywyd bob dydd, megis ymolchi, bwyta, cyflawni defodau crefyddol, rhyfela a’r economi.

Yn y flwyddyn gyntaf, gellir astudio modylau ar ystod eang o gyfnodau a themâu; yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, rydym yn cynnig modylau arbenigol ar bob agwedd ar hanes Groeg a Rhufain fel y gallwch feithrin gwybodaeth fanwl am feysydd sydd o ddiddordeb arbennig ichi.

Mae dewis ar gael hefyd i astudio modylau dethol mwy eang yng Nghyfadran y Dyniaethau, er enghraifft yn niwylliant a hanes Aifft yr hen fyd, Hanes Tsieina’r hen fyd, archaeoleg yr Oes Efydd neu Wareiddiadau Celtaidd.  Caiff yr holl fyfyrwyr y cyfle i ddilyn eu diddordebau personol a chynnal eu hymchwil eu hun ym mhrosiect annibynnol yr ail flwyddyn a thraethawd hir y drydedd flwyddyn.

Pynciau Modylau

Yn eich astudiaethau, cewch y cyfle i archwilio ystod eang o bynciau yn yr hen fyd.  Mae rhai o’r pynciau hyn yn cynnwys:

  • Mytholeg a chrefydd Roegaidd-Rufeinig
  • Llofruddiaeth, cynllwyn a thrais mewn gwleidyddiaeth Roegaidd-Rufeinig
  • Athen Pericles
  • Arweinwyr byd allweddol megis Alecsander, Iŵl Cesar a Nero
  • Rhyfela Rhufeinig a goresgyn ardal Môr y Canoldir
  • Rhyfela a chymdeithas Spartaidd
  • Bywyd bob dydd y Groegwyr a’r Rhufeinwyr

Plîs sylwch, gall y pynciau hyn newid neu gylchdroi o flwyddyn i flwyddyn, oherwydd newidiadau staff, datblygu'r cwricwlwm ac argymhellion yn dilyn dilysu.

Asesiad

Mae gradd yn Hanes yr Hen Fyd yn cynnwys ystod eang o ddulliau asesu.  Yn ogystal â gwaith traddodiadol megis rhoi sylwadau ar destunau, traethodau a phrofion yn y dosbarth, cewch eich asesu drwy ymarferion llyfryddol, cyflwyniadau - llafar ac ar PowerPoint, fel unigolyn ac aelod o grŵp - creu crynodebau, adroddiadau adfyfyrio, papurau cynadleddau mewnol, adolygiadau o erthyglau, arholiadau i’w gwneud gartref, wicis mewn grwpiau, creu cynlluniau prosiect, ac wrth gwrs, y traethawd hir.

Mae’r asesu amrywiol hwn yn helpu i ddatblygu sgiliau i allu cyflwyno deunydd mewn modd clir a phroffesiynol, boed ar lafar neu’n ysgrifenedig.

Mae’r mathau eang hyn o asesu’n creu amrywiaeth ym mhrofiadau’r myfyrwyr, gan ganiatáu i chi archwilio’r pwnc mewn ffyrdd gwahanol, ac mae’n ymgorffori yn rhaglen Hanes yr Hen Fyd y sgiliau cyflogadwyedd penodol sy’n ddymunol, neu’n wir yn ofynnol gan gyflogwyr heddiw.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. 

Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau. 

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch cymwysterau.

Cyfleoedd Gyrfa

Mae meysydd gwaith posibl ar gyfer ein graddedigion yn cynnwys:

  • Busnes a Masnach
  • Astudiaethau Pellach
  • Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth
  • Y Cyfryngau a Chyhoeddi
  • Addysgu

Nid oes un llwybr penodol i raddedigion Hanes yr Hen Fyd. Mae myfyrwyr sy’n graddio gyda ni’n parhau i ddilyn llwybrau traddodiadol addysgu, amgueddfeydd a threftadaeth, y gwasanaeth sifil ac ymchwil - academaidd, yn y llywodraeth a’r cyfryngau.

Fodd bynnag, mae’r sgiliau cyflogadwyedd a ymgorfforir yn y graddau a gynigiwn ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn sicrhau bod gan ein graddedigion Hanes yr Hen Fyd y sgiliau a’r hyder i archwilio amrywiaeth eang o lwybrau gyrfa.

Yn wir, mae ein myfyrwyr sydd wedi graddio wedi archwilio dewisiadau o hyfforddwyr chwaraeon awyr agored i swyddogion carchar, o’r Lluoedd Arfog i yrfaoedd mewn amgylchedd meddygol, gyda detholiad da o rai ag anian entrepreneuraidd yn cymhwyso’r hyn y maent wedi’i ddysgu i greu eu cwmnïau eu hun.

Gan fanteisio ar bopeth maent wedi’i ennill drwy astudio Hanes yr Hen Fyd gyda ni, a’i gyfuno â Gwasanaeth Gyrfaoedd penodedig, mae gan raddedigion Hanes yr Hen Fyd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yr offer i ddilyn eu diddordebau lle bynnag y byddant yn eu harwain. 

Costau Ychwanegol

Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau.  Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.

Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.

Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.

Taith Maes ddewisol:
Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol.  Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud.  Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian.  Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.

  • Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): oddeutu £500 i £1,500
  • Teithiau unigol: oddeutu £5 i £50
Cyrsiau Cysylltiedig
Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau