Hafan YDDS  -  Astudio Gyda Ni  -  Cyrsiau Israddedig  -  Hanes (BA)

Hanes (BA)

Ymgeisio Drwy UCAS - Llawn Amser

Cytunai 100% o fyfyrwyr Hanes ac Archaeoleg y Drindod Dewi Sant eu bod wedi gallu cysylltu â’r staff pan oedd angen – Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2022.

Mae ein rhaglen Hanes yn cynnig i chi amrywiaeth ddiddorol o fodylau a fydd yn caniatáu i chi ymgysylltu â hanes Ewrop, yr UD a thu hwnt, o’r oes hynafol i’r oes fodern. Byddwch yn dysgu sgiliau trosglwyddadwy a deallusol gwerthfawr trwy’r amrywiaeth o ddulliau asesu a ddefnyddir yn ein modylau.

Trwy astudio Hanes, byddwch yn datblygu ymwybyddiaeth feirniadol o’r gwahanol ffyrdd o adeiladu naratif hanesyddol a’r cyfoeth ac amrywiaeth eang sydd gan hanes i’w cynnig.

Nod y rhaglen yw eich paratoi i ofyn ac ateb cwestiynau cymhellol a phwrpasol am y gorffennol a dilyn y cwestiynau hyn trwy ymholi strwythuredig, dethol a holi ystod addas o ddeunyddiau, yn cynnwys ffynonellau tystiolaeth gwreiddiol a hanesyddiaethol.

OPSIYNAU LLWYBR A SUT I YMGEISIO

Codau UCAS a Dewisiadau Cydanrhydedd

Hanes (BA)
Cod UCAS: V100
Ymgeisio drwy UCAS

Hanes Hynafol (BA)
Cod UCAS: V110
Ymgeisio drwy UCAS

Archaeoleg a Hanes (BA)
Cod UCAS: VV14
Ymgeisio drwy UCAS

Hanes a Saesneg (BA)
Cod UCAS: QV31
Ymgeisio drwy UCAS

Hanes gyda Blwyddyn Sylfaen (BA)
Cod UCAS: HIF1
Ymgeisio drwy UCAS


  • Dylai ymgeiswyr llawn amser wneud cais drwy UCAS.
  • Dylai ymgeiswyr rhan amser wneud cais drwy’r Brifysgol.

Cadw Lle ar Ddiwrnod Agored Cais am Wybodaeth

Ffioedd Dysgu 2023/24:
Cartref: (Llawn-amser): £9,000 y flwyddyn
Tramor (Llawn-amser): £13,500 y flwyddyn

Pam dewis y cwrs hwn?

  1. Ystod eang o fodylau, sy’n ffocysu ar lawer o wahanol leoedd, themâu, pynciau a phobl, o Bede i Bowie, mynachlogydd i ffilmiau, a Chesar i Churchill.
  2. Cyfle i astudio rhan eang o hanes, yr holl ffordd nôl i henfyd trwy’r Canoloesoedd yr holl ffordd i’r presennol.
  3. Modylau wedi’u seilio ar arbenigedd ymchwil nodedig darlithwyr, fel hanes diwylliannol dinasoedd, coffâd rhyfel, Prydain y 1980au, ysgrifennu hanes a chof yn y Canol Oesoedd.
  4. Ymagwedd ymarferol ac addysgu ymgolli arloesol mewn grwpiau bach a thiwtorialau un i un.
  5. Cyfle i gyfuno eich astudiaethau gyda modylau o bynciau eraill y Dyniaethau.

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r rhaglen Hanes yn Y Drindod Dewi Sant yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymchwilio i lawer o wahanol agweddau gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd, milwrol a diwylliannol ar hanes. Mae’n cyfuno astudio newid dros gyfnod mewn modylau arolwg eang sy’n cyflwyno agweddau allweddol ar y byd canoloesol a modern, gyda modylau â mwy o ffocws ar bynciau fel cymdeithas y Normaniaid a Chrwsadau, y Rhyfel Byd Cyntaf a Phrydain y 1980au.

Cyflwynir pob modwl mewn grwpiau bach a gydag ymagwedd ymarferol, ymdrochi. Caiff yr addysgu ei arwain gan ymchwil, ac wedi’i seilio yn niddordebau ac arbenigedd proffesiynol y darlithwyr. Bydd myfyrwyr yn dod ar draws gwahanol ymagweddau at a deunyddiau crai er mwyn deall y gorffennol, gyda ffocws arbennig ar ddefnyddio’r archif o lawysgrifau a ffynonellau cynradd printiedig sydd ar y safle. Mae hyn oll yn darparu rhaglen astudio gyflawn a chynhwysfawr sy’n rhoi sylfaen i fyfyrwyr yn y damcaniaethau, fethodoleg a’r arferion angenrheidiol sy’n gysylltiedig â disgyblaeth hanes.

Pynciau Modylau

Mae’r flwyddyn gyntaf yn cynnwys nifer o fodylau craidd. Cynlluniwyd y rhain i roi sylfaen ichi mewn themâu a phynciau allweddol hanes canoloesol (fel y Crwsadau, rôl yr eglwys a tharddiad prifysgolion) a hanes modern (er enghraifft, chwildroadau, rhyfeloedd byd ac imperialaeth). Bydd y rhain yn rhoi ichi’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu heisiau i ymgymryd ag astudiaethau mwy arbenigol mewn blynyddoedd dilynol.

Mae modylau’r ail a’r drydedd flwyddyn yn canolbwyntio ar bynciau fel seintiau’r canoloesoedd, y Normaniaid, ‘Canterbury Tales’ Chaucer, hanes dinasoedd, yr Oes Oleuedig, y Rhyfel Byd Cyntaf, etifeddiaeth y 1980au a diwylliant Atlantig Du. Yna, cewch gyfle i harneisio’r profiadau a geir drwy eich astudiaethau mewn prosiect annibynnol y eich ail flwyddyn a thraethawd hir y drydedd flwyddyn.

Gydol eich gradd, byddwch yn archwilio sut y cynrychiolir y gorffennol mewn unrhyw beth o lawysgrifau a dramâu, i ffilm a cherddoriaeth.

Lefel 3 (Blwyddyn Sylfaen) 

  • Sgiliau Goroesi Academaidd (20 credyd; gorfodol)
  • Cyflwyniad i Fywyd Prifysgol (10 credyd; gorfodol)
  • Ymchwiliad Annibynnol (10 credyd; gorfodol)
  • Cyflwyniad i'r Dyniaethau (10 credyd; gorfodol)
  • Ysgrifennu Academaidd (10 credyd; gorfodol)
  • Deall Llenyddiaeth (20 credyd; dewisol)
  • Siarad â'r Meirw (20 credyd; dewisol)
  • Bod yn Ddynol (20 credyd; dewisol)
  • Deall Democratiaeth (20 credyd; dewisol)
Asesiad

Asesir y rhaglen mewn amrywiaeth o ffyrdd a fydd yn cynnwys nifer o’r mathau a ganlyn o asesiad: traethodau rhwng 1,000 a 4,000 o eiriau, dadansoddi dogfen, adolygiadau llyfrau/cyfnodolion, adroddiadau byr a dyddlyfrau adfyfyriol, profion amser, arholiadau a welir ac nas gwelir ymlaen llaw, dyddlyfrau maes, posteri, cyflwyniadau grŵp ac unigol, traethodau hir 10,000 o eiriau, wicis, sylwebaethau a gwerthusiadau ffilm.

Fframwaith Priodoleddau Graddedigion

Nod y Fframwaith yw datblygu eich sgiliau a’ch cymwyseddau proffesiynol ochr yn ochr â’ch gwybodaeth pwnc academaidd. Byddwch yn astudio hyd at 40 credit ar bob level trwy gydol eich rhaglen o’r Fframwaith Priodoleddau Graddedigion. 

Mae’r modylau Priodoleddau Graddedigion wedi’u cynllunio i’ch galluogi i ddatblygu, a phrofi, ystod o sgiliau sy’n ffocysu ar eich gyrfa ac yn gysylltiedig â’ch maes pwnc. Mae’r sgiliau hyn yn cynnwys medrusrwydd digidol, ymchwil a rheolaeth prosiect, yn ogystal â medrusrwydd personol fel cyfathrebu, creadigrwydd, hunan-fyfyrio, cadernid a datrys problemau. 

Rhaglenni a Digwyddiadau Llanbedr Pont Steffan

Dyniaethau | Gwahaniaeth Llanbedr Pont Steffan

Gwybodaeth allweddol

Meini Prawf Mynediad

Mae graddau’n bwysig; ond, nid yw ein cynigion wedi’u seilio’n llwyr ar ganlyniadau academaidd. Mae gennym ddiddordeb mewn pobl greadigol sy’n arddangos ymrwymiad cryf i’w dewis faes pwnc ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o amrywiaeth eang o gefndiroedd.

I asesu addasrwydd myfyrwyr ar gyfer eu dewis gwrs, rydym fel arfer yn trefnu cyfweliadau ar gyfer pob ymgeisydd lle caiff eich sgiliau, cyraeddiadau a phrofiad bywyd eu hystyried yn ogystal â'ch cymwysterau.

Cyfleoedd Gyrfa

Byddwch yn datblygu’ch gallu i ddadansoddi, meddwl yn rhesymegol a dadlau’n seiliedig ar dystiolaeth o fewn amgylchedd sy’n eich annog ac yn eich cefnogi. Bydd y sgiliau hyn o ran cyfathrebu, deall, dadansoddi a rheoli’ch hun sy’n rhoi i chi basbort i mewn i waith a/neu astudiaethau pellach. Mae’r radd Hanes yn paratoi myfyrwyr at swyddi mewn meysydd fel gwaith amgueddfa ac archifau, newyddiaduraeth, y gyfraith, bancio, gwleidyddiaeth leol, pob math o waith gweinyddol, marchnata a hysbysebu, ac addysgu. Yn Llambed, mae gennym hanes cadarn o helpu myfyrwyr i symud ymlaen i astudiaethau ôl-radd – ar lefel MA a PhD.

  • Academia
  • Busnes
  • Swyddi gweinyddu a rheoli cyffredinol; gwasanaeth sifil.
  • Treftadaeth (llyfrgell, archifau, amgueddfeydd, twristiaeth)
  • Newyddiaduraeth
  • Y gyfraith ac eiriolaeth
  • Llywodraeth leol, cymuned, gwleidyddiaeth leol
  • Ymchwil ôl-raddedig
  • Addysgu
Costau Ychwanegol

Mae’r Gyfadran wedi gwneud amcangyfrif gan dybio y bydd myfyrwyr yn prynu copïau newydd o’r llyfrau. Gallai myfyrwyr hefyd ddewis gwario arian ar argraffu fersiynau drafft o’u gwaith.

Gallai myfyrwyr wario hyd at £300 y flwyddyn ar lyfrau a deunyddiau ychwanegol cysylltiedig.

Disgwylir i fyfyrwyr gyflwyno 2 gopi caled o’u prosiect terfynol, ac amcangyfrifir y bydd cost rhwymo’r rhain yn £20.

Taith Maes ddewisol:

Mae’r Gyfadran yn gweithio i sicrhau bod ystod o ddewisiadau ar gael o ran gwaith maes a theithiau maes yn lleol ac yn rhyngwladol. Felly gall myfyrwyr ddewis cymryd lleoliadau mwy neu lai drud. Mae’r Gyfadran yn noddi’r rhain ond mae’r gost bob blwyddyn yn ddibynnol ar gostau hedfan, lleoliad, a chyfraddau cyfnewid arian. Isod nodir pegwn uchaf y costau disgwyliedig ar sail ble mae myfyrwyr cyfredol wedi ymgymryd â lleoliadau.

  • Gwaith maes (yn ddibynnol ar ble mae’r myfyriwr yn penderfynu gwneud gwaith maes): oddeutu £500 i £1,500
  • Teithiau unigol: oddeutu £5 i £50
Cyrsiau Cysylltiedig

Hanes Hynafol (BA)
Cod UCAS: V110

Archaeoleg (BA)
Cod UCAS: V400

Ysgoloriaethau ac Bwrsariaethau
Llety

Ewch i’n hadran Llety Llambed i ddysgu rhagor.