Skip page header and navigation

Mae Concy Jeya Rasanayagam, entrepreneur o Sri Lanka a chyn-ymgynghorydd harddwch yn Yves Rocher yn yr Eidal, wedi cychwyn ar daith addysgol drawsnewidiol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Mae Concy, sydd ar hyn o bryd yn dylunio blouses saree Indiaidd wedi’u teilwra ac yn cydweithio ag Avon Cosmetics, wedi dewis PCYDDS i hybu ei huchelgeisiau entrepreneuraidd.

A proud and smiling graduate wearing her cap and gown.

Wedi’i hysbrydoli gan enw da cryf PCYDDS mewn rhaglenni busnes, ei ffocws ar gynaliadwyedd a materion amgylcheddol, a’i hymrwymiad i ddysgu ymarferol a chysylltiadau diwydiant, dywedodd Concy ei bod wedi dod o hyd i’r amgylchedd delfrydol i ddilyn ei hangerdd am entrepreneuriaeth. 

“Dewisais y cwrs Sgiliau Busnes ar gyfer y Gweithle i ddatblygu a chymhwyso fy sgiliau mewn lleoliad ymarferol,” meddai Concy.

Ei nod wrth ymgymryd â’r astudiaethau hyn oedd adeiladu sylfaen gref mewn rheolaeth busnes, gan roi iddi’r sgiliau angenrheidiol i lywio cymhlethdodau rhedeg busnes llwyddiannus. 

“Bydd y wybodaeth a’r profiad a gaf o’r cwrs hwn yn allweddol i ehangu fy musnes gwnïo a chreu digonedd o gyfleoedd,” meddai.

Wrth wynebu heriau fel rheoli amser, cydbwyso gwaith cwrs, a chynnal bywyd academaidd a phersonol iach, dywedodd Concy iddi eu goresgyn trwy flaenoriaethu tasgau, creu amserlen astudio, a cheisio cymorth gan ddarlithwyr. 

“Roedd ymuno â grwpiau astudio a defnyddio adnoddau academaidd hefyd yn hanfodol i oresgyn rhwystrau,” ychwanegodd.

Dywedodd Concy ei bod yn argymell y cwrs Sgiliau Busnes ar gyfer y Gweithle yn fawr i eraill. “Mae’r cwrs yn ymdrin â sgiliau busnes hanfodol mewn cyfathrebu, rheoli amser, gwneud penderfyniadau ac arweinyddiaeth. Mae’r deunydd wedi’i drefnu’n dda ac wedi’i gyflwyno’n ddifyr, gan ei wneud yn hawdd ei ddeall a’i gymhwyso mewn sefyllfaoedd gwaith bywyd go iawn,” meddai.

Mae’r cwrs eisoes wedi cael effaith sylweddol ar ddatblygiad proffesiynol a phersonol Concy. “Mae wedi dysgu strategaethau ymarferol i mi ar gyfer gwella fy sgiliau cyfathrebu, rheoli amser, gwneud penderfyniadau ac arwain, ac wedi rhoi hwb i fy hyder wrth fynd i’r afael â heriau busnes amrywiol,” meddai.

“Hoffwn ddiolch i fy narlithwyr o waelod fy nghalon am eu holl garedigrwydd, cefnogaeth ac anogaeth. Roedd ymuno â’r brifysgol yn nodi pwynt hollbwysig yn fy mywyd, cyfnod o drawsnewid sydd wedi fy mharatoi ar gyfer y dyfodol. Rwy’n teimlo mor falch o fy mhrifysgol. Hoffwn hefyd ddiolch i fy ngŵr am ei gefnogaeth sydd wedi fy helpu i gyflawni hyn i gyd!”

Mae’r cwrs eisoes wedi cael effaith sylweddol ar ddatblygiad proffesiynol a phersonol Concy. “Mae wedi dysgu strategaethau ymarferol i mi ar gyfer gwella fy sgiliau cyfathrebu, rheoli amser, gwneud penderfyniadau ac arwain, ac wedi rhoi hwb i fy hyder wrth fynd i’r afael â heriau busnes amrywiol,” meddai.

Mae Concy bellach wedi gwneud cais i astudio am BA mewn Sgiliau Arwain a Rheoli ar gyfer y Gweithle yn PCYDDS. “Bydd fy astudiaethau sydd i ddod yn canolbwyntio ar arddulliau arwain, ymddygiad sefydliadol, rheolaeth strategol, a gwneud penderfyniadau effeithiol. Rwy’n arbennig o gyffrous i archwilio’r meysydd hyn,” meddai. Mae gan Concy hefyd nod hirdymor o agor siop bwtîc, lle gall gymhwyso ei sgiliau busnes gwell a’i hysbryd entrepreneuraidd.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon