Skip page header and navigation

Mewn stori ryfeddol o wytnwch a phenderfyniad, mae Noreen Akhtar, un o raddedigion Y Drindod Dewi Sant yn Birmingham, heddiw yn dathlu cwblhau ei gradd mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, gan oresgyn heriau personol sylweddol ar hyd y ffordd. 

Noreen Akhtar

Mae taith Noreen, a ddechreuodd yn ystod triniaeth ysbyty ei merch, yn enghraifft o gryfder yr ysbryd dynol a grym trawsnewidiol addysg.

Tra’n aros yn yr ysbyty gyda’i merch, cafodd Noreen ei hudo gan y proffesiwn nyrsio. Wedi’i hannog gan gofrestrydd a oedd yn cydnabod ei dawn a’i hangerdd, penderfynodd ddilyn gyrfa mewn nyrsio. Arweiniodd hyn at gofrestru ar gwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn PCYDDS Birmingham, gan nodi dechrau pennod newydd yn ei bywyd.

Dywedodd Noreen: “Fy nod a’m huchelgais oedd cwblhau fy nghwrs a cherdded i ffwrdd gyda gradd. Uchafbwynt y cwrs yw fy mod yn gadael gyda gwybodaeth wych a llawer o ffrindiau da, heb anghofio’r atgofion. Rydw i wedi dysgu gwahanol ffyrdd o ymchwilio i dechnegau ac rydw i nawr yn barod i barhau â’m taith ddysgu i fynd â fi i gam nesaf fy ngyrfa ddewisol.”

Fodd bynnag, nid oedd y daith heb ei heriau. Yn ystod ei blwyddyn olaf o astudio, cafodd Noreen ddiagnosis o ganser a chafodd gemotherapi a radiotherapi. Er gwaethaf y rhwystrau brawychus hyn, daliodd yn ddiysgog yn ei hymrwymiad i’w haddysg. Talodd ei dyfalbarhad ar ei ganfed, ac mae hi’n graddio’n falch gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf.

“Roedd yr her a wynebais yn ystod fy mlwyddyn olaf o astudio yn aruthrol, ond er gwaethaf hynnyfe wnes i lwyddo i sicrhau gradd dosbarth cyntaf. Byddwn yn argymell y cwrs hwn i ffrindiau a theulu. Fe wnes i fwynhau ei wneud a byddwn wrth fy modd yn trosglwyddo fy hapusrwydd i bobl eraill,” meddai.

Mae Noreen yn awyddus i barhau â’i thaith ym maes gofal iechyd. Ei nod yn y dyfodol yw cael hyfforddiant ysbyty, lle mae’n gobeithio cymhwyso ei gwybodaeth a’i sgiliau i wneud gwahaniaeth ym mywydau eraill.

Dywedodd John Deane, Deon campws Birmingham y Drindod Dewi Sant: “Mae stori Noreen yn dyst pwerus i effaith addysg ac ysbryd anorchfygol y rhai sy’n dilyn eu breuddwydion yn groes i bob disgwyl. Mae hi’n ysbrydoliaeth i’w chyfoedion, ei theulu, a’i chymuned, gan ymgorffori gwir hanfod ymroddiad a gwytnwch.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon