Skip page header and navigation

Mae Jack Ericksen wedi graddio heddiw gyda BA mewn Actio o gampws Caerfyrddin Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Mae hefyd wedi ennill Gwobr Celfyddydau Perfformio’r Brifysgol (cyfrwng Saesneg).

Jack Ericksen

Dywed Jack, a ddaeth i astudio i Gaerfyrddin o Norfolk:

Dwi wastad wedi cael trafferth yn academaidd, a byth wedi ennill y graddau gorau yn yr ysgol uwchradd. Ond, roedd gen i angerdd am greadigrwydd, felly astudiais y Celfyddydau Perfformio yn y Coleg ac roeddwn i eisiau dilyn fy astudiaethau i addysg uwch. Teithiais dros 300 milltir o Norfolk i ddechrau ar fy nhaith gyda’r Drindod Dewi Sant a dydw i byth wedi edrych yn ôl.

Dewisais y cwrs hwn oherwydd ei amrywiaeth o fodiwlau a’r cydweithrediad helaeth â darlithwyr a chysylltiadau â’r diwydiant.

“Rhai o uchafbwyntiau mwyaf y cwrs oedd gwneud ffilm fer, cael y cyfle i fod yn greadigol a gwneud sawl perfformiad ar y llwyfan, a datblygodd pob un ohonynt fy sgiliau yn helaeth.

“Rwyf wedi wynebu llawer o heriau, yn bersonol ac yn academaidd, ond fe wnes i oresgyn pob un ohonyn nhw gyda fy nhiwtoriaid yn bennaf, roedden nhw’n anhygoel am fod yn gefnogol ac argymell awgrymiadau a fyddai’n datblygu fy hyder ac yn caniatáu i mi wneud y penderfyniadau gorau”.

Dywedodd Lynne Seymore, rheolwraig y rhaglen BA Actio:

Mae Jack wedi bod yn fyfyriwr bendigedig trwy gydol ei amser yn PCYDDS. Mae wedi datblygu ei hyder a’i sgiliau perfformio, ynghyd â gwneud rhai cysylltiadau diwydiant ystyrlon iawn trwy ei fodiwlau ac mae bellach yn graddio gyda chanlyniad rhagorol. Bu natur ymarferol y cwrs o gymorth iddo gwireddu ei lawn botensial ac ynghyd â’r sgiliau ymarferol hynny, daeth y gred yn ei sgiliau academaidd hefyd! Rydw i mor falch o Jack a phopeth mae wedi ei gyflawni ac yn edrych ymlaen at ei weld yn mynd o nerth i nerth.”

Yn ystod ei gwrs, tyfodd Jack yn bersonol gyda chymorth ei ffrindiau a’i gariad Anna, y cyfarfu â hi ar ei gwrs. Hefyd, mae’n dweud bod y cwrs wedi ei ysgogi i wirfoddoli yn Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru. Mae’n canmol y cwrs am ei alluogi i ddatblygu ei sgiliau proffesiynol, yn ogystal â’i alluogi i ddysgu pwysigrwydd hunangyflogaeth ac agweddau ariannol bod yn actor llawrydd.

Mae ein rhaglen Actio wedi’i chynllunio i roi i chi’r sgiliau perfformio, technegol, creadigol a phroffesiynol sy’n berthnasol i weithio yn y diwydiannau perfformio a chreadigol. Mae’r rhaglen yn ymarferol iawn ac yn ffocysu ar y diwydiant, gydag ymagwedd aml-sgil sy’n cynnwys datblygiad amrywiaeth o arddulliau perfformio, fel cymeriadaeth wedi’i sgriptio, dyfeisio ac actio ar gyfer y sgrîn. Mae pwyslais cryf hefyd ar gydweithio creadigol ar draws y portffolio Celfyddydau Perfformio.


Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07968 249335

Rhannwch yr eitem newyddion hon