Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi cyrraedd y rhestr fer am ddwy wobr yng Nghinio a Gwobrau Blynyddol y Sefydliad Lletygarwch (IoH) eleni. Mae rhestr fer y gwobrau ar gyfer 2024 yn cynnwys talent o bob rhan o’r byd, o fewn unrhyw faes ac arbenigedd lletygarwch, mewn busnesau bach a chanolig a sefydliadau lletygarwch mawr.

Students jumping up in celebration and waving their arms.

Mae Tîm Twristiaeth a Digwyddiadau’r Brifysgol wedi cyrraedd y rhestr fer yn y Rhaglen Addysgol Orau (Busnes Mawr) a Thîm Datblygu Talent y Flwyddyn 2024 (Busnes Mawr). 

Meddai Jacqui Jones, Rheolwr Rhaglen y Portffolio Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth, Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol yn y Drindod Dewi Sant:“Rydym wrth ein bodd ac yn falch iawn i gyrraedd y rhestr fer am ddwy wobr. Mae hyn yn gydnabyddiaeth fyd-eang ragorol i’r rhaglenni Twristiaeth a Digwyddiadau a’r Drindod Dewi Sant, gan arddangos y cyfleoedd addysgol rhagorol a’r cyfleoedd i ddatblygu talent rydym yn eu darparu ar gyfer ein myfyrwyr.”

Mae’r myfyrwyr, o raglenni Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol, a Rheolaeth Digwyddiadau a Gwyliau Rhyngwladol y Brifysgol, yn enillwyr blaenorol gwobrau’r Sefydliad Lletygarwch. Ym mis Mehefin y llynedd, cyhoeddwyd mai nhw oedd y Rhaglen Addysgol Orau yng Ngwobrau Byd-eang y Sefydliad Lletygarwch. 

Enillon nhw hefyd y Digwyddiad Gorau i Fyfyrwyr yn y Gwobrau Digwyddiadau Awyr Agored Cenedlaethol (NOEA) i gydnabod eu hymdrechion arbennig wrth drefnu Cynhadledd a Ffair Yrfaoedd yr ITT, Future You: Make a Splash yn Abertawe.  

Meddai’r Athro Wendy Dearing, Deon yr Athrofa Rheolaeth ac Iechyd yn y Drindod Dewi Sant: “Mae’r Brifysgol wrth ei bodd ac yn falch i glywed am yr enwebiadau, sy’n cydnabod gwaith caled a chyflawniadau ein staff a’n myfyrwyr ac yn adlewyrchu llwyddiant y rhaglenni.”

Meddai Dr Jayne Griffith Parry, Cyfarwyddwr Academaidd y cyrsiau Lletygarwch a Rheolaeth Twristiaeth yn y Drindod Dewi Sant: “Mae cael eu henwebu am y dyfarniadau yn bwysig i fyfyrwyr am ei fod yn amlygu eu sgiliau, eu hymroddiad a’u perfformiad rhagorol yn eu maes, gan eu gwneud yn fwy deniadol i ddarpar gyflogwyr a chynyddu eu cyfleoedd o sicrhau interniaethau a chyfleoedd am swydd.”

Wrth gyhoeddi’r rhestr fer, meddai Robert Richardson FIH MI, Prif Swyddog Gweithredol y Sefydliad Lletygarwch: “Rydym wedi cael llu o geisiadau eleni ac mae’r ansawdd wedi bod yn anhygoel. Mae’r dalent sy’n gweithio yn ein diwydiant lletygarwch byd-eang, ochr yn ochr â’r mentrau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, yn hynod o galonogol, dyfeisgar ac ysbrydoledig. Mae’r Gwobrau hyn bob amser yn rhoi sylw i weithwyr proffesiynol a sefydliadau rhagorol yn ein teulu lletygarwch arbennig, ac nid yw eleni’n wahanol.”

Cyhoeddir yr enillwyr yng Nghinio a Gwobrau Blynyddol yr IoH 2024 sydd yn ddigwyddiad tei ddu a gynhelir ym Mhencadlys yr Honourable Artillery Company yn Llundain ar 17 Mehefin 2024.

Mae’r enillwyr blaenorol yn cynnwys Eugenio Pirri FIH, The Clink Charity, Crumbs, Galvin At Windows Restaurant & 10° Sky Bar, The Grand Brighton, Compass Group UK & Ireland, Adrian Ellis MI FIH, Irantha Duwage MIH, Phyllis Court Club a Concord Hotels.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau