Skip page header and navigation

Yn eu sioe graddio diwedd blwyddyn, fe wnaeth myfyrwyr o Goleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ennill sawl gwobr mewn cydnabyddiaeth o’u doniau a’u gwaith caled.

Grŵp o fyfyrwyr yn dal tystysgrifau yn sioe haf, Coleg Celf Abertawe, PCYDDS yn dathlu eu gwaith terfynol.

Bob blwyddyn, mae arddangosfa’r Sioe Haf yn cyflwyno penllanw gwaith gradd gan fyfyrwyr sy’n graddio. Gwelir eu darnau terfynol gan staff a gweithwyr proffesiynol sy’n chwilio am ddoniau hynod.

Roedd manylebau rhoddwyr gwobrau eleni’n amrywiol, o chwilio am waith â photensial manwerthu i wobrwyo myfyrwyr sydd wedi cyflawni gwaith rhagorol wrth brofi adfyd yn ystod eu hastudiaethau.

Cynhaliwyd y seremoni yn iard Dinefwr yn Y Drindod Dewi Sant ar noson agoriadol y sioe ar 19eg Mai, a daeth cannoedd ynghyd i glywed y canlyniadau ac araith gan Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Medwin Hughes.

Wrth annerch y myfyrwyr, meddai: “Gallwch fynd i unrhyw le, gallwch freuddwydio’r breuddwydion, gallwch greu unrhyw beth rydych chi ei eisiau oherwydd mae gennych gred yng ngwerth celf, lliw, darlun, gwead. Gallwch ddehongli’r byd er lles eraill.

“Rydyn ni i gyd yn falch iawn. Wrth i chi raddio eleni, dyna’i gyd y gallaf ei ddweud wrthych yw: ewch amdani! Gwnewch wahaniaeth, crëwch effaith, oherwydd os byddwch chi’n credu ynoch chi’ch hun, bydd eich creadigrwydd nid yn unig yn adrodd eich stori chi, ond bydd yn newid y byd.”

Medwin Hughes yn rhoi araith yn noson agoriadol sioe haf Coleg Celf Abertawe 2023.

Mae manylion yr enillwyr isod:

Artist Benevolent Scholarship £10,000, cyflwynwyd gan Sue Williams

Enillydd: Adam Charlton, Celf Gain

Gwobr Peintio a Lluniadu Haydn John James Layton £1000 yr un, cyflwynwyd gan Holly Slingsby

Enillydd: Angelika Mika, Celf Gain

Enillydd: Katie Griffiths, Darlunio

Gwobr Celf Sefydliad Josef Herman er Cof am Carolyn Davies £500, cyflwynwyd gan Jackie Hankins

Enillydd: Hannah Henson, Celf Gain

Gwobr yr Old Dyvorian £375 yr un, cyflwynwyd gan David Taylor

Enillydd: Dafydd Wilson, Dylunio Graffig

Enillydd: Safiyyah Altaf, Dylunio Patrymau Arwyneb

Enillydd: Dawson Edwards, Celf Gain

Enillydd: Niam ODobhainn, Celf Gain

Gwobr Elizabeth Jeffries £200, cyflwynwyd gan Georgia McKie

Enillydd: Lucy Ralph, Patrymau Arwyneb a Thecstilau

Gwobr Rhys Bevan Jones £200, cyflwynwyd gan Gwen Beynon

Enillydd: Arianne Nicholas, Darlunio

Gwobr Grefftau Oriel Mission, cyflwynwyd gan Rhian Jones, Oriel Mission

Enillydd: Nia Gray, Patrymau Arwyneb a Thecstilau

Canmoliaeth Uchel: Hannah Sharpe, Crefftau Dylunio

Gwobrau Inspire Y Drindod Dewi Sant £200 yr un, cyflwynwyd gan Chris Holtom

Corey McComb, Dylunio Graffig

Caleb Morris, Technoleg Cerddoriaeth Greadigol

Joshua Rees, Ffotograffiaeth

Hannah Evans, Dylunio Cynnyrch

Zachery Dunlop, Crefftau Dylunio

Hannah Evans, Product Design

Zachery Dunlop, Design Crafts

Llawer o bobl y tu allan yn y cwrt adeg sioe haf brysur Coleg Celf Abertawe.

Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau