Skip page header and navigation

Mae Canolfan S4C Yr Egin wedi cyrraedd rhestr fer yng Ngwobrau Partneriaid Gwerthfawr Gyrfa Cymru. 

Poster â’r geiriau: Rydym ar y rhestr fer! Hyrwyddwr gorau’r Gymraeg yn y gweithle.

Mae’r Egin wedi cael ei henwebu i’r categori ‘Hyrwyddwr Gorau’r Gymraeg yn y gweithle’ oherwydd y gwaith y maen nhw’n ei wneud i ddarparu cymorth gyrfaoedd i ddisgyblion mewn ysgolion lleol drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal a dangos ei bwriad  fel hwb i fusnesau creadigol a digidol i gydnabod gwerth y Gymraeg fel sgil ar gyfer y gweithle ac  i gymryd rhan mewn digwyddiadau sy’n hybu pwysigrwydd y Gymraeg yn y gweithle.  

Mae’r seremoni wobrwyo hon yn gyfle i Gyrfa Cymru gydnabod a diolch i’r busnesau sydd wedi gweithio gyda nhw yn ystod y flwyddyn mewn digwyddiad arbennig. Mae’r gwobrau’n cael eu noddi gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething, a byddant yn cael eu cynnal ar Dachwedd 22ain  

Dywedodd Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru:  

“Llongyfarchiadau i Ganolfan S4C Yr Egin am gyrraedd rhestr fer Gwobr Partneriaid Gwerthfawr 2023.  

“Mae gweithio gydag ysgolion i ddarparu cymorth gyrfaoedd gwerthfawr yn helpu i ysbrydoli ac ysgogi cenhedlaeth iau, sef gweithlu’r dyfodol yng Nghymru.

“Rydym yn edrych ymlaen at groesawu Yr Egin i’r seremoni wobrwyo arbennig yn adeilad y Pierhead eleni ac yn dymuno pob lwc i bawb.” 

Plant ysgol uwchradd yn defnyddio iPads dan gyfarwyddyd oedolyn.

Mae’r Egin, sy’n gartref i dros 16 o fusnesau wedi bod yn cynnal nifer o ddiwrnodau agored gyda ysgolion Sir Gaerfyrddin er mwyn iddynt fedru cael mewnwelediad i’r hyn sydd gan y diwydiannau creadigol i’w gynnig a llwybrau gyrfa posibl. Un o’r ysgolion hynny yw Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin. Dywedodd Eirlys Thomas, Pennaeth Cynorthwyol yr ysgol:  

“Rydym ni yma yn ysgol Bro Myrddin yn ddiolchgar iawn o’r profiadau tu hwnt o werthfawr a gafwyd gan ein disgyblion Blwyddyn 9 a Blwyddyn 12 ar eu hymweliadau i’r Egin. Roedd arlwy llawn o weithgareddau wedi eu trefnu ar eu cyfer megis sgriptio a chyfieithu ar y pryd yn ogystal a chyflwyniadau gan gynrychiolwyr o S4C, Afanti a chyn-ddisgyblion sydd bellach yn rhan o’r tîm yn yr Egin. Roedd yn gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth o’r mathau gwahanol o yrfau a ellir eu gwneud drwy gyfrwng y Gymraeg yma yng Nghaerfyrddin.” 

Bwriad y seremoni yw i ddathlu’r gwaith y mae cyflogwyr wedi’i wneud i helpu ysgolion a phobl ifanc i ymgysylltu â’r byd gwaith. Mae partneriaethau rhwng busnesau ac ysgolion yn rhoi ysbrydoliaeth a chymhelliant i bobl ifanc. Mae gwybodaeth a phrofiadau gwerthfawr sy’n gysylltiedig â gwaith yn helpu pobl ifanc i gysylltu’r hyn y maent yn ei ddysgu yn yr ysgol â’r byd gwaith. 

Meddai Llinos Jones, Swyddog Ymgysylltu Yr Egin:  

“Rydym wrth ein boddau  o gael ein henwebu am wobr Partneriaid Gwerthfawr Gyrfa Cymru. Un o brif amcanion Yr Egin yw i feithrin talent y dyfodol, drwy gynnal digwyddiadau a hyrwyddo gyrfaoedd mae modd codi ymwybyddiaeth ymhlith pobl ifanc o’r holl gyfleon sydd ar gael iddynt yn y diwydiannau creadigol, yn Sir Gâr, a hynny yn y Gymraeg.  

“Diolch o galon i bawb rydym wedi  cydweithio â hwy,  rydym wedi  datblygu partneriaethau gyda  â Gyrfa Cymru, Tîm Ehangu Mynediad Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, ac amryw o gwmnïau creadigol a digidol sydd wedi eu lleoli yma yn Yr Egin er budd disgyblion ysgol ac effeithio’n gadarnhaol ar y Gymraeg.”

Person yn ei arddegau yn defnyddio iPad yn rhan o weithgarwch dosbarth.

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau