Dathlu llwyddiant myfyrwyr yn seremonïau Graddio Caerfyrddin
Mae seremonïau graddio dosbarth 2023 Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn parhau yng Nghanolfan Halliwell ar gampws Caerfyrddin heddiw (3 Gorffennaf).
![Dyn ifanc a dwy ddynes ifanc mewn gynau academaidd, cyflau a hetiau yn gwenu ar gyfer y camera.](/sites/default/files/styles/media_component_16_9_sm/public/2023-10/uwtsd-celebrates-at-carmarthen-graduation-ceremonies.jpg?h=2d235432&itok=ENXekZlg)
Mae’r seremonïau’n rhoi cyfle i ddathlu eu llwyddiant a’u hymrwymiad, ac i alluogi cymuned y Brifysgol i gydnabod cyflawniadau eu myfyrwyr.
Dywedodd Is-ganghellor y Drindod Dewi Sant, yr Athro Medwin Hughes, DL: “Mae’r seremoni raddio yn nodi uchafbwynt gyrfa academaidd ein myfyrwyr. Mae’n ganlyniad gwaith caled ac ymrwymiad, ond dylem hefyd gofio’r gefnogaeth a roddwyd gan deulu a ffrindiau.
“Bydd y myfyrwyr yn graddio gyda’r sgiliau a’r priodoleddau sydd eu hangen arnynt i wneud gwahaniaeth yn eu gyrfa ddewisol. Hyderaf, wrth iddynt edrych yn ôl ar eu cyfnod fel myfyriwr yn y Brifysgol, eu bod yn mynd â’r cyfeillgarwch niferus a’r atgofion hapus o’u hamser yma gyda nhw, ac y bydd eu profiadau yn y brifysgol yn eu gwasanaethu’n dda gydol eu hoes.
“Rwy’n dymuno pob llwyddiant iddynt ar gyfer y dyfodol ac yn eu hatgoffa, fel cyn-fyfyrwyr y Brifysgol hon, y byddwn yn ymdrechu i’w cefnogi ac yn gobeithio y byddwn yn parhau i gadw mewn cysylltiad â ni.”
![Taflen raddio ddwyieithog gydag arfbais PCYDDS ar y clawr blaen.](/sites/default/files/styles/media_component_4_3_sm/public/2023-10/uwtsd-celebrates-at-carmarthen-graduation-ceremonies-2.jpg?h=c6938bea&itok=M3gE-eNc)
Bydd deuddydd o seremonïau yng Nghaerfyrddin yr wythnos hon (Gorffennaf 3 a 4).
Gallwch wylio pob un o’r seremonïau’n fyw ar wefan y Brifysgol drwy fynd i:
![Cerflun metel o’r Ddraig Goch yn codi dros darian herodrol metel mewn gwely blodau yn llawn blodau Mihangel gwyn ac oren.](/sites/default/files/styles/media_component_16_9_sm/public/2023-10/carmarthen-celebrates-at-carmarthen-graduation-ceremonies.jpg?h=2d235432&itok=vmYyTBUq)
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076