Gwobr Cyflawniad Oes Golygyddion am Gyfraniadau i Hyfforddiant ac Addysg
Mae’r Athro Annette Fillery-Travis Y Drindod Dewi Sant wedi derbyn Gwobr Cyflawniad Oes Golygydd am gyfraniadau i Hyfforddiant ac Addysg i gydnabod y cyfraniad eithriadol mae hi wedi’i wneud yn y meysydd hyn.
![Yr Athro Annette Fillery-Travis yn gwenu o flaen gliniadur.](/sites/default/files/styles/media_component_16_9_sm/public/2023-10/editors-lifetime-achievement-award-1.jpg?h=2d235432&itok=cJ_JXlOL)
Cafodd yr Athro Fillery-Travis, Cyfarwyddwr Academaidd Profiad Academaidd y Coleg Doethurol, lle mae hi’n dilyn ei hawch am hwyluso datblygiad proffesiynol unigolion, ei hanrhydeddu yn y Gynhadledd Hyfforddi yn y Gwaith Flynyddol Rithwir ar 20 Mehefin.
Gwnaeth y wobr gydnabod y cyfraniad a wnaed gan yr Athro Fillery-Travis, gan ddechrau yn 2006 drwy gyhoeddi ‘The Case for Coaching’ – cyhoeddiad CIPD gyda’r Athro David Lane a Jessica Jarvis sy’n dal i fod mewn print hyd heddiw ac sy’n destun sefydlog ar raglenni addysg hyfforddwyr. Cafodd ei nodi’n gyhoeddiad cyntaf o’i fath i gasglu’r sail tystiolaeth ar gyfer y gwaith a’i arfer proffesiynol.
Ers hynny, mae hi wedi cyhoeddi llawer o waith yn y maes ac wedi goruchwylio dros 25 o ddoethuriaethau a nifer o fyfyrwyr meistr ym maes hyfforddi a disgyblaethau cysylltiedig gan gyfrannu at sefydlu corff cadarn o wybodaeth mewn llwybr datblygu sefydledig i ymarferwyr proffesiynol ar draws sectorau. Sefydlodd yr Athro Fillery-Travis y Gymdeithas Hyfforddi yn Y Drindod Dewi Sant ac mae ei gynhadledd flynyddol yn ceisio darparu datblygiad i hyfforddwyr ledled Cymru.
Dywed yr Athro Fillery-Travis:
“Mae hyn yn anrhydedd fawr ac yn un rwy’n ei rhannu gyda fy nghydweithwyr, myfyrwyr Doethurol a Graddau Meistr y gorffennol a’r presennol. Nhw sydd wedi gwneud y cyfraniad hwn yn bosibl.”
Dywedodd yr Athro Elena Rodriguez-Falcon FREng, Dirprwy Is-Ganghellor: “Rydym wrth ein bodd bod yr Athro Fillery-Travis wedi derbyn y wobr fawreddog hon.
“Mae’r Athro Fillery-Travis yn awdurdod blaenllaw ar ddysgu proffesiynol a thrwy brofiad sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr i’r Brifysgol.”
Nodyn i’r Golygydd
Mae’r Athro Fillery-Travis yn uwch addysgwr hyfforddwr, ymchwilydd ac awdur. Ar ôl gyrfa lwyddiannus yn wyddonydd ymchwil, lle’r oedd hi’n Gymrawd y Gymdeithas Gemeg Frenhinol ac awdur dros 50 o bapurau academaidd, dechreuodd ail yrfa gyda’r Sefydliad Datblygu Proffesiynol ar ôl sicrhau Gradd Meistr mewn Datblygu Proffesiynol. Daeth yn Brif Swyddog Gweithredol a dyluniodd rhaglenni arweinyddiaeth ar gyfer rheolwyr y sector cyhoeddus ac arweinwyr ysgolion, a rhaglenni hyfforddi rheolwyr hyfforddwyr ar draws amrywiaeth o sectorau.
Yn ystod cyfnod sabothol ym Mhrifysgol Manceinion yn 2008, roedd yr Athro Fillery-Travis yn gyfrifol am ddiwygio’r Radd Meistr mewn Arweinyddiaeth Addysgol ac yn 2010 symudodd i Brifysgol Middlesex lle’r oedd hi’n Bennaeth cyfadran ar gyfer Doethuriaeth Broffesiynol lle bu’n goruchwylio dros ugain o ddoethuriaethau hyfforddi ac yn rhedeg y Grŵp Ymchwil Gwaith a Dysgu.
Mae’r Athro Fillery-Travis hefyd wedi gweithio’n ymgynghorydd ar ystod o sefydliadau Fortune 500 gan gynnwys Nationwide US ar draws ystod o sectorau.
Ar hyn bryd, hi yw prif ymchwilydd prosiect traws-Ewropeaidd ar y Ddoethuriaeth Fodern a ariennir gan yr UE.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071