Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn dathlu effaith drawsnewidiol ei Fframwaith Ymarfer Proffesiynol (FfYP) wrth rymuso datblygiad gyrfa drwy ddysgu drwy brofiad.

A photo of Lee Winter

Ym maes datblygiad proffesiynol, mae taith Lee Winter yn dyst i botensial trawsnewidiol y FfYP. Mae ei gynnydd rhyfeddol yn adain hyfforddi Lluoedd Arbennig y Deyrnas Unedig (UKSF), o Asgell-Brif Hyfforddwr i Uwch Swyddog Rhestredig, yn  egluro pŵer dysgu drwy brofiad mewn datblygu gyrfa a thwf personol. 

Mae Sarah Loxdale, Uwch-ddarlithydd yn nhîm y Fframwaith Ymarfer Proffesiynol yn PCYDDS, yn canmol ymrwymiad Lee i ddysgu parhaus, gan nodi:

“Mae taith Lee yn tynnu sylw at bŵer trawsnewidiol dysgu drwy brofiad wrth lunio datblygiad proffesiynol.Mae ei ymroddiad i hyrwyddo methodolegau hyfforddi a’i ddilyniant yn yr adain hyfforddi yn dangos pwysigrwydd profiad ymarferol wrth gynyddu datblygiad gyrfa.” 

Mae Lowri Harris, Uwch Ddarlithydd yn y FfYP, yn pwysleisio rôl y fframwaith wrth rymuso unigolion fel Lee i ddefnyddio eu profiadau ymarferol ar gyfer cydnabyddiaeth academaidd a thwf personol.

 “Mae’r Fframwaith Ymarfer Proffesiynol yn darparu llwybr i unigolion ffurfioli’r hyn y maen nhw’n ei ddysgu drwy brofiad, gan eu galluogi i ennill credydau academaidd a datblygu eu gyrfaoedd,” 

 “Mae taith Lee yn enghraifft o werth integreiddio arbenigedd ymarferol a myfyrio academaidd i sicrhau llwyddiant proffesiynol.” 

Mae stori Lee yn dyst i effeithiolrwydd y FfYP wrth bontio’r bwlch rhwng profiad ymarferol a chydnabyddiaeth academaidd.Trwy’r fframwaith, mae unigolion fel Lee yn cael eu grymuso i drosoli eu harbenigedd yn y byd go iawn ar gyfer datblygiad personol a phroffesiynol. 

Wrth i ni ddathlu Wythnos Dysgu yn y Gwaith, mae’r Drindod Dewi Sant yn  ailddatgan ei hymrwymiad i ddarparu cyfleoedd dysgu arloesol sy’n grymuso unigolion i ddatgloi eu potensial llawn a chyflawni eu nodau gyrfa. 

I gael rhagor o wybodaeth am y Fframwaith Ymarfer Proffesiynol yn PCYDDS, cysylltwch â ppf@pcydds.ac.uk .


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon