Skip page header and navigation

Ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, (PCYDDS) rydym yn dathlu’r gwaith gwych sy’n digwydd mewn Adrannau Tecstilau ar draws De Cymru mewn arddangosfa gydweithredol.

Siaced a sgert swigen aml-ffabrig grungy wedi’u harddangos ar fodelau.

Mae Talent Tecstilau Abertawe yn dod ag athrawon ac arbenigwyr ynghyd i rannu arfer, sgiliau a gwybodaeth wych, gan arddangos y cyfleoedd gwych sydd ar gael ar gyfer gyrfaoedd ym maes Tecstilau a’r maes Patrwm Arwyneb ehangach.

Bydd y Digwyddiad yn cynnwys Arddangosfa wedi’i churadu o waith gwych myfyrwyr Ysgolion Uwchradd a Cholegau, ynghyd â chyfleoedd i fynd ar daith o amgylch yr adran, ymgysylltu â myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr, a bydd yn dod i ben gyda Seremoni Gwobrwyo a gynhelir gan y beirniad gwadd, Huw Rees o S4C a wedi’i ffilmio gan Tinopolis.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Rhaglen, Georgia McKie: “Byddwn yn hyrwyddo pobl greadigol y dyfodol y tu hwnt i’w hystafelloedd dosbarth, ac yn rhoi cyfle unigryw i fyfyrwyr edrych ymlaen os ydynt yn dewis parhau i astudio Tecstilau a Phatrwm Arwyneb mewn AU.

“Rydym yn arddangos ac yn dathlu detholiad o waith myfyrwyr, gan roi cipolwg unigryw iddynt o’r hyn a allai fod o’u blaenau. Rydym yn arddangos cyfraniadau gan raddedigion Patrymau a Thecstilau Arwyneb, fel bod cyfranogwyr yn gallu gweld lle mae’r egni a’r priodoleddau a nodir yn ein categorïau gwobrau wedi eu harwain yn eu bywydau a’u gyrfaoedd.”

Bydd y Brifysgol yn croesawu disgyblion o Ysgolion Cyfun Treforys a’r Esgob Gore, Coleg Gwent, St Clare’s Porthcawl, Ysgol Gyfun Bryntawe, Dylan Thomas ac Ysgol Dyffryn Aman i Goleg Celf Abertawe PCYDDS yr wythnos hon.

Mae’r digwyddiad hefyd yn cyd-fynd yn agos ag arddangosfa deithiol fyd-eang Craft Hub UE sy’n cynnwys nifer o gyn-fyfyrwyr a’u gwaith.

Yn ogystal, mae’r arddangosfa’n dathlu Cwilt200 ac yn arddangos y darn olaf ar y campws am y tro cyntaf. Mae’r prosiect hwn yn benllanw cydweithrediad rhwng llawer o bartneriaid ysgolion a cholegau a’n myfyrwyr Patrymau Arwyneb a Thecstilau ein hunain.

Mae’r arddangosfa ar agor tan 28ain Medi ac rydym yn croesawu grwpiau ysgolion a cholegau, ac athrawon a thiwtoriaid i ymweld. Cysylltwch â’r tîm i drefnu taith o amgylch yr adran a’r posibilrwydd o gael gweithdy blasu.

Dywedodd Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Coleg Celf Abertawe: “Rydym yn falch iawn o groesawu Swansea’s Got Textile Talent ac nid yn unig yn rhannu talentau ein myfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr ond hefyd yn gwahodd talent newydd i ymuno â ni o ysgolion a cholegau ledled Cymru.

“Cafodd y cwrs BA Patrwm Arwyneb a Thecstilau yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS ei gosod yn 3ydd yn y DU yn Nhabl Cynghrair y Guardian 2023 ar gyfer Ffasiwn a Thecstilau ac yn 1af yng Nghymru. Rydym yn arwain y sector ac rydym am allu rhannu’r wybodaeth a’r profiad hwn i helpu i hysbysu pobl ifanc ar eu taith greadigol”.

Mae’r cyn-fyfyrwyr o Goleg Celf Abertawe sy’n cynnal gweithdai ac yn arddangos fel rhan o brosiect Craft Hub EU ac arddangosfa deithiol fyd-eang yn cynnwys:

Naomi Seaward – cyn-fyfyriwr Mdes, mae hi wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r Llyfrgell Ddeunyddiol a’r Prosiect Hwb Crefft. Mae ei gwaith patrwm arwyneb a thecstilau amrywiol ac amlddisgyblaethol yn cael ei arddangos yng Nghanolfan Dylan Thomas.

Mae Angela Maddock yn gyn-fyfyriwr BA ac MA, ac yn gyn Uwch Ddarlithydd yng Ngholeg Celf Abertawe, yn Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus y Coleg Celf yma ac yn cynnal gweithdy Atgyweirio a Chwiltio Canolfan Grefftau yn yr adran SP&T ar 15/9/23

Mae Sian Lester – cyn-fyfyriwr MA, yn cynnal gweithdy Hwb Crefftau Lliwiau Naturiol Gwyllt yn yr adran SP&T ar 15/9/23

Mae Harriet Popham – cyn-fyfyriwr BA, yn cynnal gweithdy Hwb Crefftau Argraffu a Phatrwm Lino yn yr adran SP&T ar 15/9/23

Safiyyah Altaf ac Isabel Porch – Mae Safi yn fyfyriwr Meistr Dylunio Patrymau Arwyneb a Thecstilau ar hyn o bryd, a graddiodd Isabel gyda BA (Anrh) Patrwm Arwyneb a Thecstilau yn yr haf - maent yn cynnal gweithdy Argraffu a Phatrwm yn y Cwadrant dros gyfnod yr Ŵyl.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon