Skip page header and navigation

“Roeddwn wastad wedi teimlo bod llwybr gyrfa gwahanol ar gael i mi yn rhywle,” meddai Amy Harris, triniwr gwallt 35 oed a ddewisodd ailhyfforddi a dod o hyd i gyfeiriad newydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).

Grŵp yn gwenu ar y llwyfan mewn cynhadledd gan gynnwys Amy Harris.

Yn 2019, clywodd Amy fod ffrind wedi cofrestru ar gwrs Tystysgrif AU Sgiliau ar gyfer y Gweithle yn y Drindod Dewi Sant, a phenderfynodd roi cynnig arni. “Wrth wrando ar eiriau caredig fy ffrind o anogaeth a hyder, dechreuais feddwl: wel, efallai y gallwn i wneud hyn hefyd,” meddai.

Cofrestrodd Amy ar unwaith. Gan ddefnyddio’r cwrs fel modd o gael mynediad i’r byd academaidd ac fel cam tuag at newid gyrfa’n llwyr, wrth edrych yn ôl nawr mae hi “methu credu bod pedair blynedd wedi mynd heibio”.

“Roeddwn bob amser yn anelu at y cwrs Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol. Mae gen i uchelgais i deithio’r byd, dysgu am sut mae gwahanol ddiwylliannau’n gweithredu ac i ddatblygu fy sgiliau yn y diwydiant twristiaeth,” meddai.

Drwy gyfrwng ei gradd Baglor, mae Amy eisoes wedi cyflawni’r nod hwn wrth fynd ar deithiau’r cwrs i Aspen Colorado a’r Swistir, yn ogystal â nifer o gyfleoedd astudio a gweithio yn y DU.

Ond yn 2022, wynebodd drasiedi pan gafodd ei thad ddiagnosis o ganser terfynol a bu farw o fewn ychydig wythnosau, gan adael Amy wedi torri ei chalon ac yn ei chael hi’n anodd cymell ei hun i astudio.

“Pan fu farw fy nhad, roeddwn yn ei chael hi’n anodd canolbwyntio ar waith prifysgol ac roeddwn ar ei hôl hi o ran yr aseiniadau. Cefais estyniadau ar gyfer fy ngwaith cwrs ond penderfynais ddychwelyd i’r dosbarthiadau ar unwaith – roeddwn wedi gweithio’n rhy galed ac am gyfnod rhy hir i beidio â graddio gyda fy nghyd-fyfyrwyr ym mis Gorffennaf 2023.”

Roedd Amy’n benderfynol, gan egluro, “Fe wnaeth gymryd fy holl nerth a’m hewyllys i wthio drwy’r amseroedd tywyll, ond fe wnes i gyrraedd y diwedd gyda chefnogaeth fy narlithwyr, a thîm Llesiant y Brifysgol, a ddysgodd dechnegau i mi i helpu gyda fy emosiynau, a oedd yn brofiad cadarnhaol.”

“Rwy’n gwybod y bydd fy nhad yn falch o’m holl waith caled, ac am raddio gyda 2.1 er gwaethaf yr heriau rydw i wedi’u hwynebu yn ystod y tair blynedd diwethaf o astudio.”

“O ganlyniad i’r cysylltiadau gwych â’r diwydiant y mae’r Drindod Dewi Sant yn eu cynnig, roedd gen i ddewis o ddwy swydd ar gyfer fy lleoliad. Roedd y cyntaf gyda Royal Caribbean Cruises, a’r ail gyda The Travel Corporation fel Cyfarwyddwr Llesiant.

“Ar ôl pwyso a mesur manteision ac anfanteision y ddwy swydd, penderfynais fynd am y swydd gyda The Travel Corporation fel y gallwn deithio adref am ychydig ddyddiau ar y tro rhwng teithiau i ymweld â fy nhad cyn iddo farw. Roedd y swydd gyda’r Royal Caribbean yn gynnig anhygoel, ond ar y pryd ni allwn ymrwymo i fod i ffwrdd am chwe mis llawn.

“Yn y pen draw, rhoddodd y lleoliad a ddewisais yr hyder i mi i deithio ar fy mhen fy hun am y tro cyntaf a rhoi’r sgiliau a ddysgais yn y Drindod Dewi Sant ar waith, a oedd yn ganlyniad rhagorol.

“Cyfleoedd eraill rydw i wedi gweithio arnyn nhw yw Cynhadledd a Ffair Yrfaoedd Future You yr ITT a digwyddiad yn y Senedd. Rwyf hefyd wedi gwneud pethau mor amrywiol â gwaith cyfryngau cymdeithasol a marchnata, wedi archwilio y tu ôl i’r llenni yn Stadiwm Principality ac wedi gweithio fel gwesteiwr mewn digwyddiad rasio ceffylau yn Sir Gaerfyrddin.”

Gwnaeth y rhaglen radd alluogi Amy i ddod yn aelod myfyriwr o Sefydliad Lletygarwch Cymru gan arwain at wahoddiadau i ddigwyddiadau a chyfleoedd rhwydweithio rhagorol. Hi bellach yw Cynrychiolydd Myfyrwyr ABTA ar gyfer ei rhanbarth, ac mae hefyd yn falch o gynrychioli’r myfyrwyr ar ei chwrs i roi llais i’w barn yn y Drindod Dewi Sant.

“Byddwn i’n argymell y rhaglen Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol i unrhyw fyfyriwr, beth bynnag yw eu hoedran.

“Mae’r cwrs wedi fy helpu i weld fy mhotensial; rwyf bellach yn gwneud cais am swyddi yn Aspen Colorado ac rwy’n falch i fod yn aelod o Gyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.”


Gwybodaeth Bellach

Ella Staden

Swyddog y Wasg a’r Cyfryngau    
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus    
E-bost:  ella.staden@pcydds.ac.uk    
Ffôn: 07384467078

Rhannwch yr eitem newyddion hon