Skip page header and navigation

Bydd myfyrwyr ôl-raddedig o’r rhaglenni Doethuriaeth Broffesiynol mewn Celf a Dylunio ac MA Celf a Dylunio yn Y Drindod Dewi Sant yn cynnal prosiect ymchwil arloesol ym Mharis fis nesaf (Rhagfyr) i archwilio dulliau newydd o gasglu data a chael dealltwriaeth ddyfnach o ffyrdd o fyw a phrofiadau cynulleidfaoedd cyfoes.

Wal lwydwyn glytiog gyda’r geiriau Midnight in Paris wedi’u sgriblan arni.

Bydd y myfyrwyr yn cynnal cyfres o brosiectau ymchwil ar draws Paris, gan ddefnyddio methodolegau arloesol i gasglu data ac archwilio sut mae unigolion yn rhyngweithio â’r byd o’u cwmpas ac yn ei ganfod. Bydd un astudiaeth achos gyfareddol yn cynnwys gwaith maes gan ddefnyddio Rhythmanalysis, sef dull unigryw o astudio ardal hanesyddol Le Marais. Drwy ddadansoddi rhythmau a phatrymau bywyd bob dydd trwy ffilm, sain, ffotograffiaeth, brasluniau ac ati, mae’r myfyrwyr yn gobeithio cael canfyddiadau newydd ar wead diwylliannol yr ardal eiconig hon.

Yn ogystal, bydd y myfyrwyr yn defnyddio technoleg symudol i ymchwilio i sut y gellir defnyddio data a gesglir o wahanol raglenni yn effeithiol i wella dealltwriaeth dylunwyr o arferion cwsmeriaid. Trwy ymchwilio i’r gronfa enfawr o wybodaeth sydd ar gael trwy apiau, nod y prosiect hwn yw chwyldroi’r ffordd y mae dylunwyr yn cysylltu â’u cynulleidfaoedd targed.

Penllanw’r ymchwil hwn fydd cynhadledd ac arddangosfa a gynhelir ym mis Awst yng Ngholeg Celf y Brifysgol yn Abertawe. Bydd y gynhadledd a’r arddangosfa’n arddangos canfyddiadau’r myfyrwyr, gan ddarparu llwyfan ar gyfer rhannu eu darganfyddiadau cyffrous a’u methodolegau arloesol â’r cymunedau academaidd ac artistig ehangach.

Meddai Timi O’Neill, rheolwr rhaglen y Ddoethuriaeth mewn Celf a Dylunio, ac YMA Celf a Dylunio yn Y Drindod Dewi Sant, Coleg Celf Abertawe: “Mae’r daith gwaith maes ymchwil hon i Baris yn gyfle unigryw i’n myfyrwyr ôl-raddedig wthio ffiniau gwybodaeth mewn celf a dylunio. Trwy ddefnyddio dulliau ymchwil newydd ac archwilio technolegau blaengar, ein nod yw paratoi’r ffordd ar gyfer canfyddiadau a phosibiliadau creadigol newydd. Rydyn ni’n gyffrous i rannu’r canfyddiadau hyn â’r cyhoedd drwy ein harddangosfa, a fydd, heb os, yn ysbrydoli ac yn ysgogi trafodaethau ystyrlon. Ein nod yw paratoi ein myfyrwyr ar gyfer y dyfodol gan ei fod yn argoeli bod yn un heriol.

Meddai Dr Mark Cocks, Deon Dros Dro Athrofa Celf a Gwyddoniaeth Cymru: “Hoffwn i longyfarch y myfyrwyr a’r staff sydd wedi ysbrydoli’r prosiect ymchwil arloesol hwn. Mae amgylchedd academaidd deinamig y Ddoethuriaeth Broffesiynol mewn Celf a Dylunio a rhaglenni MA Celf a Dylunio yn darparu dull cydweithredol o gasglu a rhannu gwybodaeth am ffyrdd o fyw cyfoes. Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed sut mae eu taith i Baris yn ymestyn ffiniau cymunedol y prosiect cyffrous hwn ymhellach.”

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ymrwymo i gefnogi mentrau ymchwil sy’n hyrwyddo dealltwriaeth ac sy’n cyfrannu i’r  gymuned gelf a dylunio fyd-eang. Mae’r prosiect hwn nid yn unig yn dangos ymroddiad y brifysgol i feithrin arloesedd ond mae hefyd yn tynnu sylw at dalent ac arbenigedd eithriadol ei myfyrwyr ôl-raddedig cartref a rhyngwladol.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau