Skip page header and navigation

Mae Harry Bolton, myfyriwr uchelgeisiol BA Dylunio Modurol a Thrafnidiaeth, yn dathlu diwedd ei drydedd flwyddyn a dechrau blwyddyn gyffrous o’i flaen wrth iddo baratoi i ddechrau interniaeth â thâl gyda Roll Royce Motor Cars. 

Dyn yn sefyll tu ôl i gar model
Harry'n dangso ei waith yn sioe radd ar ddiwedd ei trydedd flwyddyn

Mae Harry yn dod o Surrey ac astudiodd Peirianneg, Dylunio Cynnyrch a Busnes ar gyfer Lefel A. Dewisodd Y Drindod Dewi Sant oherwydd ei dosbarthiadau bach a’i phrofiad addysgu a dysgu personol. Mae’n cydnabod effaith y gefnogaeth unigol a chafwyd yn y brifysgol gan helpu i adeiladu ei gysylltiadau a sefyll allan i ddarpar gyflogwyr.

Yn wir, mae Harry wedi creu argraff ar gyflogwyr ac wedi denu sylw’r gwneuthurwr ceir moethus, Rolls Royce, sydd wedi cynnig cyfle iddo ymuno â nhw am interniaeth â thâl 13 mis o fewn y tîm Dylunio Pwrpasol.

Trwy gysylltiadau presennol y Brifysgol â’r cwmni o fri – sydd wedi helpu i lansio gyrfaoedd nifer o’n graddedigion – daeth Rolls Royce at staff addysgu Dylunio Moduro i chwilio am ddarpar ymgeiswyr i lenwi’r interniaeth. 

Mae rhaglen interniaeth y cwmni yn gystadleuol iawn, gan ddenu’r myfyrwyr disgleiriaf a mwyaf talentog o bob cwr o’r byd.

O’r dechrau, roedd y broses ddethol yn heriol, ac aeth ymgeiswyr trwy sawl rownd, gan gynnwys dewis portffolio, tasg ddylunio a chyfweliad. 

Roedd Harry yn llwyddiannus yn y broses ddethol hon, a bydd yn ymuno ag un o’i gyd-raddedigion BA Dylunio Moduro, Alistair Barkley yn ogystal â cyn-fyfyrwraig BA Patrwm Arwyneb a Thecstilau, Rebecca Davies. Mae’r ddau wedi trosglwyddo’n llwyddiannus i swyddi llawn amser gyda Rolls Royce ar ôl cwblhau eu hinterniaethau. 

Mae gan gyn-fyfyrwyr BA Dylunio Modurol, Matthew Danton a Simon Paul Haynes swyddi yn y cwmni hefyd, gan ei wneud yn dipyn o aduniad ar gyfer cyn-fyfyrwyr PCYDDS ac mae wir yn dyst i ansawdd graddedigion y Brifysgol. 

Bydd Harry yn graddio’r haf nesaf ar ôl cwblhau ei bedwaredd flwyddyn yn y diwydiant. 

Dyn yn sefyll o flaen yr arddangosfa

"Trwy gefnogaeth un-i-un a ddarparwyd gan y darlithwyr, mae'r wybodaeth fewnol ar sut i feithrin cysylltiadau yn y diwydiant a sefyll allan wrth chwilio am eich swydd gyntaf wedi bod yn amhrisiadwy."

Dywedodd ei ddarlithydd, Sergio Fontanarosa, Cyfarwyddwr Rhaglen a Chydlynydd Lleoliadau Diwydiant BA Modurol a Dylunio Trafnidiaeth:

“Rydym yn hynod falch o Harry. Mae’r lleoliad hwn yn adlewyrchu ei waith caled, ei greadigrwydd a’r hyfforddiant a’r coetsio trylwyr a ddarperir gan y cwrs.

“Bydd Harry yn dod i gysylltiad â phob rhan o stiwdio ddylunio Rolls Royce, a gyda hyfforddiant gan gyn-fyfyrwyr sy’n gweithio yno ar hyn o bryd, rydym yn hyderus y bydd yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r cwmni ac yn parhau i ragori yn ei yrfa. 

“Rydym hefyd yn ddiolchgar i dîm Dylunio Pwrpasol Rolls Royce am gyfle gwych arall i’n myfyrwyr, ac edrychwn ymlaen at barhau â’r bartneriaeth lwyddiannus hon.”


Gwybodaeth Bellach

Mared Anthony

Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus: Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr   
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus   
E-bost: mared.anthony@pcydds.ac.uk     
Ffôn: +447482256996

Rhannwch yr eitem newyddion hon